Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Mercher, 17 Gorffenaf, 2002, 17:23 GMT
Sut mae'r streic wedi effeithio ar Gymru
Amharwyd ar wasanaethau cyhoeddus ddydd Mercher wrth i weithwyr cyngor fynd ar streic dros gyflog.

Ffeindiwch eich cyngor i gael y manylion.....

| | | | | |
Ceredigion | | | | | | | | |
Penfro| | |
Abertawe | | |
Wrecsam

Roedd 28 o'r 52 ysgol gynradd yn agored efo staff yn nifer o'r gweddill. Roedd yr ysgolion uwchradd wedi cau.

Roedd llyfrgelloedd Benllech, Niwbwrch a Rhosneigr yn agored, a rhai Amlwch, Biwmaris, Caergybi, Cemaes, Llangefni, Moelfre a Phorthaethwy wedi cau.

Roedd atyniadau Oriel Ynys Môn a Stablau Haulfre wedi cau. Yn agored roedd Llys a Charchar Biwmaris, Canolfan Forol Moelfre, Melin Llynnon ac Ynys Lawd.

Hefyd yn agored roedd Gwasanaeth Cartref, Gofal Môn a'r gwasanaethau argyfwng.

Mewn argyfwng dylid ffonio'r canlynol:
Tai (01248) 750099
Priffyrdd (01248) 723062
Gwasanaethau Cyhoeddus (01286) 675502

Roedd pob ysgol wedi cau ond roedd unrhyw drip ysgol yn mynd ymlaen. Roedd pob swyddfa'r cyngor, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, canolfannau addysg, sinemâu, theatrau, toiledau, mynwentydd a Chanolfan Ymwelwyr Bryn Bach ynghau.

Roedd cartrefi gofal yn agored a gwasanaeth gofal y cartref a phryd-ar-glud ar gael.

Doedd dim gwasanaeth casglu sbwriel.

Roedd gwasanaeth cyfyngedig ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn The Grove, Tredegar.

Roedd y canolfannau argyfwng yn gweithio.

Dim manylion.

Doedd y canlynol ddim yn agored: -

  • Ysgolion
  • Canolfannau hamdden
  • Llyfrgelloedd
  • Swyddfeydd y Cyngor
  • Canolfannau dydd
  • Canolfannau ymwelwyr ac atyniadau

Mewn argyfwng gellir ffonio 01443 875500. Am wasanaeth cofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau dylid ffonio 01443 863478.

Roedd 65 ysgol ynghau ynghyd â pharciau a doedd dim gwasanaeth casglu sbwriel.

Roedd rhai canolfannau hamdden ar gau, gan gynnwys:

  • Canolfan Hamdden y Dwyrain
  • Canolfan Hamdden y Gorllewin
  • Canolfan Hamdden Pentwyn
  • Canolfan Hamdden Llanisien
  • Pwll Maindy
  • Pwll Y Sblot
  • Canolfan Channel View
  • Neuadd Gymunedol Y Rhath

Un llawr o'r Llyfrgell Ganolog oedd yn agored ac roedd yn debyg y byddai Llyfrgell Rhiwbeina yn agored.

Dim ond y canolfannau addysg canlynol oedd yn agor:

  • Gabalfa
  • Glan Elai
  • Pentwyn
  • Powerhouse
  • a Thredelerch

Roedd y canolfannau ieuenctid yn agored.

Roedd pob parc ynghau, gan gynnwys :

  • Parc Fictoria
  • Parc y Rhath
  • Parc Thompson
  • Parc Bute.

Dim ond ar gyfer seremoni graddio yr oedd Neuadd Dewi Sant ar agor ac roedd y Theatr Newydd ar agor.

Roedd Morglawdd Bae Caerdydd ynghau i'r cyhoedd.

Doedd dim casglu sbwriel.

Roedd gwasanaethau Wedal, Waungron a Lamby Way wedi cau.

Roedd yr ysgolion canlynol ynghau:

  • Baden Powell
  • Bryn Celyn
  • Meithrin Caerau
  • Ysgol Uwchradd Cantonian
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd
  • Ysgol Uwchradd Cathays
  • Corpus Christi
  • Coryton
  • Eglwys Newydd
  • Y Tyllgoed
  • Gabalfa
  • Gladstone
  • Glan Yr Afon
  • Glyn Coed
  • Grangetown
  • Greenway
  • Herbert Thompson
  • Hywel Dda
  • The Hollies
  • Kitchener
  • Lakeside
  • Lansdowne
  • Ysgol Uwchradd Llanedeyrn
  • Ysgol Uwchradd Llanisien
  • Ysgol Uwchradd Llanrumney
  • Marlborough
  • Ysgol Uwchradd Mary Immaculate
  • Meadowbank
  • Meadowlane
  • Mount Stuart
  • Parc Ninian
  • Pentrebane
  • Pentyrch
  • Peter Lea
  • Pen Y Bryn
  • Radnor
  • Ysgol Uwchradd Radur
  • Rhydypenau
  • Ysgol Gynradd Riverbank
  • Ysgol Uwchradd Tredelerch
  • Severn Road
  • Springwood
  • St Alban's
  • St Cuthbert's
  • Ysgol Uwchradd Babyddol Illtud Sant
  • St John Lloyd
  • Llaneirwg
  • Ysgol Uwchradd Babyddol Sant Phillip Evans
  • Tremorfa
  • Trowbridge
  • Ty Gwyn, Viriamu Jones,
  • Willowbrook
  • Windsor Clive
  • Ysgol Uwchradd Egwlys Newydd
  • Ysgol Gymraeg Pwll Coch
  • Ysgol Gymraeg Treganna
  • Ysgol Pencae
  • Ysgol Uwchradd Plasmawr.

