|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||
|
Dydd Sul, 1 Medi, 2002, 11:08 GMT
Penblwydd hapus i Gwynfor
Gwynfor Evans: Un o ffigurau amlyca gwleidyddiaeth Cymru
Mae Gwynfor Evans, AS cynta Plaid Cymru, yn 90 oed ddydd Sul.
Bydd yn treulio'r diwrnod gyda'i wraig, Rhiannon, gartre ym Mhencarreg, Sir Gaerfyrddin. Mae'n un ffigyrau amlyca gwleidyddiaeth Cymru ac mae Llywydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones AC, wedi danfon neges arbennig ato. "Llongyfarchiadau gwresog i chi, Gwynfor, ar y diwrnod arbennig yma," meddai. "Hoffwn ddymuno penblwydd hapus iawn i chi.
"Hoffwn hefyd ddiolch i chi am eich cyfraniad amhrisiadwy i Blaid Cymru a'ch gwaith diddiwedd dros Gymru. "Mae ysbrydoliaeth Gwynfor, a'i arweiniad dros y blynyddoedd, yn ei osod ymhlith y Cymry mwyaf yn ein hanes fel cenedl. "Boed i'r gwr rhyfeddol hwn ein hysbrydoli ni eto am lawer blwyddyn i ddod i fynnu dyfodol gwell i'n gwlad a'n cenedl." Enillodd Gwynfor Evans Is-etholiad Caerfyrddin yn 1966 wedi marwolaeth yr aelod Llafur, Y Fonesig Megan Lloyd George. Roedd ei fuddugoliaeth yng Nghaerfyrddin ymhlith y rhai mwyaf syfrdanol yn hanes gwleidyddiaeth Prydain, wrth i Blaid Cymru gael eu haelod seneddol cynta. Yn 1980 bygythiodd newynu hyd at farwolaeth pe na bai Llywodraeth Margaret Thatcher yn sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Roedd wedi bod yn amlwg iawn yn yr ymgyrch dros y sianel drwy gydol y saithdegau. Cafodd Gwynfor Evans ei eni yn Y Barri yn 1912 ond bu'n byw am y rhan fwya o'i fywyd yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Yn wr priod, mae ganddo saith o blant, wyrion, wyresau a gor-wyrion. Cafodd ei addysg yn Y Barri cyn symud i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac yna i Goleg Ieuan Sant, Rhydychen. Portread Dysgodd siarad Cymraeg yn 18 oed ac yn y coleg fe sefydlodd gangen o Blaid Cymru. Ddydd Gwener mewn seremoni yn Aberystwyth cyflwynwyd portread ohono i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Owen John Thomas, AC a Gweinidog yr Wrthblaid ar Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, drefnodd y deyrnged. Dywedodd fod y llun yn symbol addas o ymroddiad un dyn i'w genedl. "Dymuniadau gorau, diolch am eich ysbrydoliaeth, a phenblwydd hapus iawn, Gwynfor," meddai.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||