Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Sul, 27 Hydref, 2002, 10:41 GMT
Taith gyntaf bmibaby o Gaerdydd
Caerdydd
Gobaith y cwmni yw hedfan 1m o deithwyr o dde Cymru
Mae taith gyntaf cwmni awyr bmibaby wedi cychwyn o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd fore Sul.

Mae awyrennau'r cwmni'n teithio i saith o feysydd awyr Ewrop ac mi fydd Genefa a Milan yn cael eu hychwanegu at y rhestr fis Rhagfyr.

Taith i Malaga oedd y gyntaf, a hynny am 8 o'r gloch y bore.

Dywedodd bmibaby taw'r bwriad oedd cynnig 112 o deithiau'r wythnos.

Alicante, Sbaen
Faro, Portiwgal
Genefa, Y Swisdir
Jersey
Malaga, Sbaen
Milan, Yr Eidal
Belfast
Caeredin
Glasgow
Cyrchfannau bmibaby

Bydd y gwasanaethau newydd yn defnyddio awyrennau Boeing 737.

A bydd tocynnau sengl ar gyfer teithiau ym Mhrydain yn costio o leiaf 18 a rhai tramor yn costio o leia 25.

Gobaith y cwmni yw hedfan 1m o deithwyr o dde Cymru.

"Ry'n ni'n hyderus y bydd y gwasanaethau yng Nghaerdydd mor lwyddiannus 'r rhai o Faes Awyr East Midlands," meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Bmibaby Tony Davis.

Bydd y cyrchfannau'n cynnwys Alicante yn Sbaen, Faro ym Mhortiwgal, Genefa yn y Swisdir, Jersey, Malaga yn Sbaen, Milan yn yr Eidal, Belfast, Caeredin a'r Glasgow.

Caerdydd
Ar hyn o bryd mae 1.5m o deithwyr yn defnyddio'r maes awyr

Dywedodd y cwmni taw Caerdydd fyddai ei ail ganolfan yng ngwledydd Prydain.

Bydd 100 o swyddi'n cael eu creu a disgwylir i hyd at 1m o deithwyr ddefnyddio'r gwasanaethau newydd o ddiwedd y flwyddyn ymlaen.

Ar hyn o bryd mae bmibaby'n hedfan dramor i naw o lefydd, gan gynnwys Barcelona, Dulyn, Faro, Ibiza, Nice a Prague.

Dechreuodd gwasanaethau bmibaby ym Mawrth 2002 ym Maes Awyr East Midlands.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.