|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mercher, 22 Ionawr, 2003, 12:21 GMT
Ydy Môn yn ynys?
Y Fenai yn gwahanu Môn oddi wrth y tir mawr
Mae'r honiad fod statws Ynys Môn fel ynys o dan fygythiad o ganlyniad i benderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd yn "nonsens, " medd swyddog o'r Comisiwn.
Mae llefarydd ar ran swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd wedi gwadu'r honiadau fod system i ddiffinio ynysoedd ar y gweill fyddai'n golygu na fyddai Ynys Môn na rhai o ynysoedd yn yr Alban yn cael eu galw'n ynysoedd. Dywedodd fod dyfyniad wedi ei dynnu o'i gyd-destun. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi amlinellu'r meini prawf newydd a fydd yn diffinio ynys. Roedd honiadau eu bod yn meddwl nad oedd ynys ddim yn ynys os oedd hi lai na milltir o'r tir mawr ac os oedd pont yn cysylltu'r ddau. 'Nonsens' Nonsens llwyr ydy hyn, meddai arweinydd Cyngor Ynys Môn, Goronwy Parry. "Mae 'na wallgofrwydd llwyr yn Ewrop os ydyn nhw'n dod â'r diffiniad newydd i mewn. "Rydan ni wedi cael ein cydnabod fel ynys ers canrifoedd. "Dwi'n methu dallt eu bod nhw'n mynd ar ôl pethau bach fel yma yn lle trafod pethau llawer mwy pwysig." Ond be ydy barn rhai o 'Wyr mawr Môn'?
A beth oedd gan un o feirdd y sir i'w ddweud?
Ac o gofio geiriau un arall o feirdd mawr Môn, Goronwy Owen, Pwy rydd i lawr wyr mawr Môn?
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||