![]() |
![]() |
|
![]() |
||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma safle: | |||||||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]()
![]()
|
![]() |
Dydd Mawrth, 28 Mai, 2002, 13:17 GMT
Canolfan Caernarfon yn ddiogel
![]() Mae grantiau'r loteri rwan yn cael eu cyfri fel arian cyhoeddus
Mae Andrew Davies, Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad wedi cadarnhau y bydd Bwrdd Croeso Cymru yn cael rhoi grant i adeiladu Canolfan Gelfyddydau yng Nghaernarfon.
"Dwi'n falch iawn o gymeradwyo'r grant hwn ar gyfer y ganolfan gelfyddydau. Dwi'n sicr y bydd yn chwarae rôl allweddol yn hybu ac adfywio'r ardal" meddai.
Mae'n rhaid i Fwrdd Croeso Cymru gael cymeradwyaeth gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol wrth roi grantiau i brosiectau yn y sector breifat lle mae'r arian o'r sector gyhoeddus yn talu 50% neu fwy o gost terfynol y prosiect. Roedd rheolau'r Comisiwn Ewropeaidd, sy'n nodi y dylid trin arian y Loteri fel arian cyhoeddus, yn golygu bod y Ganolfan Gelfyddydau yn defnyddio mwy na 50% o arian cyhoeddus. Felly roedd rhaid cael cymeradwyaeth gan Weinidog o'r Cynulliad er mwyn parhau â'r cynllun. Bydd y Bwrdd Croeso yn rhoi grant o £500,000 i adeiladu'r ganolfan. Mae Cwmni Tref Caernarfon yn gobeithio y bydd y ganolfan gelfyddydau'n cael ei hadeiladu yn noc Fictoria yn y dref. Breuddwyd y cwmni ydy creu cartref i ddosbarthiadau drama, dawns a chrefft - canolbwynt i'r celfyddydau yn yr ardal. |
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |