Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Garry Owen yn holi Ellis Roberts, BBC Cymru
"Defnyddio yn y sector amddiffyn a'r byd meddygol"
 real 28k

Dydd Mawrth, 3 Medi, 2002, 07:46 GMT
Canolfan 15m ar gyfer diwydiant blaengar
Ffibr optig
Mae'r parc yn gobeithio denu cwmnau sy'n gweithio ym maes opto-electroneg
Yn yr Hydref fe fydd gwaith yn dechrau ar ganolfan arbenigol mewn electroneg blaengar yn Sir Ddinbych all greu cannoedd o swyddi newydd.

Ddydd Mawrth, fe fydd Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad Cenedlaethol, Andrew Davies, yn cyhoeddi y bydd miliynau o arian Ewrop ar gael i'r safle newydd yn Llanelwy.

Mi fydd Tecniwm Optig ar Barc Busnes Llanelwy yn arbenigo ym maes opto-electroneg.

Fe fydd hyn yn dod chwmniau sy'n arbenigo mewn ffibr-opteg, laserau, synwyryddion a thechnolegau tebyg yn gweithio 'i gilydd ar un safle.

Darparu awyrgylch

Y gobaith ydy y bydd y 15m y mae'r cynllun yn ei gostio'n darparu awyrgylch ar gyfer dyfeisio ac yn helpu i gwmnau bychain sefydlu a magu gwreiddiau.

Eisoes, mae'r sector opto-electronig yn cyflogi dros 2,000 o bobol yng ngogledd Cymru.

Eisoes mae cwmni Thales Optics wedi sefydlu yn Llanelwy a Bodelwyddan.

Yn Abertawe y cafodd y Tecniwm cyntaf ei hadeiladu yn Noc Tywysog Cymru am 2m yn 2000.

Fe fydd y datblygiad diweddara yn cynnwys partneriaeth rhwng academwyr o Ganolfan Dyfeisiadau Prifysgol Cymru a'r sector gynyrchu i ddatblygu cynlluniau.

A chyda 6m o arian Amcan Un wedi'i sicrhau gan Ewrop, y gobaith ydy y bydd Tecniwm Optig Llanelwy yn agor cyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.