|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 10 Ionawr, 2003, 07:24 GMT
Pentref newydd ar safle purfa olew
Llun posib o'r pentref arfaethedig yn Llandarsi
Mae cynlluniau wedi'u datgelu i godi pentref newydd yng nghyffiniau Llandarsi, ger Castell-nedd, ar hen safle gwaith olew BP.
Dros y chwarter canrif nesa bydd dros 2,500 o gartrefi'n cael eu codi a'r amcangyfri yw y bydd dros 3,000 o swyddi'n cael eu creu. Y gobaith yw bod y cynllun yn mynd i ddenu buddsoddiadau o gymaint â £500m dros yr 20 mlynedd nesaf. Dyma'r cynllun mwyaf o'i fath yn y byd, cymuned hunangynhaliol fydd yn cynnwys amrywiaeth o swyddi ac adnoddau cymdeithasol.
Bydd y cynllun yn bartneriaeth rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus ac yn cynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, BP Amoco, Cyngor Nedd Port Talbot a Sefydliad y Tywysog. Sefydliad y Tywysog sy'n cefnogi'r cynllun a nhw oedd gyfrifol am godi pentref Poundsbury ger Dorchester, pentref sy'n llai na phentref arfaethedig Llandarsi. Mae'r Tywysog Charles wedi danfon neges drwy gyfrwng fideo at y cyfarfod lansio ddydd Gwener. Ar un amser bu purfa Llandarsi'n cyflogi 2,500 o weithwyr ond yn 1997 cyhoeddodd BP ac Amoco y byddai'r gwaith yn cau wedi 80 mlynedd ar y safle. Cafodd Datblygiadau BP D'arcy, is-gwmni BP, ei sefydlu i geisio creu swyddi ar y safle. Eisoes mae 70 o gyrff neu gwmnïau'n defnyddio'r safle, yn cyflogi rhwng un a 100 o bobol yr un.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||