Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Mercher, 13 Tachwedd, 2002, 11:03 GMT
15 mlynedd ers llofruddio Lynette White
Cafodd Lynette White ei lladd 14 mlynedd yn l yng Nghaerdydd
Cafodd Lynette White ei llofruddio uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd
Mae Heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am fwy o wybodaeth i lofruddiaeth y butain Lynette White, bymtheg mlynedd yn union wedi ei marwolaeth.

Cafodd corff Lynette White ei ddarganfod Ddydd San Ffolant 1988 yn ei fflat uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd.

Bu farw Lynette White yn 1988
Lynette White: Bu farw yn 1988

Roedd ymchwiliad Lynette White yn un o'r rhai mwya dadleuol yn hanes Heddlu De Cymru.

Ar y cychwyn, rhyddhaodd yr heddlu luniau cyfrifiadurol o ddau ddyn gwyn oedd yn cael eu hamau.

Cafwyd tri dyn du'n euog yn 1990 ond ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd y Llys Apl Dri Caerdydd yn ddieuog.

Does neb wedi cael ei arestio ers hynny er i'r heddlu ddechrau ymchwiliad newydd ym mis Medi 2000.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.