Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Mercher, 1 Ionawr, 2003, 16:29 GMT
Codi tollau Pont Hafren
Toll Pont Hafren
Mae 'na gynnydd o 10c ar y tollau dros Bont Hafren
Mae costau gyrru yng Nghymru wedi cynyddu dros y Calan.

O 1 Ionawr mae cost y doll ar y ddwy bont sy'n croesi Afon Hafren wedi codi yr un pryd ag y mae prisiau petrol wedi codi hefyd.

Cododd y pris i groesi Bont Hafren ar yr M4 ac M48 i yrwyr ceir 10 ceiniog £4.50.

Pont Hafren
Mae'r ddeddf yn mynnu bod 'na gynnydd blynyddol yn y tollau
Deg ceiniog mae pris cerbydau bach a bysiau bach wedi codi hefyd o £8.90 i £9 ac mae cerbydau mwy a bysiau wedi codi 20c i £13.50.

Dywedodd rheolwr cyffredinol Croesi Afon Hafren, Jim Clune, bod yna gynnydd yn y pris yn digwydd yn flynyddol ac yn cyd-fynd â Deddf Pont Hafren 1992.

"Mae'r Ddeddf yn gosod allan y pris am y tollau ac mae'n rhaid i ni gyd-fynd a hyn," meddai Mr Clune.

Dywedodd Paul Watters, pennaeth polisi ffyrdd a thrafnidiaeth yr AA, bod cynnydd cyson mewn defnyddio ffyrdd yn effeithio rhai busnesau.

Mae cwmni BP wedi codi ceiniog ar bris eu petrol oherwydd bygythiad posib o ryfel gyda Irac a'r trafferthion cynhyrchu yn Venuzeula.

Mae cwmni archfarchnad Safeway hefyd yr wythnos yma wedi codi pris eu petrol ddwy geiniog ar litr o betrol di-blwm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.