|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||
|
Dydd Llun, 30 Medi, 2002, 11:06 GMT
Cymuned yn dechrau ymgyrch creu gwaith
Yn ôl Cymuned, mi all y llywodraeth a'r Cymry Cymraeg weithredu
Mi fydd Cymuned yn dechrau ymgyrch i dynnu sylw at ddiffyg cyfleon gwaith yn yr ardaloedd Cymraeg.
Cynhaliwyd cynhadledd i'r wasg yng Nghaernarfon fore Llun i "dynnu sylw at yr argyfwng economaidd yn y bröydd Cymraeg, a'r allfudiad mawr o bobol ifanc y mae hyn yn ei achosi". Yn ôl Cymuned, mae'r Cymry Cymraeg ar waelod yr ysgol o ran cyflogaeth yn y bröydd Cymraeg. "Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi clywed pob plaid wleidyddol yn dadlau nad mewnlifiad sy'n bygwth y cymunedau Cymraeg ond yn hytrach ddiffyg gwaith ar gyfer y boblogaeth frodorol," meddai Wyn Hobson ar ran Cymuned. Gwrthod "Ond mae'r gwleidyddion wedi gwrthod pob cais i lunio polisi creu gwaith ar gyfer yr ardaloedd Cymraeg. "Maen nhw wedi gwrthod gosod targedau cyflogaeth ar gyfer cymunedau Cymraeg, wedi gwrthod adleoli cyrff fel S4C o Gaerdydd, ac wedi gwrthod sefydlu corff datblygu economaidd, yn debyg i Udaras na Gaeltachta yn Iwerddon, gyda'r cyfrifoldeb o gydlynu'r gwaith yma. "Mae'n rhaid i bobol fedru gweithio'n lleol er mwyn byw'n lleol, ac mae Cymuned wedi llunio 12 argymhelliad syml y gellid eu gweithredu ac a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r sefyllfa gyflogaeth yn y Gymru Gymraeg." Mae gan Cymuned saith pwynt sy'n nodi beth all y Llywodraeth ei wneud a phum cam y gall y Cymry Cymraeg eu cymryd." Beth y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud yn ôl Cymuned:
Beth y gall cymunedau Cymraeg ei wneud eu hunain yn ôl Cymuned:
Bydd gan Cymuned rali ym Mlaenau Ffestiniog ar ddydd Sadwrn, 12 Hydref, i geisio cefnogaeth i'w polisïau.
|
Dyfodol yr iaith |
||||||||||