![]() |
![]() |
|
![]() |
||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]()
![]()
|
![]() |
Dydd Mawrth, 7 Ionawr, 2003, 09:13 GMT
Gormod o bwysau gwaith ar weithwyr
![]() Dan bwysau: Gormod o weithwyr
Ond mae'r arolwg, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, yn dangos mai cyflogwyr Cymru yw'r gorau ym Mhrydain i geisio sicrhau nad yw eu gweithwyr yn dioddef.
Dywedodd 60% o gynrychiolwyr iechyd a diogelwch fod eu haelodau'n dioddef oherwydd gorweithio. A dywedodd Rhys Williams o undeb athrawon yr NUT fod pwysau gwaith yn arwain at bob math o dostrwydd. "Y mae sawl salwch yn deillio o ddiodde o bwysau gwaith, gan gynnwys pwysau gwaed ac anhwylder ar y coluddion," meddai. "Rydan ni i gyd yn gwybod bod rhai'n cael eu hachosi gan broblemau emosiynol a seicolegol." Problemau RSI Yn yr arolwg dywedodd cynrychiolwyr undeb fod cefnau tost a'r cyflwr RSI yn broblem mewn 40% o weithleoedd. Bedair blynedd yn ôl enillodd pedwar gweithiwr mewn banc yn Surrey eu hachos, y cyntaf ym Mhrydain, am iawndal ar gyfer y cyflwr RSI (Repetitive Strain Injury).
Erbyn hyn, mae'r TUC yn honni bod y cyflwr yn achosi pryder. Poenau yn y fraich, yr ysgwydd a'r gwddf ydy'r symptomau arferol. Yn ôl Ann Goddard, sy'n arbenigo ar y cyflwr yn ei gwaith fel Ymgynghorydd Diogelwch, mae sawl ffordd o geisio osgoi'r poenau. "Rhaid sicrhau bod pawb yn cael digon o amser i ffwrdd o'r cyfrifiadur ac i beidio gweithio yn gyson arno. "Wrth ddechrau gwaith newydd, rhaid sicrhau bod asesiad yn cael ei wneud o'r hyn ydy anghenion pawb wrth ddefnyddio'r llygoden a'r allweddell a'r gadair. "Mae'r modd y mae rhywun yn eistedd yn allweddol hefyd." Cyfleusterau Dywedodd Alwyn Rowlands o TUC Cymru fod gan gwmnïau lawer i'w wneud eto. "Mae'r adroddiad yn dangos bod cyflogwyr Cymru yn gwneud yn dda i osgoi problemau ond rhaid gwneud yn well a gweithio gyda'r undebau i wneud yn sïwr fod pobol yn cael gwell cyfleusterau yn y gwaith. "Mae gan y llywodraeth ran i'w chwarae i wneud yn sïwr bod y cyflogwyr yn cael cefnogaeth ganddyn nhw." Pe bai'r problemau'n cael eu datrys, byddai hyn yn gwneud y gweithwyr yn hapusach ac yn arwain at well economi, meddai'r TUC.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |