|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Mercher, 9 Hydref, 2002, 11:46 GMT
RAF: 100 o swyddi newydd i Fôn
Maes awyr yr awyrlu yn Fali, Ynys Môn
Fe fydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu ym maes awyr RAF Y Fali ar Ynys Môn.
Daeth cadarnhad o'r newydd ddydd Mercher wrth i gwmni amddiffyn BRAMA, sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar awyrennau'r llu awyr yno, gyhoeddi manylion am y buddsoddiad newydd.
"Ond yn sgil y nifer cynyddol o waith hyfforddi peilotiaid a cynnal a chadw mae angen datblygu'r gweithle," meddai datganiad gan BRAMA. Mae safle'r Fali eisoes yn allweddol fel canolfan hyfforddi. Mae'r Aelod lleol yn y Cynulliad Cenedlaethol, Ieuan Wyn Jones, wedi croesawu'r newyddion gan ddweud ei fod yn hwb aruthrol i economi'r ynys. Ac fe fydd y swyddi newydd yn cael eu creu yn sgil cynnydd yn nifer yr awyrennau fydd yn defnyddio'r safle. Swyddi lleol Er mai gwaith arbenigol ydy cynnal a chadw awyrennau, mae cwmni BRAMA wedi dweud y byddan nhw'n ceisio cyflogi gweithwyr lleol gan ddarparu hyfforddiant iddyn nhw yn Y Fali. Mae disgwyl iddyn nhw gynyddu'r gweithlu dros yr wyth i 10 mis nesaf gan ddarparu'r gwaith mewn ardal lle mae swyddi newydd yn brin. Fe fydd tua 90 o'r swyddi yn rhai technegol gyda swyddogion personél yn llenwi'r swyddi eraill. "Mae'r angen am fwy o beilotiaid ar gyfer yr RAF a'r Llynges yn rhan o'r angen i gael gweinyddiaeth amddiffyn cryf i Brydain," meddai'r datganiad. "Mae'r swyddi sy'n cael eu creu yn cryfhau'r cydweithio llwyddiannus sydd wedi bod ac a fydd yn parhau rhwng yr RAF a BRAMA." Fe ddaw'r cyhoeddiad ddau fis ar ôl cyhoeddiad i ail ddatblygu safle'r RAF yn Sain Tathan.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||||