Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Gwener, 4 Hydref, 2002, 12:50 GMT
Llofrudd honedig wedi ei ryddhau
Daniel Morgan
Roedd Daniel Morgan yn dditectif preifat
Mae'r dyn, sy wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad ‚ llofruddiaeth dyn o dde Cymru 15 mlynedd yn Űl, wedi cael ei ryddhau ar fechnÔaeth yr heddlu.

Cafodd corff Daniel Morgan o Sir Fynwy ei ddarganfod mewn maes parcio yn Llundain ym mis Mawrth 1987.

Roedd Mr Morgan yn dditectif preifat ac yn 37 oed.

Cafwyd hyd i'w gorff ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham yn ne Llundain.

Roedd o wedi cael ei drywanu ‚ bwyell.

Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach cafodd dyn, sydd bellach yn ei 40au, ei arestio mewn cysylltiad a'r ymosodiad.

Gwobr ariannol

Ddydd Gwener cafodd y gwr hwnnw ei rhyddhau ar fechnÔaeth.

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i'r llofruddiaeth yn credu bod y llofrudd wedi defnyddio car Volskwagen Polo gwyrdd ac maen nhw'n apelio ar i unrhyw un oedd yn yr ardal ar y 10 mis Mawrth 1987 i gysylltu ‚ nhw.

Mae 'na wobr o £50,000 ar gael i unrhyw un sydd ‚ gwybodaeth allai arwain at gyhuddo'r sawl oedd yn gyfrifol.

Cafodd yr arian ei gynnig ym mis Mehefin eleni ar Űl apÍl o'r newydd ar raglen Crimewatch y BBC.

Cafodd symudiadau olaf Mr Morgan eu darlledu.

Roedd o wedi bod yn yfed yn y dafarn am 90 munud gyda'i bartner busnes, John Rees.

Fe adawodd Mr Rees tua 2100 BST a Mr Morgan yn fuan wedyn.

Cafwyd hyd i'w gorff tua 2140 BST gyda'r arf yn dal yn ei ben.

Y rhif ffon hollbwysig yw 0208 358 1555.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.