Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Sul, 22 Rhagfyr, 2002, 14:44 GMT
Lladd un mewn ffrwydriad yn Afghnaistan
Milwyr Afghnaistan yn edrych ar y difrod
Mae'r heddlu yn credu mai al-Qaeda oedd yn gyfrifol
Mae bom wedi ffrwydro yn ninas Kandahar yn Afghanistan gan ladd un milwr ac anafu o leia dri arall.

Fe ffrwydrodd y bom bore Sul.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am ladd y milwr o Afghanistan.

Fe wnaeth yr awdurdodau i ddechrau feio rhwydwaith derfysgol al-Queda.

Arlywydd Afghnaistan Hamid Karzai
Mae Hamid Karzai wedi bod mewn grym ers blwydyn
I ddechrau roedd bobol yn meddwl mai ffrwydrad wedi ei amseru oedd yn gyfrifol ond erbyn hyn credir mai taflegryn oedd yn gyfrifol.

Yn l sianel deledu yn Qatari, al-Jazeera, roedd y bom mewn car.

Fe ddaw'r ymosodiad yma union flwyddyn ers i Hamid Karzai dyngu llwy fel Arlywydd Afghanistan.

Kandahar oedd cartref pencadlys y Taleban cyn iddyn nhw gael eu gorchfygu ac yn l gohebwyr yn Kabul, mae yna gefnogaeth o hyd i'r mudiad Islamaidd yn yr ardal.

Ddydd Sadwrn cafodd milwr Americanaidd ei ladd ar l i filwyr saethu tuag at y ffin rhwng Afghanistan a Phacistan.

Ac mewn digwyddiad arall ddydd Sadwrn cafodd saith o bobol oedd yn rhan o dm cadw heddwch eu lladd mewn damwain hofrennydd ger Kabul.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.