![]() |
![]() |
|
![]() |
||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma safle: | ||||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]()
|
![]() |
Dydd Llun, 8 Gorffenaf, 2002, 08:34 GMT
Coleg newydd i dref Caernarfon
![]() Mi fydd y ganolfan newydd yn cynnig cyrsiau i drigolion tref Caernarfon
Bydd tref Caernarfon yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer Dysgu Am Oes pan fydd Coleg Menai yn agor canolfan newydd yn y dref.
Bydd y ganolfan yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Llun ar Y Maes gan Dafydd Wigley AC. Bu canolfan y coleg yn y dref yn Stryd y Plas ers 1995 a gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fyfyrwyr yn cofrestru ar gyrsiau.
Profodd llwyddiant canolfan y coleg yn Stryd Plas bod yna alw yn y dref am addysg a hyfforddiant. Er mwyn delio efo hyn, sicrhaodd Coleg Menai arian Amcan 1, y Gronfa Ddatblygu Ewropeaidd, i ddatblygu Canolfan Dysgu am Oes pwrpasol ar hen safle swyddfeydd Papurau'r Herald ar Y Maes aeth ar dān yn yr 1980au. Tua £800,000 yw gwerth y cynllun yn ei gyfanrwydd ac roedd ymysg y cyntaf yng Nghymru i'w gael ei gymeradwyo am arian Amcan Un. Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys naw ystafell ddysgu a chyfanswm o 60 o gyfrifiaduron. Nid yn unig y bydd yn cynnig y dewis presenol o gyrsiau, yn cynnwys sgiliau sylfaenol, cyfrifiaduron, celf a dylunio a Mynediad i Addysg Uwch, ond hefyd yn cynnig amrywiaeth diddorol o gyrsiau arloesol yn cynnwys gofal cwsmer, creu tīm a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd y rhain yn gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig yn lleol.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |