|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr, 2002, 16:49 GMT
Ffôn: Rhifau newydd i wasanaeth ymholiadau
Fe fydd cystadleuaeth yn golygu pris llai i'r cwsmer
O ddydd Mawrth ymlaen mae tua 10 o gwmnïau newydd yn cynnig gwasanaeth rhifau ffôn i gystadlu ag ymholiadau 192.
Fe fydd rhaid deialu chwe rhif yn hytrach na thri o hyn ymlaen. Fe fydd y tri rhif cyntaf yr un fath, 118, i bob cwmni ond fe fydd y tri rhif arall yn amrywio.
Dim yn unig rhifau ffôn, ond rhifau loteri, ac amserau sinema. I weithwyr yng Nghaerdydd fodd bynnag mae'r gwasanaeth newydd yn golygu gwaith wrth i gwmni Americanaidd sefydlu eu gwasanaeth yno. Mae'r ffaith bod y farchnad ar gyfer delio gyda ymholiadau yn agor yn nodi diwedd i wasanaeth BT 192. Oftel, y corff sydd yn arolygu'r gwasanaeth telegyfathrebu, sydd wedi penderfynu diddymu'r monopoli sydd gan BT a gosod mwy o ddewis i'r cwsmer. Ymhlith y cwmnïau sydd yn darparu'r gwasanaeth newydd y mae BT, Nwy Prydain, One Tel ac Orange. Fe fydd cwmni The Number, sy'n gwmni Americanaidd, yn cyflogi 180 yng Nghaerdydd ac o bosib yn gallu cynyddu i 700 yn eu pencadlys ar gyrion y ddinas. Credir mai dyma fydd y prif wasanaeth gan iddyn nhw gael y rhof mwya cofiadwy 118 118. Mae disgwyl i fwy o gwmnïau gael eu lansio ddechrau'r flwyddyn. Rhatach Cafodd cwsmeriaid addewid y bydd galwadau yn rhatach ac y bydd nwy o wasanaeth ar gael. "Am y tro cyntaf fe fydd gan y cwsmer ddewis o wasanaeth ymholiadau ar bris fydd yn amrywio fel y gwasanaeth," meddai David Edmonds, Cyfarwyddwr Cyffredinol Telecomunications.
"Fe fydd 'na gystadleuaeth hefyd o ran pris yr alwad ffôn, gyda dewis i dalu bob munud, neu un taliad, neu'r ddau." Amcangyfrifir bod y gwasanaeth 192 yn derbyn 600 miliwn o alwadau bob blwyddyn. Fe fydd y gwasanaeth fel ag y mae ar hyn o bryd yn dod i ben ym mis Awst 2003. Yn ei le fe fydd BT yn darparu gwasanaeth newydd a fydd yn cynnwys elfennau o'r gwasanaeth Scoot, y maen nhw wedi ei etifeddu'n ddiweddar. Gwell gwasanaeth Dywed BT y bydd eu gwasanaeth newydd yn well oherwydd y bydd y cwsmer o hyd yn cael gwasanaeth llawn ac yn cael person y pen arall i'r ffôn yn hytrach na chyfrifiadur. Fe fydd y gwasanaeth newydd ganddyn nhw yn darparu gwasanaeth be sydd ymlaen yn y sinema a amserlen teledu. Dywed y cwmni eu bod yn croesawu cystadleuaeth gan ychwanegu y byddan nhw'n disgwyl bod yn brif ddarparwyr y gwasanaeth yn y farchnad. Mae'r cwmni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd i greu rhestr sydd wir ei angen o rifau ffôn symudol. Mae BT yn bwriadu diddymu'r tâl sefydlog o 40c am y gwasanaeth ac yn bwriadu codi pris y funud am y ddarpariaeth er nad oes disgwyl i'r alwad gostio mwy 'na 40c. Yn fuan yn y flwyddyn newydd fe fydd llyfr ffôn newydd, gyda adran ar gyfer mân hysbysebion am y tro cyntaf, yn cael eu dosbarthu i dair ardal beilot Efrog, Southampton a Southpot.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||||||