Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Adroddiad Jon Gower, BBC Cymru
"Dim disgwyl i bawb fod yn berffaith"
 real 28k

Dydd Gwener, 1 Tachwedd, 2002, 11:34 GMT
Ffilm animeiddiedig newydd S4C
Pwyll a Rhiannon mewn golygfa o'r ffilm (Llun S4C)
Pwyll a Rhiannon mewn golygfa o'r ffilm
I ddathlu pen-blwydd S4C yn 20 eleni mae'r sianel wedi cynhyrchu ffilm animeiddiedig newydd yn seiliedig ar rai o brif chwedlau Cymru.

Daw byd lledrithiol y Celtiaid yn fyw ar y sgrÓn fawr yn y ffilm sy'n seiliedig ar chwedlau byd-enwog y Mabinogi.

Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ar noswyl pen-blwydd y sianel ar 1 Tachwedd.

Bedigeidfran (Llun S4C)
Llwyddwyd i ddangos Bendigeidfran fel y cawr
Y Mabinogi yw'r diweddaraf mewn llinach lwyddiannus o animeiddiadau gan S4C, ac mae'r ffilm newydd hon yn cyfuno animeiddio uwch-dechnolegol gyda golygfeydd cig a gwaed.

Gyda rhai o actorion ifanc disgleiriaf Cymru, gan gynnwys Matthew Rhys, Jenny Livsey a Daniel Evans ymhlith y cast, mae'r ffilm yn olrhain y gwrthdaro rhwng ffawd, hud a lledrith a dewis personol.

Cafodd y ffilm 104 munud o hyd eu cynhyrchu gan gwmni Cartwn Cymru.

Cerddoriaeth

Derek Hayes sydd wedi cyfarwyddo'r ffilm, gyda Naomi Jones yn ei chynhyrchu.

Lleu a Blodeuwedd
Caiff yr acotion eu hanimeiddio fel cymeriadau'r bedair cainc
Ysgrifennwyd y sgript gan Martin Lamb a Penelope Middelboe o Gynhyrchiadau Right Angle, gyda John Cale, gynt o'r grwp Velvet Underground, yn cyfansoddi'r gerddoriaeth, a berfformiwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC.

Mae fersiwn Gymraeg a Saesneg wedi cael ei gwneud o'r ffilm gyda un o'r ddau ymgynghorydd ar y prosiect, yr Athro Gwyn Thomas yn gyfrifol am yr addasiad Cymraeg. Yr Athro Sioned Davies oedd yr ymgynghorydd arall.

Fe fydd y fersiwn Gymraeg yn mynd ar daith o amgylch sinem‚u Cymru yn ystod mis Tachwedd.

Nofel

I gyd fynd gyda'r ffilm y mae nofel graffig arbennig, Y Mabinogi, gan Mike Collins, wedi cael ei gynhyrchu ac ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg ledled Cymru.

Mae Y Mabinogi yn cael ei dosbarthu gan S4C Rhyngwladol, ac mae wedi derbyn cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru/Wales, British Screen a BSkyB.

Efnisien (Llun S4C)
Efnisien: Un o gymeriadau'r ffilm
"Mae chwedlau'r Mabinogi yn rhan o seicoleg y Cymry ac maent wedi dylanwadau ar genedlaethau o feirdd, awduron a cherddorion," meddai Chris Grace, Cyfarwyddwr Animeiddio S4C.

"Mae S4C yn falch iawn i fedru dod ‚'r chwedlau hyn i'r sgrÓn fawr am y tro cyntaf gyda'r prosiect hwn sy'n torri tir newydd."

Bydd y ffilm i'w gweld ar y teledu yn 2004/2005.

i weld lleoliad dangosiadau'r ffilm.


S4C yn 20 oed
S4C yn 20 oed

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.