![]() |
![]() |
|
![]() |
||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma safle: | ||||||||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]()
![]()
|
![]() |
Dydd Mercher, 3 Gorffenaf, 2002, 09:46 GMT
Teithiau rhad o Faes Awyr Caerdydd
![]() Bydd teithwyr o Gymru ar eu hennill
Cyhoeddodd cwmni awyrennau y bydden nhw'n trefnu teithiau rhad o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Dywedodd bmibaby taw Caerdydd fyddai eu hail ganolfan yng ngwledydd Prydain. Bydd 100 o swyddi'n cael eu creu a disgwylir i hyd at 1m o deithwyr ddefnyddio'r gwasanaethau newydd o ddiwedd y flwyddyn ymlaen.
Ar hyn o bryd mae bmibaby'n hedfan dramor i naw o lefydd, gan gynnwys Barcelona, Dulyn, Faro, Ibiza, Nice a Prague. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y gwasanaethau yn ystod yr wythnosau nesaf. Cychwynnodd gwasanaethau bmibaby ym Mawrth 2002 ym Maes Awyr East Midlands. Nod y cwmni yw defnyddio dwy awyren Boeing 737 yng Nghaerdydd y gaeaf hwn. "Mae potential Maes Awyr Rhyngwladol Caaerdydd yn fawr, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr," meddai Tony Davis, Rheolwr-Gyfarwyddwr bmibaby.
"Bydd twf sydyn yn nifer y teithwyr a bydd y maes awyr yn dygymod," meddai. "Mae hwn yn hwb i'r maes awyr," meddai Geinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad Andrew Davies. "Rhaid eu llongyfarch oherwydd eu hymroddiad a'u llwyddiant. "Mae'r gwasanaethau newydd yn dangos y gall Cymru gystadlu mewn marchnad anodd."
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |