Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Hefin Mathias, Prifathro Ysgol Gyfun Cwmn Rhymni
"Cyfuniad o ffactorau cymhleth"
 real 28k

Adroddiad Emlyn Lewis, BBC Cymru
"Trafferth llenwi rhai swyddi"
 real 28k

Dydd Llun, 9 Rhagfyr, 2002, 06:58 GMT
Pryder am brinder athrawon
athrawes
Mae yna brinder athrawon mewn llawer o bynciau
Mae prinder athrawon sy'n dysgu Cymraeg a'r Cynulliad, sy wedi gwneud yr iaith yn orfodol hyd at 16 oed, sy'n cael y bai.

Dywed adroddiad fod rhai athrawon yn dysgu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg am eu bod yn siarad yr iaith ac nid am eu bod wedi cael eu hyfforddi yn y pwnc.

"Mae prinder athrawon bron ymhob pwnc mewn ysgolion uwchradd Cymraeg," medd adroddiad y Cyngor Dysgu Cyffredinol yng Nghymru sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Denu

Tra bod 20 yn ymgeisio am bob swydd mewn ysgolion cynradd, dim ond 6.4 sy'n ceisio am swyddi mewn ysgolion uwchradd.

Cyflwynir yr adroddiad, sy wedi ei seilio ar ymateb 1,447 o brifathrawon, i gynrychiolwyr prif gyrff addysg Cymru mewn cynhadledd yng Nghaerdydd.

Bwriad y gynhadledd yw ceisio dod o hyd i atebion i broblem denu athrawon.

Gwaethygu

Mae'n debyg bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ar gyfartaledd, 2.7 oedd yn ymgeisio am swyddi dysgu Cymraeg, 3.8 am swyddi ffiseg. 4.7 am swyddi gwyddoniaeth a 4.8 am swyddi mathemateg.

Ar wahân i ffiseg, roedd y ffigyrau hyn yn waeth na rhai'r llynedd.

Chafwyd yr un ymgeisydd am 24 o swyddi mewn ysgolion uwchradd ac yn achos rhai swyddi Cymraeg doedd dim ond un neu ddau ymgeisydd.

Yn gyffredinol, mae tua 10% o swyddi uwchradd heb eu llenwi.

Dengys yr arolwg fod nifer o athrawon wedi gadael eu swyddi.

Tra bod bron hanner yr athrawon wedi ymddeol yn gynnar, mae 16% wedi mynd i swyddi eraill.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.