Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Adroddiad Craig Duggan BBC Cymru
"Roedd wedi cael ei thrywannu 50 o weithiau"
 real 56k

Dydd Iau, 6 Mawrth, 2003, 16:54 GMT
Lynette: Cyhuddo dyn
Cafodd Lynette White ei lladd 14 mlynedd yn l yng Nghaerdydd
Cafodd Lynette White ei llofruddio uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd
Mae'r heddlu wedi cyhuddo Jeffrey Charles Gaffoor, 38, o ardal Rhondda-Cynon-Taf o lofruddio Lynette White yng Nghaerdydd 15 mlynedd yn l.

Mi fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore Gwener.

Wedi iddo gael ei arestio'r wythnos diwethaf bu'n derbyn triniaeth ysbyty cyn cael ei ryddhau i ofal yr heddlu ddydd Mercher.

Bu farw Lynette White yn 1988
Lynette White: Bu farw yn 1988
Cafodd Ms White ei thrywanu yn ei fflat yn ardal Trebiwt ar Ddydd San Ffolant yn 1988.

Bu'r heddlu'n chwilio t yn Llanharan, Rhondda Cynon Taf, wrth ymchwilio i'w llofruddiaeth.

Roedd ymchwiliad Lynette White yn un o'r rhai mwya dadleuol yn hanes Heddlu De Cymru.

Ar y dechrau, rhyddhaodd yr heddlu luniau cyfrifiadurol o ddau ddyn gwyn oedd yn cael eu hamau.

Yn dilyn ymchwiliad enfawr, cafwyd Yusef Abdullahi, Steve Miller a Tony Paris yn euog yn 1990 o'i llofruddio.

Cafodd y tri eu carcharu am oes.

Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach rhyddhaodd y Llys Apl y tri.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.