Roedd y canlynol wedi cau:

  • Parciau Pembe, Gelli Aur a Llyn Llech Owain
  • Doedd dim gwasanaeth achub bywyd ym Mharc Pembre
  • Parc Howard a Pharc y Bobol Llanelli, a Pharc Rhydaman
  • Canolfan Adloniant Llanelli
  • Oriel Myrddin
  • Pwll Nofio a Chanolfan Dyffryn Aman
  • Canolfan Chwaraeon Y Strade, Coedcae a Bryngwyn
  • The Boat House, Talacharn
  • Canolfannau dydd
  • Canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Swyddfeydd, gan gynnwys 1 a 40 Stryd Spilman, Caerfyrddin; Neuaddau Tref Rhydaman a Llanelli a Pontweli, Llandysul.
  • Llyfrgelloedd: Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn, Rhydaman, Llanelli, Porth Tywyn, Felinfoel, Llangennech a Phenymorfa
  • Holl amgueddfeydd ac archifdai
  • Canolfannau Addysg Pembre, Felinfoel a SIMTRA yn Llandeilo.
  • Clwb Anabl San Cler

Yn agored:

  • Ysgol Rhydygors
  • Ysgol Heol Goffa
  • Unedau Awtistiaeth Pwll, Myrddin a Rhydaman
  • Canolfan Addysg Awyr Agored Pentwyn
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin
  • Canolfan Hamdden Llanelli
  • Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn
  • Canolfan Hamdden San Cler
  • Canolfan Chwaraeon Gwendraeth (Drefach) a Glan y Mor (Porth Tywyn)
  • Bowlio Dan Do Myrddin, Caerfyrddin
  • Bowlio Dan Do, Rhydaman
  • Pwll Nofio Castell Newydd Emlyn
  • Pwll Nofio Llanymddyfri
  • Theatr Glowyr Rhydaman
  • Canolfan MCP
  • Parc Mynydd Mawr, Gwarchodfa Ynystawela a'r rhan fwyaf o'r parciau.
  • Clwb Golff Glyn Abbey
  • Clwb Golff Garnant
  • Marchnadoedd dan do Llanelli a Chaerfyrddin
  • Swyddfeydd, gan gynnwys Adeiladau Trefol, Llandeilo, Neuadd y Sir, Caerfyrddin a Ty Elwyn, Llanelli

Roedd 10 o'r 83 ysgol wedi cau a doedd dim gwasanaeth casglu-sbwriel. Roedd swyddfeydd y cyngor ynghau.

Doedd dim gwasanaeth ffôn

Mewn argyfwng i ffonio 01492 515777.

Roedd Ysgol Gogarth, Llandudno, ac Ysgol Gynradd Towyn wedi cau ac Ysgol Porth y Felin, Conwy, wedi cau yn y bore.

Roedd nifer o swyddfeydd wedi cau.

Roedd yr ysgolion wedi cau ond Ysgol Plas Brondyffryn (Dinbych) ac Ysgol Tir Morfa (Rhyl).

Doedd dim sbwriel yn cael ei gasglu. Roedd arllwysfeydd Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Ruthun, Llangollen a Chorwen yn agored a gellid mynd â sbwriel yno.

Roedd derbynfeydd y canlynol yn agored:

  • Ffordd Wynnstay, Rhuthun
  • Caledfryn, Ffordd Smithfield, Dinbych
  • Ty Nant, Prestatyn
  • Russell House, Rhyl.

Doedd y canlynol ddim yn agored:

  • Trem Clwyd, Rhuthun
  • Morfa Hall, Rhyl
  • Canolfan Plant Cefndy, Rhyl
  • Swyddfa Arian, Neuadd y Dref, Y Rhyl
  • Fronfraith (Adran Dai), Ffordd Churton, Rhyl
  • Swyddfeydd Nant Hall Road, Prestatyn

Roedd y gwasanaethau argyfwng ac angenrheidiol ar gael.

Ysgolion uwchradd wedi cau :

  • Treffynnon
  • Ysgol yr Alun, Yr Wyddgrug.
  • Maes Garmon, Yr Wyddgrug
  • Argoed, Mynydd Isa
  • St David's, Saltney
  • John Summers
  • Fflint
  • Penarlâg
  • Elfed, Bwcle
  • St Richard Gwyn, Fflint
  • Castell Alun, ar wahân i Flwyddyn 10
  • Cei Cona - Blwyddyn 7 ac 8

Roedd rhai ysgolion cynradd wedi cau.

