Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Iau, 22 Awst, 2002, 08:56 GMT
Trafod gwahardd ffonio a gyrru
gyrru a ffonio
Dywed rhai y bydd hi'n amhosib gweithredu'r gyfraith newydd
Mi allai defnyddio ffôn symudol tra'n gyrru fod yn anghyfreithlon cyn bo hir.

Mae adran drafnidiaeth y llywodraeth yn San Steffan yn ystyried cyflwyno gwaharddiad llwyr ar y defnydd o ffonau llaw mewn ceir.

Byddai gyrwyr yn cael eu dirwyo os bydden nhw'n cael eu dal.

Ond byddai defnyddio offer lle nad oes angen cydio ynddo'n cael ei ganiatáu.

Ar hyn o bryd, gall gyrwyr gael eu herlyn os ydy'r heddlu'n gallu profi eu bod nhw'n gyrru'n beryglus am eu bod nhw'n defnyddio ffonau symudol.

Ond mae'r llywodraeth yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd i wahardd defnyddio'r ffonau hyn tra'n gyrru.

Offer clust

Byddai gyrrwr, hyd yn oed, yn torri'r gyfraith pe bydden nhw'n defnyddio ffôn a'r cerbyd ddim yn symud a hefyd pe bydden nhw'n defnyddio offer clust neu feicroffon.

Mae'n bosib, hefyd, y byddai'r gyfraith yn caniatáu i'r heddlu erlyn cyflogwyr sy'n annog eu gweithwyr i ddefnyddio'r ffôn yn eu ceir.

Bydd torri'r gyfraith yn golygu gorfod talu dirwyon rhwng £30 a mil £1,000.

Dywed rhai y bydd hi'n amhosib gweithredu'r gyfraith newydd.

Ac mae rhai wedi crybwyll doethineb gwahardd y defnydd o ffonau symudol tra'n gyrru ond eto'n caniatáu i bobol fwyta, smygu neu newid yr orsaf radio tra'u bod nhw wrth y llyw.

Dyna'n union pam y mae'r llywodraeth yn bwriadu cynnal cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.

Ydych chi'n credu y dylid gwahardd siarad ar y ffôn tra'n gyrru?

Gyrrwch eich sylwadau i Cymru'r Byd drwy glicio yma.

Cliciwch yma i weld yr ymateb.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.