![]() |
![]() |
|
![]() |
||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]()
![]()
|
![]() |
Dydd Llun, 5 Awst, 2002, 14:22 GMT
'Dim corff paganaidd yw'r Orsedd'
![]() Cafodd Dr Williams ei urddo i'r Orsedd ddydd Llun
Wrth gael ei dderbyn ei Orsedd y Beirdd, bu i ddarpar Archesgob Caer-gaint ymateb i'r feirniadaeth ohono am gymryd rhan mewn defod 'baganaidd'.
Drwy gymharu'r Orsedd ag arferion paganaidd, mae'r rhain yn dangos anwybodaeth a rhagfarn yn erbyn y Cymry, meddai'r Parchedicaf Ddoctor Rowan Williams neu ap Neurin. Wrth ei urddo, bu i'r Archdderwydd alw ar i Esgobaeth Caer-gaint gael ei symud i Gasnewydd. Gwnaeth Robyn Llýn y sylw yma mewn seremoni fore Llun i dderbyn Archesgob newydd Caer-gaint i'r Orsedd. Bu i'r Archdderwydd annog Dr Williams i ddefnyddio'i ddylanwad i symud yr esgobaeth i Gasnewydd gan ei bod "yn ddinas mwy gwaraidd ar gyfer pencadlys Anglicaniaeth drwy'r byd". Bu i Rowan Williams wfftio'r feirniadaeth ohono'n y wasg oedd yn honni fod y seremoni yn un paganaidd ac yn anaddas iddo ymwneud â hi.
Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd The Times, mae gan gyfarfodydd Gorsedd y Beirdd gysylltiad â phaganiaeth. Mae Dr Williams yn gweld y sylwadau yma yn rhai "sarhaus iawn." Mae un aelod ceidwadol o Eglwys Lloegr, y Parchedig David Banting, wedi dweud bod ganddo bryderon wrth bapur The Times. "Fe ddylai arweinwyr crefyddol ganolbwyntio ar ddathlu a hyrwyddo'r gred Gristnogol yn hytrach na delio gyda pethau eraill," meddai. Diwylliant Cymru Ond dywedodd Dr Williams nad yw'n hapus gyda'r fath sylw. "Mae'r awgrym sydd wedi cael ei wneud gan y wasg Brydeinig ynglýn â chysylltiad rhwng yr Orsedd a phaganiaeth yn wrthyn ac yn sarhaus.
"Ac mae hefyd yn sarhad ar y bobol dda hynny yng Nghymru sydd yn derbyn yr Orsedd am y lliw a'r urddas sy'n cael ei roi yn yr Eisteddfod ac i fywyd diwylliannol cenedlaethol Cymru "Pan gefais i fy ngwahodd gan yr Orsedd i gael fy urddo roedd hi'n fraint i mi dderbyn. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Orsedd yn rhan bwysig ac annatod o fywyd cenedlaethol Cymru ac mae cael eich urddo i Orsedd y Beirdd yn un o'r anrhydeddau mwyaf y gall Gymru ei rhoi i'w phobol." Fe fydd Dr Williams yn cael ei urddo er anrhydedd am ei gyfraniad i fyd crefydd yng Nghymru. "Dydan ni ddim fel y derwyddon yn Lloegr," meddai'r Archdderwydd Robyn Lewis. "Mae derwyddon Côr y Cewri yn griw sy'n ysmygu mwg drwg." Mae papur newydd y Wales On Sunday wedi cyhuddo'r wasg yn Llundain am fod yn "anwybodus" ac yn "abswrd" am wneud y fath sylwadau. "Mae'r seremoni ei hun yn ddigon diniwed," ychwanegodd yr Archdderwydd Robýn Llýn.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |