|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 30 Awst, 2002, 06:38 GMT
Teyrnged i Gwynfor Evans
Llun David Griffiths o Gwynfor Evans
Mewn seremoni yn Aberystwyth, cyn ei ben blwydd yn 90 oed, bydd portread o Gwynfor Evans, un o wleidyddion pwysicaf Cymru, yn cael ei gyflwyno i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Owen John Thomas, AC a Gweinidog yr Wrthblaid ar Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, sydd wedi trefnu'r deyrnged i AS cynta Plaid Cymru, ymgyrchydd iaith a heddwch, ac awdur toreithiog. Mae cefnogwyr ac edmygwyr Mr Evans wedi codi swm chwe ffigwr i brynu'r darlun gan yr artist o Gaerdydd, David Griffiths.
Ar hyn o bryd mae'r llun yn rhan o arddangosfa Mr Griffiths yn y Llyfrgell tan 5 Hydref. Yn y seremoni ddydd Gwener bydd Mr Thomas AC yn cyflwyno'r portread i Guto ap Gwynfor, mab i Mr Evans, fydd yn cyflwyno'r darlun ar ran ei deulu i feddiant y Llyfrgell fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. "Mae llawer o sôn wedi bod ers Refferendwm 1997 am achlysuron hanesyddol," meddai Mr Thomas. "Yn sicr, dyma achlysur felly, gyda Gwynfor Evans ar drothwy ei ben blwydd yn rhoi anrheg i'r genedl."
Dywedodd fod y llun yn symbol addas o ymroddiad un dyn i'w genedl. "Dymuniadau gorau, diolch am eich ysbrydoliaeth, a phenblwydd hapus iawn, Gwynfor," meddai. Wrth dderbyn y llun i'r casgliad cenedlaethol, dywedodd y Llyfrgellydd, Andrew Green, ei fod yn gwerthfawrogi'r rhodd. "Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch i dderbyn y portread yma o un o wleidyddion amlycaf Cymru," meddai. "Byddwn yn ei drysori er mwyn sicrhau fod cenedlaethau o Gymry a thramorwyr yn cael y cyfle i werthfawrogi'r llun a gwaith Mr Evans dros ei genedl." Fe fydd Gwynfor Evans yn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed ar 1 Medi.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||||