Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Rhun ap Iorwerth a Garry Owen BBC Cymru
"Roedd yna rybudd na ddylai unrhyw wlad weithredu ar ben ei hun"
 real 56k

Dydd Iau, 12 Medi, 2002, 19:57 GMT
Bush yn herio'r CU i ddisodli Saddam
Yr Arlywydd Bush
Bush: Allwn ni ddim peidio gwneud dim tra bod y peryglon yn cynyddu
Mae'r Arlywydd Bush wedi herio'r Cenhedloedd Unedig i gefnogi'r ymgyrch i ddisodli llywodraeth Saddam Hussein.

Yn ei anerchiad i gynrychiolwyr y corff yn Efrog Newydd, mynnodd Mr Bush bod gan Irac arfau niwcliar yn ei feddiant a bod y wlad yn rhoi lloches i derfysgwyr Al Queda.

Oherwydd ei fod wedi torri ei addewidion i ganiatau archwiliadau rhyngwladol, dywedodd Mr Bush bod Saddam Hussein wedi "gwneud yr achos yn erbyn fo ei hun.

'Peryglon yn cynyddu'

"Allwn ni ddim peidio gwneud dim tra bod y peryglon yn cynyddu," meddai Mr Bush.

Dywedodd yr Arlywydd Bush ei bod hi'n anochel y bydd America'n ymosod yn filwrol ar Irac os ydy Saddam Hussein yn parhau i wrthod cydymffurfio gyda'u gofynion.

Ychwnegodd Mr Bush ei fod am weithredu'n erbyn Irac drwy'r Cenhedloedd Unedig, ond rhybuddiodd, hefyd, y byddai America'n fodlon gweithredu'n filwrol ar ei phen ei hun.

Kofi Annan
Mae Kofi Annan yn cytuno bod Irac wedi torri penderfyniadau'r CU
Pwysleisiodd Mr Bush bod llywodraeth Irac yn beryglus, ac yn fygythiad i heddwch y byd.

"Mae'n rhaid i ni amddiffyn ein hunain a hawliau a gobeithion parhaol dynol ryw."

Yna bu i Mr Bush restru holl benderfyniadau'r CU ym mae Irac wedi'u torri.

Ac mi gyhuddodd Saddam Hussein o ganiatau aelodau o al-Qaeda i sefydlu yn Irac.

Cynyddu mae'r dybiaeth bod America yn paratoi i fynd i ryfel.

Mae Canolfan Reoli Ganolog y Fyddin yno yn symud traean o'i milwyr o'r pencadlys yn Florida i Qatar yn y Gwlff.

Mae swyddogion Americanaidd yn pwysleisio mai ymarferiad yn unig yw hyn ac mai am ryw dair wythnos yn unig y bydd y milwyr yno i ddechrau.

Ond mae'n bosib y can nhw eu cadw yno'n hirach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.