Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Adroddiad Aled Scourfield
"Mwy o fanylion wedi dod i'r fei"
 real 28k

Eleri Morgan yn holi Gethin While a Geraint Davies
"Mae digonedd o bobol yma efo'r sgilau a dim gwaith ar eu cyfer"
 real 28k

Eleri Morgan yn holi Alun Thomas, BBC Cymru
"Yn fwy na stiwdios Lloegr hyd yn oed"
 real 28k

Adroddiad Nêst Roberts, BBC Cymru
"Cymru ddim yn ddieithr i fyd y ffilm"
 real 56k

Dydd Gwener, 6 Rhagfyr, 2002, 08:51 GMT
Cyngor o blaid canolfan ffilm
Graffeg ffilm
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu stiwdios ffilm newydd gwerth miliynau o bunnau yn y cymoedd.

Fe fydd y prosiect yn costio £300m ac yn cynnwys stiwdios teledu, ffilm, canolfan gyfryngau, academi sgrîn a pharc ffilm.

Daeth y cyngor i benderfyniad mewn cyfarfod brynhawn Iau rhoi caniatâd i gais cynllunio i'r safle yn Llanilid rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.


"Ein bwriad yw adeiladu'r stiwdios mwyaf modern, effeithiol o ran cost a mwyaf croesawgar yn y byd"

Yr Arglwydd Attenborough

Mae cwmni Dragon International Studios Limited, sydd yn cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Richard Attenborough, eisoes wedi prynu 350 acer o'r safle a arferai fod yn bwll glo.

Cafodd y cynlluniau eu hatal am gyfnod wedi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru orchymyn y cyngor i wrthod y cais cynllunio.

Roedd y Cynulliad yn gwrthwynebu'r cais am ffordd newydd a fyddai'n arwain o draffordd yr M4 tuag at y ganolfan.

Ond fe dynnodd swyddogion eu gwrthwynebiad yn ôl wedi i awdurdod lleol bwysleisio manteision economaidd y cynllun.

Mae'r datblygwyr wedi datgan y bydd hyd at 1,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn ystod y cyfnod adeiladu ac y bydd 1,700 o swyddi yn cael eu creu pan fydd y ganolfan wedi agor.

Bydd y ganolfan, a godir ar 160 acer o dir, yn cynnwys gweithdai, stiwdio i recordio cerddoriaeth, adrannau creadigol, swyddfa a gwasanaethau.

Yr Arglwydd Richard Attenborough
Arglwydd Attenborough: Yn cefnogi'r cynlluniau

Mae cwmni Dragon Studios wedi addo y bydd gan y ganolfan ran bwysig mewn cyfathrebu digidol ar draws y byd.

Y nod yw cynnig lle i fusnesau o fewn y diwydiant Technoleg Gwybodaeth yng Nghymru.

Fe allai cam cynta'r cynllun fod ar agor erbyn diwedd 2004 gyda'r parc ffilm wedyn yn agor ym 2006.

Mae gan gwmni arall sef Partneriaeth Joseph Villard gynlluniau i ddatblygu tir gerllaw'r safle.

Maen nhw am adeiladu gwesty, canolfan gynadledda, spa ac ysbyty yn ogystal â nifer o barciau busnes.

6,000 o swyddi

Byddai hynny'n creu 6,000 o swyddi ychwanegol.

"Ein bwriad yw adeiladu'r stiwdios mwyaf modern, effeithiol o ran cost a mwyaf croesawgar yn y byd," meddai'r Arglwydd Attenborough.

"Yng Nghymru mae gennym ni'r lle, yr arian a'r dechnoleg - ond yn bwysicach na hynny yr ewyllys - i greu gwaith gwych ac amgylchedd hamdden i'r cenedlaethau i ddod."

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.