Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle: 
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Sulwyn Thomas yn holi Prys Edwards
"Datblygu er budd ein pobol ifanc"
 real 28k

Dydd Llun, 10 Mehefin, 2002, 16:04 GMT
Newididau radical i'r Urdd
Mae penaethiaid Urdd Gobaith Cymru yn ystyried newidiadau radical a fyddai efallai yn dod diwedd ar ymweliad yr Eisteddfod i ardaloedd cefn gwlad Cymru.

Yn l Llywydd Anrhydeddus yr Urdd, Prys Edwards, mae'r mudiad yn ystyried rhoi'r gorau i symud yr wyl i'r ardaloedd gwledig gan ganoli mewn rhai trefi, oni bai fod yr Urdd yn cael cefnogaeth ariannol o'r sector cyhoeddus i barhau gyda'r teithio.


Dymuniad yr Urdd heb os ac oni bai ydy i deithio i'r ardaloedd hynny, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig

Prys Edwards, Llywydd Anrhyddus yr Urdd
"Fe gawson ni Eisteddfod lwyddiannus iawn yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf a dwi'n dymuno gweld yr wyl yn ehangu.

"Ond i gynnal y fath lwyddiant mae'n costio cryn dipyn, rhywbeth na all cymunedau gwledig ei gyrraedd," meddai Mr Edwards.

"Mi fyddwn i'n dymuno gweld yr eisteddfod yn parhau i deithio a dymuniad yr Urdd heb os ac oni bai ydy i deithio i'r ardaloedd hynny, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig.

"Ond i gyflawni hyn rhaid codi arian yn lleol ac yn aml mae'n fwrn ar y cymunedau wrth i nifer leihau.

"Petai incwm sylweddol oddi wrth y sector cyhoeddus ar gael i sicrhau bod yr wyl yn teithio... a hynny heb effeithio ar weddill gweithgareddau'r mudiad, gorau oll.

"Fe fydd hi'n mynd yn anoddach teithio heb gyllid ac un ateb fyddai i ganoli dwy allan o bedair eisteddfod fel y gallwn gadw'r costau teithio i lawr. "

Llandudno

Mae gan y mudiad 50,000 o aelodau ac un gweithgaredd, y prif un, ydy'r eisteddfod.

Un o'r cynigion mwya dramatig sy'n cael eu hystyried gan benaethiaid yr Urdd ar gyfer dyfodol y mudiad a'r Eisteddfod ydy i gynnal yr wyl unwaith bob pedair blynedd yn Llandudno.

Yn barod mae'r Urdd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cynnal yr wyl bob pedair blynedd yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan y Mileniwm o 2005 ymlaen.


Datblygu er budd yr iaith Gymraeg ac er budd pobol ifanc Cymru

Prys Edwards
Heb gymorth ariannol mae Mr Edwards, wyr sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, yn rhybuddio y gall yr Urdd fynd mor bell pheidio ag ymweld 'r ardaloedd gwledig, fel Llyn ac Eifionydd, oherwydd ei fod yn costio mor ddrud.

Petai'r cynlluniau yn mynd ymlaen fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal bob pedair blynedd yn y dre glan mr gan ddefnyddio Theatr Gogledd Cymru fel y prif bafiliwn a'r adeiladau a'r tir gerllaw ar gyfer y cyfleusterau eraill.

Roedd yr Eisteddfod eleni i fod i gael ei chynnal yn Llandudno yn dilyn llwyddiant yr eisteddfod yn yr ardal ddwy flynedd yn oll, Eisteddfod Bro Conwy.

Ond bu'n rhaid gohirio Eisteddfod y llynedd yng Nghaerdydd ac fe benderfynwyd cynnal yr eisteddfod yn y brif ddinas eleni.

Mae cost cynnal yr Eisteddfod yn 1.2m.

Dywed Mr Edwards fod hyn yn faich drom iawn ar yr ardaloedd gwledig gwasgaredig.

'O nerth i nerth'

"Does dim dwywaith y bydd yr Eisteddfod yn parhau fel digwyddiad blynyddol, mae'n ddyletswydd arnon ni i gynnal hyn er mwyn ein plant.

"Mae'r Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth.

"Rydw i'n dymuno gweld yr Eisteddfod yn parhau yn ystod wythnos y Sulgwyn bob blwyddyn ar gyfer cystadlaethau i aelodau hyd at 25 oed."

Wrth sn am y posibilrwydd o gynnal gwyl arall yn yr Hydref, dywedodd Mr Edwards y byddai hyn fwy na thebyg yn wyl deledu, yn dilyn llwyddiant Gwyl yr Urdd y llynedd.

"Fe fyddwn i'n gwrthwynebu symud y cystadlaethau hyn o wyl wythnos y Sulgwyn, gan bod gan yr aelodau yma rl allweddol i'w wneud i lwyddiant yr eisteddfod.

"Does dim dwywaith bod mynd 'r Eisteddfod i ardaloedd fel Llyn ac Eifionydd yn faich ariannol drom ar yr ardal, ac o ystyried y byddai cost cynnal y fath ddigwyddiad yn cynyddu 10% bob blwyddyn, mae'n rhaid ystyried Llandudno o ddifri.

"Rydym yn dymuno datblygu er budd yr iaith Gymraeg ac er budd pobol ifanc Cymru," ychwanegodd Mr Edwards.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.