Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle: 
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Gwener, 21 Mehefin, 2002, 16:38 GMT
Hanes yr iaith Gymraeg

Un o'r ieithoedd Celtaidd ydy'r Gymraeg - yn perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Gellir olrhain yr iaith yn Űl i Gymraeg Cynnar y chweched ganrif, sy'n ei gwneud yn un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Ar ddechrau'r 20fed, roedd bron i hanner poblogaeth Cymru'n siarad Cymraeg, ond ers hynny syrthiodd y nifer yn gyson tan y 1970au.

Er bod dros hanner miliwn yn dal i siarad Cymraeg yn Űl cyfrifiad 1991, a'i bod yn edrych yn debyg bod yr iaith wedi sefydlogi erbyn hyn, collwyd nifer o gymunedau a fu - i bob pwrpas hyd yn hyn - yn uniaith Gymraeg.

Plant a phobol ifanc

Er hynny, cafwyd un arwydd da. Roedd canran y plant a'r bobol ifanc a allai siarad Cymraeg wedi cynyddu, yn groes i'r cyfrifiadau blaenorol. Hyn, yn bennaf oherwydd y twf yn yr ysgolion dwyieithog.

Erbyn hyn, hefyd, roedd dosbarthiad y Gymraeg wedi newid. Er bod yr iaith gryfaf yn ei chadarnleoedd, roedd cymaint yn ei siarad y tu allan i'r ardaloedd traddodiadol yn y gorllewin.

Dechreuwyd ymgyrchu o blaid yr iaith yn 1885 pan sefydlwyd cymdeithas i geisio gwarchod yr iaith - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedd yr iaith wedi dirywio o fod yn iaith 70% o'r boblogaeth ar ddechrau'r ganrif honno i ond hanner y Cymry'n ei siarad erbyn y sefydlwyd y gymdeithas.

O gael polisi addysg goleuedig, bwriad y gymdeithas oedd cael tair miliwn yn siarad yr iaith erbyn 1985.

Addysg gynradd

Llwyddwyd i berswadio'r llywodraeth i ganiatŠu dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd ond ni ch‚i hi'r un pwyslais ‚'r Saesneg ac ond ychydig flynyddoedd y bu'r gymdeithas mewn bodolaeth.

Dan ddylanwad Owen M Edwards, Prif Arolygydd Ysgolion Cymru o 1907 hyd 1920, hyrwyddwyd yr iaith mewn ysgolion cynradd a dysgwyd iaith a llenyddiaeth Gymraeg fel pwnc yn yr ysgolion uwchradd.

Yn 1922 sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards (mab O M Edwards) trwy ei apÍl yn y Cylchgrawn Cymru'r Plant. Erbyn diwedd 1922 roedd 720 o aelodau wedi cofrestru a channoedd yn aros eu tro. Sefydlwyd Adran Gyntaf yr Urdd yn Y Treuddyn, Sir y Fflint, hefyd yn 1922.

Gwersyll yr Urdd

Erbyn 1927, roedd aelodaeth yr Urdd wedi tyfu i dros 5,000 a thros 80 o adrannau, ac yn 1928, cynhaliwyd y gwersyll haf cyntaf i dros 100 o fechgyn mewn pebyll yn Llanuwchllyn. Tyfodd y gwersylloedd hyn yn boblogaidd nes yn 1932 sefydlwyd gwersyll parhaol yn Llangrannog ac yn ddiweddarach yng Nglan-Llyn.

Yn 1929, cynhaliwyd Eisteddfod gyntaf yr Urdd yng Nghorwen. Gwyl yn para am ddau ddiwrnod oedd hon i ddechrau, ond erbyn heddiw mae'n chwe diwrnod o hyd.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1938 dechreuwyd casglu enwau ar gyfer deiseb oedd yn hawlio statws cyfartal ‚'r Saesneg i'r iaith o fewn y gwasanaethau cyhoeddus a'r gyfraith.

Arwyddodd dros chwarter miliwn y ddeiseb a chafwyd cefnogaeth 30 allan o'r 35 aelod seneddol Cymreig.

Arweiniodd hyn at Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a oedd yn caniatau defnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd.

Ysgolion Cymraeg

Rhoddodd Deddf Addysg 1944 ganiat‚d i awdurdodau lleol ystyried sefydlu ysgolion Cymraeg ac o ganlyniad i bwysau rhieni sefydlwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Llanelli yn 1947.

Yn yr Eisteddfod
Roedd yr ysgol Gymraeg gyntaf wedi'i sefydlu yn Aberystwyth yn 1939. Ysgol breifat oedd hon a sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

Yn 1956, sefydlwyd Ysgol Glan Clwyd yn Y Rhyl, yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf.

Ar y dechrau, plant o gartrefi Cymraeg ‚i i'r ysgolion Cymraeg, ond erbyn 2001/2 - gyda 25% o blant Cymru'n derbyn addysg ddwyieithog - roedd y mwyafrif yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

Pwnc craidd

Ers Deddf Addysg 1988, bu'r Gymraeg yn bwnc craidd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn 1990 daeth yn bwnc gorfodol i bob disgybl hyd at 14 mlwydd oed. Yn 1999 daeth yn orfodol i bob un hyd at 16 oed.

Mae'r galw am wersi Cymraeg ymysg oedolion, hefyd, ar gynnydd, gyda 24,000 yn mynychu dosbarthiadau yn 2000/01.

Ond hyd at yr 1960au, tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd, y capel a'r eisteddfod. Ychydig iawn o ddefnydd oedd iddi ym myd masnach ac roedd mwy a mwy o bobol ifanc yn ymddiddori yn y diwylliant poblogaidd Saesneg.

Dulliau chwyldroadol

Mewn darlith radio, Tynged yr Iaith, yn Chwefror 1962 dywedodd y llenor a'r cenedlaetholwr Saunders Lewis mai "ond dulliau chwyldroadol allai achub yr iaith."

Protest Pont Trefechan
Galwodd ar y Cymry Cymraeg i wrthod ffurflenni swyddogol Saesneg, hyd yn oed os oedd hyn yn golygu dirwyon neu hyd yn oed garchar.

Arweiniodd hyn at fwrlwm o weithgareddau o blaid y Gymraeg gan sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Awst 1962 - yr un enw ‚'r un sefydlwyd yn 1885 ond un gafodd lawer mwy o lwyddiant. Yn Chwefror 1963 cafwyd protest gyntaf y Gymdeithas, a hynny ar Bont Trefechan yn Aberystwyth.

Protestiadau

Drwy 1960au a'r 1970au cafwyd nifer o brotestiadau didrais, nifer ohonyn nhw'n erbyn arwyddion a ffurflenni Saesneg, a arweiniodd at garcharu cannoedd o bobol ifanc.

Enillwyd rhai consesiynau pan sefydlwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 gan roi'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd ynghyd ‚ sicrhau'r cyfle i'w defnyddio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.

Yn 1970 dechreuodd y Gymdeithas ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg.

Radio Cymru

Wedi ymgyrchoedd oedd yn cynnwys gwrthod prynu trwydded teledu, meddiannu stiwdios a dringo mastiau, sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC yn 1977.

Gwynfor Evans
Er i addewid gael ei gwneud i sefydlu gorsaf deledu Gymraeg, yn 1979 bu i'r llywodraeth ailfeddwl. Arweiniodd hyn at ympryd gan gyn lywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, a bu i'r llywodraeth ildio yn 1980.

Yn 1982, sefydlwyd sianel deledu Gymraeg - S4C - sy'n darlledu, erbyn hyn, dros 120 awr yr wythnos yn yr iaith.

Yn 1993 cafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg sefydlodd yr egwyddor bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal a bod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i'r cyhoedd.

Sefydlodd y ddeddf hefyd Fwrdd yr Iaith Gymraeg i arolygu'r datblygiadau hyn.

Deddf iaith arall

Nid yw'r ddeddf yn gorfodi cyrff preifat i drin y ddwy iaith yn gyfartal ac mae grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith yn pwyso am ddeddf iaith newydd er mwyn rhoi yr un rheidrwydd ar y sector yma.

O'r 1960au ymlaen, roedd llawer mwy o ddiddordeb yn yr iaith.

Yn 1971 sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin i roi addysg Gymraeg i blant dan oed ysgol.

Sefydlwyd mudiad i ymgyrchu o blaid sefydlu ysgolion Cymraeg - cynradd ac uwchradd.

Llyfrau a recordiau

Sefydlwyd y Cyngor Llyfrau Cymraeg ddaeth yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau.

Ers sefydlu cwmni recordiau Sain yn niwedd y 1960au, cafwyd twf aruthrol mewn canu poblogaidd Cymraeg ac erbyn hyn mae bandiau ddechreuodd drwy ganu'n Gymraeg yn amlwg ar y llwyfan rhyngwladol.

Y Cynulliad Cenedlaethol
Yn y 1970au sefydlwyd nifer o bapurau bro gan ddod ‚'r iaith i sylw nifer oedd byth yn ei darllen. Erbyn ceir dros 50 ohonyn nhw, a nifer y darllenwyr yn tynnu at 100,000.

Gyda sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, roedd gobeithion - er na allai'r corff yma deddfu - y byddai argyfwng yr iaith drosodd.

Mewnfudo

Yn ystod yr 1980au dechreuodd nifer o bobol o Loegr symud i'r ardaloedd Cymraeg - unai i dai gwyliau neu'n barhaol; yn bennaf oherwydd bod tai yma'n rhatach.

Dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrch oedd yn cynnwys meddiannu rhai o'r tai hyn. Sefydlwyd, hefyd, fudiad Adfer oedd yn ceisio cryfhau'r iaith yn y Fro Gymraeg.

Gwaethygodd y sefyllfa erbyn diwedd y degawd hwnnw a dechreuodd mudiad o'r enw Meibion Glyndwr ymgyrch losgi tai haf, gan ddifrodi cannoedd ohonynt.

Oherwydd dirywiad yn y sefyllfa economaidd yn Lloegr, arafodd y mewnfudo i Gymru tan ganol y 1990au.

Uniaith Saesneg

Unwaith eto, dechreuodd y mewnfudo gyda nifer o bentrefi a oedd i bob pwrpas yn uniaith Gymraeg yn troi'n Saesneg dros nos.

Sefydlwyd mudiad Cymuned yn 2001 i geisio amddiffyn yr iaith yn ei chadarnleoedd a bu'n pwyso am dynhau rheolau cynllunio i atal troi cartrefi parhaol yn dai haf a chryfhau'r economi yn yr ardaloedd hyn.

Roedd Cymuned ymysg nifer o fudiadau fu'n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad yn ei arolwg o'r iaith.

Ddiwedd mis Mehefin 2002 fe fydd Pwyllgor Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi eu harolwg o'r aiith Gymraeg.


Cyhoeddi Adolygiad yr Iaith Gymraeg y Cynulliad
Dyfodol yr iaith