|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||
|
Dydd Gwener, 6 Rhagfyr, 2002, 10:24 GMT
Cwest i farwolaeth Jenna Baldwin
Fe ddiflannodd Jenna ym mis Medi o'i chartref yn Abersychan
Agorwyd cwest i farwolaeth y ferch ysgol Jenna Baldwin.
Cafodd ei chorff ei ddarganfod ar ffordd fynyddig ger ei chartref yn Sir Fynwy 10 wythnos wedi iddi fynd ar goll. Cynhaliwyd y cwest yn Llys y Crwner yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd. Bydd angladd Jenna yn cael ei gynnal ddydd Llun.
Diflannodd Jenna, 15, ar 10 Medi o'i chartref ym mhentref Abersychan ger Pontypwl. Lansiodd yr heddlu ymgyrch yn y wasg a'r cyfryngau ac apelion nhw ati i ddychwelyd adref. Derbyniodd ei theulu negeseuon tecst a galwadau ffôn oedd yn honni eu bod oddi wrth Jenna. Ond sylweddolwyd yn ddiweddarach mai rhai ffug oedden nhw. Cafodd llys-tad Jenna, Mike Baldwin, ei arestio chwe wythnos wedi iddi fynd ar goll. Negeseuon ffug Yn ddiweddarach, cafodd Mr Baldwin, 36, ei gyhuddo o'i llofruddio. Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff Jenna mewn bedd bas ger ffordd fynyddig rhwng Y Fenni a Blaenafon. Cafwyd hyd i fodrwy oedd yn perthyn i Jenna. Cadarnhaodd hyn amheuon yr heddlu mai gweddillion corff Jenna oedd y rhain. Ond bu'n rhaid cynnal archwiliad post-mortem ac archwilio cofnodion deintyddol cyn y gallai'r heddlu gadarnhau hyn.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||