Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Mercher, 1 Ionawr, 2003, 13:11 GMT
Cynlluniau i 'ail-lunio' ffiniau Gogledd Iwerddon
Dyma'r cynllun posib yn 1972 i ail lunio ffiniau Gogledd Iwerddon
Cynlluniau Cudd i ail-lunio'r ffiniau
Mae manylion wedi dod i'r fei yngln chynllun cyfrinachol, gafodd ei lunio yn 1972, i ail lunio ffiniau Gogledd Iwerddon.

Mae dogfennau swyddogol, sydd wedi eu gwneud yn gyhoeddus ar l 30 mlynedd, yn dangos fod y Llywodraeth ar y pryd yn ystyried trosglwyddo sawl ardal Babyddol i ddwylo Gweriniaeth Iwerddon.

Llywodraeth Geidwadol Edward Heath oedd wedi ystyried y cynlluniau yma.

Fe gafodd y cynllun ei ddiystyru yn y pendraw am nad oedd y Cabinet yn credu y byddai'n dod heddwch i'r ardal.

Roedd cynllun y llywodraeth yn gobeithio y byddai symud cannoedd o filoedd o Gatholigion yn dod diwedd i'r trafferthion oedd yn rhygnu yn yr ardal a dod diwedd i'r trais.

Drwg deimlad

Cafodd y cynllun, oedd yn un posibilrwydd oedd yn cael ei ystyried, eu disytu gan na fyddai'n gweithio gyda phryder y byddai'n creu mwy o ddrwg deimlad yn yr ardal.

Erbyn diwedd 1972, roedd bron iawn i 500 o bobol wedi marw yn sgil trais sectyddol a gwleidyddol wrth i lywodraeth lleol Stormont a mudiadau sifil ddymchwel.

Yn ystod 1972 y gwelwyd digwyddiadau Bloody Sunday hefyd.

Rhan o'r cynlluniau arfaethedig
Cafodd y cynllun ei wrthod
Cymaint oedd pryder Ysgrifennydd y Cabinet, ar y pryd, Syr Burke Trend, fel y rhybuddiodd y Prif Weinidog bod ganddo un cyfle i adfer heddwch yn y dalaith.

Derbyniodd Mr Heath sawl opsiwn gan gynnwys un ddogfen 10 dudalen o dan y pennawd "Ail?lunio ffiniau a throsglwyddo poblogaeth".

Roedd y cynllun yma yn edrych ar ffyrdd y gallai'r trais gwleidyddol ddod i ben.

Roedd yr awduron wedi llunio map newydd o sut y gallai'r cam yma weithio.

Hawliau sifil

Dywed yr adroddiad "y byddai trosglwyddo y diriogaeth i'r gorllewin o Afon Bann wedi golygu y byddai 238,000 o Gatholigion a 227,000 o Brotestaniaid yn cael eu symud i'r Weriniaeth."

Yn ychwanegol at hyn roedd yr awduron yn cyfaddef nad oedden nhw'n gwybod sut y byddai symud poblogaeth Gatholig yn cael ei wneud yn ardal Belfast a'r ardaloedd trefol eraill.

Ond dywed yr adroddiad y byddai'r cynllun yn mynd yn erbyn confensiwn Ewrop ar Hawliau Sifil ac yn cael dim effaith ar yr IRA ac felly yn gadael y Catholigion fyddai wedi parhau yng Ngogledd Iwerddon mewn mwy o beryg.

Dydy manylion llawn y cynllun ac ymateb y Prif Weinidog ddim wedi cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cael eu dal yn l rhag bod yn gyhoeddus.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.