|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr, 2002, 07:41 GMT
Ymgyrch i atal cyffur mewn diod
Wrth i'r Nadolig agosáu ac wrth i bobol fynychu partion, lansir ymgyrch ddydd Mawrth i annog pobol i yfed diodydd yn ddiogel a sicrhau nad yw cyffuriau yn cael eu rhoi ynddyn nhw.
Heddluoedd Cymru a Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Leol a'r Gymuned yn y Cynulliad, Edwina Hart, sy'n lansio'r ymgyrch yn y Cynulliad yng Nghaerdydd. Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru yn dosbarthu dros 2m o fatiau cwrw i dafarndai Cymru. Salwch Ar y matiau mae canllawiau clir a thrawiadol i geisio atal yr arfer o osod cyffuriau yn ddiarwybod mewn diodydd. Gall y cyffuriau gynnwys alcohol ychwanegol neu gyffur treisio. Yn aml, mae gosod rhywbeth mewn diod yn cael ei ystyried yn jôc ond gall arwain at ganlyniadau difrifol fel salwch, ymosodiad neu dreisio. Bydd Ms Hart yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr ymgyrch yn ystod y dydd. 5,000 Cafodd 5,000 o achosion o dreisio eu cofnodi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a phob un yn gysylltiedig gyda chyffur yn cael ei roi mewn diod. Dywed ymgyrchwyr yn erbyn cyffuriau fel Rohypnol a GHB fod merched yn cael eu treisio ar ôl i'r cyffuriau effeithio ar eu bwyd neu eu diod. Gellir prynu GHB am £5 ar y we neu mewn siopau rhyw ac yn aml mae'n cael ei ddefnyddio i gryfhau effaith alcohol neu fel aphrodisiac. Dros yr haf cafodd ei gydnabod fel cyffur Dosbarth C.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||