|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mawrth, 28 Ionawr, 2003, 07:18 GMT
Amaeth: Oedi yn y system grantiau
Mae ffermwyr yn disgwyl blynyddoedd am eu grantiau
Ond yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, problemau cyfrifiadurol sydd wrth wraidd y trafferthion ac maen nhw'n gwneud eu gorau glas i'w datrys. Bnawn Mawrth, bydd aelodau o undeb yr NFU yn cyfarfod â Mr German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, i bwyso am wella'r sefyllfa. Fel rhan o gynllun amgylcheddol ar ei fferm mae Eifion Huws o Fodedern, Môn, wedi rhoi toeau llechi newydd ar rai o'r siediau, mi dalodd bron i £4,000 fis Mawrth diwethaf i ail wneud un adeilad. Mi gafodd y gwaith papur ei gyflwyno ym mis Awst ond mae'n dal i ddisgwyl am y siec. Disgwyl ers 2001 Ac ar lan Llyn Alaw ger Rhosgoch, eto ym Môn, mae William Edwards, hefyd, yn dal i ddisgwyl arian - pedwar o wahanol gymorthdaliadau a pheth o'r pres yn dyddio'n ôl i 2001. Mi wnaethon ni ofyn i'r Gweinidog Datblygu Gwledig a'i ddirprwy, Delyth Evans, am gyfweliad i egluro pam bod yna oedi ond doedd yr un ohonyn nhw ar gael. Ond mi gawson ni ddatganiad ysgrifenedig yn dweud mai'r problemau gyda system gyfrifiadurol newydd sydd wrth wraidd y trafferthion. Roedd swyddogion oedd i fod yn gweithio ar yr offer newydd wedi bod yn gysylltiedig â chlwy'r traed a genau yn 2001 sydd wedi arwain at oedi wrth roi'r system ar waith. Yn y pen draw, medden nhw, mi fydd y system newydd yn well ac yn fwy effeithiol.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||||||||||