Ysgolion arbennig wedi cau :

  • Ysgol Delyn
  • Ysgol y Bryn

Roedd y canolfannau ym Mryn Tirion a Hen Lyfrgell Shotton wedi cau.

Llyfrgelloedd wedi cau:

  • Brychdyn
  • Bwcle
  • Cei Cona
  • Fflint
  • Treffynnon
  • Yr Wyddgrug
  • Mynydd Isa
  • Queensferry

Doedd dim llyfrgell deithiol.

Roedd archifdy Penarlâg wedi cau.

Roedd canolfannau ymwelwyr wedi cau yn y parciau gwledig, Valley Museum a'r Wyddgrug, a Chanolfannau Hamdden Saltney a'r Hobs.

Doedd dim marchnad yn Yr Wyddgrug na gwasanaeth sbwriel.

Dim sbwriel a nifer o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden wedi cau. Roedd hanner yr ysgolion wedi cau.

Roedd cartrefi gofal yr henoed yn agored.

Rhifau ffôn argyfwng yn unig

  • Priffyrdd:
    • Arfon: 01286 677 067
    • Dwyfor: 01758 704 011
    • Meirionnydd: 01341 422 592

  • Tai: 01248 370 999

  • Gwasanaethau Cymdeithasol: 01286 675 502

Y cyngor oedd y dylai rhieni gysylltu â'r ysgol. Doedd dim gwasanaeth sbwriel.

Roedd gwasanaethau a chartrefi gofal ar gael ond canolfannau dydd ar gau. Roedd pryd-ar-glud ar gael. Roedd Neuadd y Sir yn agored ar gyfer argyfwng ond swyddfeydd ardal ddim.

Dim sbwriel; dim canolfannau hamdden na pharciau na mynwentydd ar agor. Roedd y rhan fwya o'r ysgolion wedi cau.

Dim manylion.

Roedd y Ganolfan Ddinesig yn gweithio'n rhannol.

Doedd dim gwasanaeth sbwriel ac roedd y toiledau cyhoeddus wedi cau.

Roedd pob llyfrgell ac amgueddfa wedi cau.

Doedd Gwasanaethau Cymdeithasol y Corn Exchange ddim yn agored.

Roedd effaith ar rai llyfrgelloedd, gwasanaethau casglu sbwriel a phrydau ysgol.

Roedd y llyfrgelloedd yma wedi cau:

  • Hakin
  • Aberdaugleddau
  • Neyland
  • Penfro
  • Doc Penfro
  • Dinbych y Pysgod.

Roedd pob canolfan gwybodaeth ymwelwyr yn agored, ar wahân i un Dinbych y Pysgod.

Roedd gwasanaethau cwsmeriaid ar gau yn :

  • Abergwaun
  • Aberdaugleddau
  • Doc Penfro.

Doedd dim gwasanaeth sbwriel.

Dim manylion.

Roedd llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden wedi cau a rhai swyddfeydd y cyngor. Doedd dim casglu sbwriel.

Roedd rhai ysgolion yn agored.

Roedd y gwasanaethau argyfwng ar gael fel arfer.

Roedd y meysydd parcio ar gael ar wahân i'r Parcio a Theithio yng Nghlandwr

Roedd Theatr y Grand a Chanolfan Hamdden Abertawe (ar wahân i'r pwll) yn agored.

Roedd y Llyfrgell Ganolog, y Ganolfan Denis, Gwasanaeth Archifau, Marina a Phwll Daniel James yn agored. Roedd pob gwasanaeth hamdden wedi cau, gan gynnwys y toiledau.

Roedd y parciau'n agored.

Roedd rhai ysgolion yn agor.

Mi fydd casglu sbwriel yr wythnos yma yn hwyr yn Panteg, Croesyceiliog, Llanyrafon a Llantarnam.

Roedd 19 ysgol ar agor drwy'r dydd, 12 yn y bore ac 20 wedi cau drwy'r dydd.

    Yr 20 wedi cau oedd :

  • Abersychan
  • Blaenafon Hillside
  • Brookfield
  • Croesyceiliog
  • Crownbridge
  • Fairwater
  • Garnteg
  • George Street
  • Llantarnam
  • Llanyrafon
  • Penygam
  • Ponthir
  • Pontnewynydd
  • Pontymoile
  • West Mon
  • Ysgol Gyfun Gwynllyw
  • Ysgol Gymraeg Cwmbran

Mewn argyfwng ffoniwch 01495 766025.

Dim gwasanaeth casglu sbwriel.

Roedd 12 ysgol allan o 66 wedi cau.

Roedd y Brif Swyddfa yn Y Barri'n agored, ond gofynnwyd i'r cyhoedd beidio ffonio os na fyddai'n hollol angenrheidiol.

Roedd y swyddfeydd i gyd wedi cau ond roedd staff ar gael mewn argyfwng.