Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle: 
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Sadwrn, 22 Mehefin, 2002, 10:05 GMT
Aduniad i fomwyr yr Ail Ryfel Byd
Awyren yn bomio tref
Roedd awyrennau Prydain a'r Almaen yn targedu dinasoedd
Fe fydd chwe aelod o griw un o awyrennau'r llu awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn y cyfarfod ddydd Sadwrn am y tro cynta mewn 57 mlynedd.

Mae Tom Grossett sy'n 79 oed ac yn dod o ardal Pentwyn yng Nghaerdydd, wedi treulio'r rhan fwya o'i fywyd yn ceisio dod o hyd i'w gyfeillion.


Mae aelodau eraill o Sgwadron 39 yn marw ond mae'n criw ni'n dal yn fyw, mae'n debyg ein bod yn anweledig

Tom Grossett
Ar ôl chwilio'n ddyfal am ddwy flynedd, fe lwyddodd Mr Grossett i ddod o hyd i'r aelod ola o'r hen griw.

Mae Jimmy Spence bellach yn byw yn Awstralia, ond fe lwyddodd Mr Grossett i'w argyhoeddi i ddod yn ôl i Brydain fel bod modd i'r chwe aelod o'r criw gyfarfod am y tro cynta ers 1945.

Cafodd Mr Grossett hyd i'r pedwar arall mewn rhannau gwahanol o Brydain.

Roedd y chwech yn hedfan y B26 Martin Marauder, awyren oedd yn cael ei ddefnyddio i fomio targedau ym Môr y Canoldir a Chanolbarth Ewrop.

Bomio'r Natsďaid

Roedd y criw, a oedd yn eu 20au ar y pryd, yn gyfrifol am 13 o gyrchoedd gan ollwng ei bomiau ar reilffyrdd, ffyrdd a chanolfannau milwrol y Natsďaid.

Nhw yw'r unig griw o'r cyfnod sydd dal yn fyw.

"Roedden ni prin allan o'r ysgol ac yn hedfan awyrennau Americanaidd mawr," meddai Mr Grossett.

"Roedden ni wedi ein lleoli oddi ar arfordir Môr yr Adriatig yn Yr Eidal gan hedfan i Iwgoslafia i'w helpu i ymladd yn erbyn y Natsďaid.

Marauder
B26 Martin Marauder oedd awyrenau'r criw
"Mae aelodau eraill o Sgwadron 39 yn marw ond mae'n criw ni'n dal yn fyw, mae'n debyg ein bod yn anweledig."

Mae'r criw wedi rhoi'r llysenw "Y Rhai Anweledig" arnyn nhw eu hunain.

Pan ddaeth y rhyfel i ben fe aeth y chwech eu ffordd eu hunain gan addo cadw mewn cysylltiad.

Cadwodd Mr Grossett gysylltiad gyda Rex Waller o Bruton, yng Ngwlad yr Haf a Maurice Webster o Southport, ar Lannau Mersi, ond collodd gysylltiad gyda'r tri arall.

Yn 1979 llwyddodd i ddod o hyd i Bill Madeley o Barnsley, Swydd Efrog a Len Wilson o Ynys Manaw.

Ond methodd a chael hyd i'r Albanwr Jimmy Spence.

Daeth o hyd i'r ffaith fod Mr Spence wedi symud i fyw i Awstralia yn 1950 ac yn fuan wedyn y daeth o hyd iddo.

Edrych ymlaen

"Pan wnes i ffonio Jimmy, fe gafodd adnros o fraw, ond wedyn ar ôl dod dros y sioc roedd yn falch iawn.

"Unwaith i mi sôn am aduniad roedd wedi prynu'r tocyn.

"Fe fydd yn gręt i'w weld eto ar ôl yr holl flynyddoedd. Fe ddylai fod yn aduniad a hanner."

Roedd Mr Spence yn gweithio yn y diwydiant awyrennau yn Sydney hyd ei ymddeoliad a fo ydy'r unig un o'r chwech sydd ddim yn daid.

Yn ôl llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae hyn "yn stori anhygoel."

"Mae cannoedd o fudiadau a grwpiau RAF ar ôl y rhyfel diwethaf, ond dyma'r criw cyfan olaf o'r rhyfel."

Ddydd Sadwrn fe fydd yr hen gyfeillion, sydd yn ei 70au bellach, yn cyfarfod mewn gwesty ym Manceinion i gael ail-fyw brwydrau'r gorffennol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.