|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||||
|
Dydd Gwener, 19 Gorffenaf, 2002, 09:36 GMT
Un o sioeau mwyaf Ewrop
Dyma'r lle gorau'n y byd i gweld defaid
Sioe Amaethyddol Cymru yw un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop, ac yma y dangosir y nifer mwyaf o fridiau defaid yn y byd.
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy'n gyfrifol am y sioe a gynhelir bob blwyddyn tuag at ddiwedd Gorffennaf.
Ers ei sefydlu, tan ddechrau'r chwedegau, sioe deithiol oedd hon yn ymweld â gwahanol siroedd fel y câi wahoddiad ond yna penderfynodd y Gymdeithas gael maes parhaol yn Llanelwedd ger Llanfair ym Muallt. Mae'r safle yma erbyn hyn yn cael ei defnyddio, nid yn unig ar gyfer y Sioe Aeaf ym mis Rhagfyr a Sioe'r Tyddynwyr ym mis Mai, ond hefyd nifer o sioeau gan gymdeithasau eraill yn amrywio o rai'n ymwneud â chefn gwlad i gymdeithasau beiciau modur.
Yn y gorffennol, cafwyd arddangosfeydd gan griw o beiriannau JCBs, aelodau o'r Llynges a marchogion o Hwngari. Yn fras mae'r maes yn cael ei rannu'n dair rhan; ger y brif fynedfa ceir y stondinau masnachol. Yn yr ail ran mae'r maes arddangos ac adeiladau'r anifeiliaid; ac yn y drydedd, o gwmpas llyn bychan, mae llecyn ar gyfer crefftau gwledig a lle gellir gwrando ar gerddoriaeth gan fandiau jazz a milwrol.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||