![]() |
![]() |
|
![]() |
||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]()
|
![]() |
Dydd Sadwrn, 14 Medi, 2002, 14:42 GMT
Doc Fictoria: Dau ddegawd yn rhy hwyr
![]() Fu Doc Fictoria ddim yn llwyddiant mawr
Syniad dyn busnes o Gaernarfon, Syr Llywelyn Turner, un o hoelion wyth Ymddiriedolaeth yr Harbwr a chyngor y dref, oedd Doc Fictoria.
Roedd am weld gwella harbwr Caernarfon o'r Ala Las ar ben dwyreiniol Y Fenai i ben pellaf y Cei Llechi ar yr afon Seiont. Ond bu raid cael cyfaddawd a chael cynllun llai uchelgeisiol. Yn 1865, derbyniodd Ymddiriedolaeth yr Harbwr y cynllun wedi'i addasu a hynny wedi derbyn cymeradwyaeth y Bwrdd Masnach yn Llundain. Benthyciwyd £24,000 gan y Public Works Loan Board a chymerwyd tan 1907 i'w dalu'n ôl, ynghyd â'r llog.
Prynwyd llong stêm i glirio mwd a thywod o lawr y doc a rhannau eraill o'r harbwr - y cwch mwd fel y gelwid hi, a chafwyd llongau eraill tebyg yn ddiweddarach i gadw'r fynedfa'n glir wedi cwblhau'r doc. Dechreuwyd ar y gwaith dan nawdd Ymddiriedolaeth Harbwr yn 1868 a chwblhawyd y doc yn 1875. Gosodwyd y garreg sylfaen ar ddiwrnod glawog a gwyntog ar 25 Tachwedd 1868 mewn seremoni rwysgfawr gyda gwledd i ddilyn. Cychwynnodd yr orymdaith o Swyddfa'r Ymddiriedolaeth ar y Cei Llechi gan gerdded tuag at safle'r doc newydd. Ar flaen yr orymdaith roedd band Milisia Sir Gaernarfon yn cael ei ddilyn gan Seiri Rhyddion y dref. Yna, deuai'r naval reserve efo pistolau a chleddyfau yn eu gwregysau, yn cael eu dilyn gan yr heddlu, aelodau o Ymddiriedolaeth yr Harbwr a'r cyngor tref. Yna dynion busnes yr ardal ac yn olaf dynion yn cario baneri o bob math. Gweddi Traddodwyd gweddi gan y caplan cyn gosod y garreg efo trywel arian pur a handlen ifori. Wrth osod y garreg, taniwyd gynnau mawr o Bier Fictoria, Turkey Shore a'r Clwb Hwylio. Yna canwyd Rule Britannia. Am naw yr hwyr, cafwyd arddangosfa o dân gwyllt yn y dref cyn i'r pwysigion ymgynnull yng Ngwesty'r Sportsman (oedd ar safle presennol pencadlys Cyngor Sir Gwynedd) ar gyfer gwledd fawreddog. Ond pan gwblhawyd y doc newydd, roedd y diwydiant llechi ar drai a bu iddo chwarae rhan llai blaenllaw nag a ddisgwylid. Pe byddai wedi cael ei adeiladu ddau neu dri degawd yn gynharach byddai wedi bod yn gaffaeliad mawr i'r dref. Ond er y balchder bod gan y dref ddoc o safon, cafwyd cwynion nad oedd digon o olau yno. Yn ôl y papur lleol, roedd nifer o ddynion meddw wedi disgyn i'r doc - a dau neu dri wedi boddi - a bu raid gwario rhagor o arian i wella'r sefyllfa yno.
|
![]() |
||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |