Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Gwener, 19 Gorffenaf, 2002, 12:57 GMT
Galw am ymchwiliad i weithgareddau Heddlu'r De
Michael O'Brien
Michael O'Brien: Galw am ymchwiliad
Mewn cyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener cefnogodd aelodau o bob plaid wleidyddol ymgyrch i gael ymchwiliad cyhoeddus i weithgareddau Heddlu De Cymru

Mae dyn gafodd ei gyhuddo ar gam 15 mlynedd yn l am lofruddio perchennog siop bapur newydd wedi galw am yr ymchwiliad i'r modd y deliodd Heddlu'r De 13 o achosion yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Fe dreuliodd Michael O'Brien 11 mlynedd yn y carchar ar gam ar gyhuddiad o lofruddio Phillips Saunders yng Nghaerdydd yn 1987.

Mae Mr O'Brien a nifer o bobol eraill yn honni bod plismyn wedi ffugio cyfweliadau a thystiolaeth.

Cefnogaeth gwleidyddion

Cafodd Ellis Sherwood a Darren Hall eu carcharu ar gam am lofruddio'r perchennog siop bapur newydd.

Ellis Sherwood
Ellis Sherwood: Cafodd ei ryddhau ar apl

Yn ystod y lflwyddyn ddiwetha mae Mr O'Brien ac Adrian Stone, gafodd ei gyhuddo ar gam yn l yn 1982 am fod ffrwydron yn ei feddiant, wedi bod yn cysylltu ag Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Senedd Ewrop yng Nghymru, yn gofyn am eu cefnogaeth i alw am ymchwiliad annibynnol.

Mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd ddydd Gwener pwysodd yr ymgyrchwyr am ymchwiliad i weithgareddau Heddlu'r De rhwng 1982 a 2001.

Mae mudiad Liberty De Cymru yn cefnogi ymgyrch Mr O'Brien, Mojo.

Ymhlith y gwleidyddion sydd wedi cynnig eu cefnogaeth mae AC Plaid Cymru, Cynog Dafis ac Owen John Thomas a'r ASau Julie Morgan ac Elfyn Llwyd.

Dywedodd Mr O'Brien fod Jonathan Morgan a Jill Evans, dau o ASE Cymru, hefyd yn cefnogi.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.