|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mercher, 5 Chwefror, 2003, 15:30 GMT
Arf wedi'i ddefnyddio i ladd postmon
Mae'r heddlu'n holi o dý i dý ac yn holi gyrwyr
Mae ditectifs wedi datgan fod y postmon a gafodd ei lofruddio tra'n dosbarthu llythyrau yn Yr Wyddgrug wedi ei daro ar ei ben gydag arf.
Mewn cynhadledd newyddion fore dydd Mercher dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i geisio deall beth oedd bwriad yr ymosodiad ar Paul Savage, 30 oed. Cafodd dau ddyn ifanc eu gweld yn Ffordd Clayton, Yr Wyddgrug ychydig cyn i Mr Savage gael ei ddarganfod yn gorwedd yn anymwybodol yn ymyl ei feic a'i sach lythyrau toc wedi 0700 GMT fore dydd Mawrth.
"Mae'n rhy gynnar i ddweud pa arf a gafodd ei ddefnyddio" meddai. Mae swyddogion yr heddlu yn y gogledd yn trafod gyda'u cyd weithwyr ym Manceinion i geisio deall beth oedd y bwriad yr ymosodiad. Roedd Paul Savage wedi symud i'r Wyddgrug o Sale ym Manceinion. Yn y cyfamser mae ystafell arbennig wedi ei sefydlu yng Nglannau Dyfrdwy ac mae 30 o swyddogion yn gweithio ar yr achos. Pryder Yn y gynhadledd fe soniodd Mr Corcoran hefyd am y pryder ymysg trigolion yr ardal o gwmpas Clayton Road gan sicrhau fod mwy o heddweision wedi eu galw i'r ardal. Bu Mr Savage farw yn yr ysbyty yn fuan wedi i'r Cynghorydd Ray Dodd ddod o hyd iddo. Roedd Mr Dodd yn un rhai olaf i dderbyn ei bost gan Mr Savage.
"Roedd yr anafiadau yn amlwg yn rhai difrifol. Roedd yna eira ar y palmant oedd wedi ei orchuddio gan waed" ychwanegodd. Mae blodau wedi eu gosod ar y safle lle daethpwyd o hyd i gorff Mr Savage a chafwyd munud o dawelwch yn y swyddfa ddosbarthu yn Yr Wyddgrug fore dydd Mercher. Roedd Mr Savage wedi bod yn gweithio yma ers ychydig fisoedd wedi iddo symud i ogledd Cymru gyda'i wraig a'i ferch bedair oed. Holi Yn y cyfamser mae'r heddlu wedi ail agor y ffordd, a fu ar gau ddydd Mawrth ac yn holi pob gyrrwr am unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth iddyn nhw. Maen nhw'n apelio ar i ddau ddyn ifanc a welwyd yn yr ardal o amgylch amser yr ymosodiad gysylltu gyda nhw i gynorthwyo'r ymchwiliad. Nid yw'n ymddangos fod unrhyw beth wedi ei ddwyn o fag Mr Savage ond mae wedi ei anfon i archwilwyr fforensig. Mae cwest i farwolaeth Mr Savage wedi ei agor a'i ohirio. Mae rhif arbennig wedi ei sefydlu i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llofruddiaeth sef - 01352-707552 neu Taclo'r Tacle ar 0800555111.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||||