Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Llun, 9 Rhagfyr, 2002, 18:43 GMT
Pryder am ddysgu Cymraeg yn y Wladfa
Eisteddfod y Wladfa
Mae traddodiadau Cymreig yn cael eu cadw yn Y Wladfa

Mae 'na bwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau dyfodol y cynllun i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Ers pum mlynedd, mae'r llywodraeth wedi bod yn talu i anfon athrawon i'r Wladfa.

Ond mae'r cynllun presennol yn dod i ben ddechrau'r flwyddyn nesa.

Dosbaerth o blant ym Mhatagonia
Rhai o ddisgyblion Patagonia yn cael gwersi Cymraeg
Mae 'na alw nawr i sicrhau y bydd arian ar gael yn y dyfodol.

Yn 1997 aeth yr athrawon cynta o Gymru i Batagonia i ddysgu Cymraeg o dan nawdd cynllun y Swyddfa Gymreig.

Fe aeth athrawon i ardal Gaiman a Threlew, ond hefyd at y trigolion o dras Gymreig ym mynyddoedd yr Andes.

I ardal y mynyddoedd aeth Hazel Charles Evans.

"Mi es i yno yn 1997 ac yn un o'r athrawon cyntaf i fynd yno i ddechrau sefydlu'r dosbarthiadau.

"Roedd y dyffryn, ardal Gaiman a Threlew wedi cael rhyw 10 mlynedd efallai gan fod gwirfoddolwyr wedi bod yno. Ond o safbwynt yr Andes cychwyn y daith oedd mis Mawrth 1997.

Cynullun i barhau

"Dwi'n teimlo bod y prosiect yma wedi agor byd newydd o safbwynt y bobol yno.

"Maen nhw wedi cael dosbarthiadau ac wedi cael cyfle i gymdeithasu trwy'r Gymraeg."

Yn y flwyddyn 2000, cyhoeddodd Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ar y pryd, Alun Michael, y byddai'r cynllun yn parhau, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu £130,000 dros gyfnod o dair blynedd.

Mae'r cyfnod hwnnw ar fin dod i ben, ac mae ymgyrchwyr yn galw am sicrwydd nawr y bydd arian ar gael i barhau i anfon athrawon o Gymru i Batagonia.

Dyma Gwilym Roberts, un o'r athrawon cyntaf i fynd allan i ddysgu Cymraeg.

'Trueni'

"Mae'r cynllun yn holl bwysig ac yn allweddol yn yr adfywiad sydd yna yn Y Wladfa o ran y Gymraeg.

"Fe fyddai'n drueni mawr pe tasa'r Cynulliad yn methu gweld eu ffordd yn glir i barhau gyda'r cynllun.

"Fe fyddai'n bechod ar y cyfan i ddod i ben ac wedyn fe fyddai rhaid dibynnu ar wirfoddolwyr i wneud y gwaith."

Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu ar y cyd gan y Cyngor Prydeinig, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Chymdeithas Cymry-Ariannin.

Eisteddfod Patagonia
Un traddodiad sy'n cael ei gynnal yn Y Wladfa ydy Eisteddfod flynyddol
Ar hyn o bryd, mae rhyw 700 o bobol yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia o ganlyniad i'r cynllun hwn.

Ac mae Elvey MacDonald o Gymdeithas Cymry-Ariannin yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi ei fod yn parhau.

"Fe fyddai dod â fo i ben rwan yn golygu na fyddai ddim modd sicrhau parhad ac fe fyddai'r holl waith da sydd wedi cael ei wneud yn mynd ar goll."

Serch hynny, mae'n dweud ei fod yn obeithiol ynglın â'r dyfodol.

"Mae'r cynllun wedi cael ei adolygu yn flynyddol a does gen i ddim lle i gredu y bydd newid yn dilyn yr arolwg sydd wedi cael ei gynnal eleni."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y Cynulliad ddydd Llun, eu bod yn ystyried dyfodol y cynllun ar hyn o bryd, ac mae disgwyl penderfyniad cyn y Nadolig.