|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mercher, 15 Ionawr, 2003, 07:20 GMT
Llechen yn uno'r gogledd a'r de
Canolfan: Agor ei drysau erbyn diwedd 2004
Mae llechen wedi cychwyn ar daith o Wynedd i lawr i Fae Caerdydd.
Mi fydd y llechen yn cael ei gosod y tu allan i safle Canolfan Mileniwm Cymru sy'n cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd.
Ond ar y ffordd i'r brifddinas bydd y llechen yn cael ei chludo fel y cludwyd deunydd yn ystod blynyddoedd cynta'r ganrif ddiwethaf. Daw'r llechen o Chwarel y Penrhyd, Bethesda a bydd yn cael ei chludo i'r de dros dir a môr, ar drol a cheffyl, trên ac ar long hwyliau o Borthmadog i Fae Caerdydd. Ac mae'r trefnwyr wedi comisiynu bardd i deithio gyda'r llechen yr holl ffordd i Gaerdydd. Bydd Grahame Davies, Uwchgynhyrchydd Cymru'r Byd, yn danfon adroddiadau rheolaidd. Mi fydd y llong yn cyrraedd bae Caerdydd fore Mawrth 21 Ionawr.
Yna bydd y canwr o Bant Glas, Dyffryn Nantlle, Bryn Terfel, yn gosod y llechen yn ei lle. Mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl y bydd y datblygiad yn costio dros £100m. Y gobaith yw y bydd yn barod erbyn diwedd 2004. Bydd y ganolfan newydd yn gartref i'r cwmni Opera Cenedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Hijinx, Touch Trust, Ty Cerdd a'r Academi. Daeth cynlluniau i godi'r adeilad wedi methiant y cynllun i godi Tý Opera Cenedlaethol yn 1995. Cartref i'r celfyddydau Gwrthododd Comisiwn y Mileniwm gefnogi'r cynllun i godi'r Tý Opera wedi i beirniadaeth gyhoeddus am gynllun y pensaer Zaha Hadid. Dywedodd fod Canolfan y Mileniwm yn "lleoliad pwysig ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru".
Mae'r pensaer Jonathan Adams wedi cynllunio'r adeilad a defnyddio llechi a dur i greu adeilad nodedig sy i fod i adlewyrchu treftadaeth y wlad. Croeso llugoer gafodd y cynllun oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol ym mis Ebrill 2001 oherwydd pryder am gynydd yn y costau. Cafodd y caniatâd ei gymeradwyo ym mis Ionawr 2002 ar ôl i'r Cynulliad gytuno ar gynnydd yn y cymorth ariannol o £37m o gyllideb y Cynulliad. Bydd gweddill y £100m o fuddsoddiad yn dod o'r sector preifat a grantiau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a Chomisiwn y Mileniwm.
Yn ystod dadleuon yn y Cynulliad, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jenny Randerson, fod yr adeilad yh bwysig. "Mae hwn yn brosiect neilltuol fydd yn gymorth i ddiffinio Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol," meddai. "Mae'n leoliad gwych i ddangos i'r byd y talent sydd ag a fydd gennym ni yng Nghymru." Ond dywedodd AC Blaenau Gwent, Peter Law, fod y cynllun yn "bwysau anorfod ar ysgwyddau trethdalwyr Cymru am byth".
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||||||