|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Llun, 15 Ebrill, 2002, 11:06 GMT
Papur dyddiol Cymraeg yn bosibilrwydd
Mae'r ymchwil yn dangos bod cefnogaeth i bapur dyddiol Cymraeg
Yn ôl gwaith ymchwil fe fyddai cynhyrchu papur newyddion dyddiol Cymraeg yn bosibilrwydd masnachol ymarferol.
Cafodd yr arolwg ei gasglu gan Mercator, uned sydd wedi ei lleoli yn Aberystwyth ac yn astudio ieithoedd lleiafrifol.
Mae papurau newydd mewn ieithoedd lleiafrifol eraill yn Ewrop yn ymfalchïo eu bod yn gallu gwneud arian allan o'r darllenwyr. Cymru ydy un o'r ychydig wledydd sydd heb bapur newydd yn yr iaith leiafrifol. Ond mae'r cynnydd yn y galw am newyddion dyddiol yn y Gymraeg i'w weld yn natblygiad gwasanaeth newyddion Cymru'r Byd gan BBC Cymru. Cafodd y gwasanaeth ei lansio ar 1 Mawrth 2000 ac mae'r gwasanaeth wedi gweld cynydd yn y nifer o bobol sy'n defnyddio'r gwasanaeth yng Nghymru a thramor, dros y ddwy flynedd diwethaf.
Ac mae'r canlyniad yn dangos byddai cynhyrchu papur newydd Cymraeg yn gwneud synnwyr busnes. Fe fyddai'r papur ar werth mewn siopau ond fe fyddai'n ddibynnol ar danysgrifwyr. Dywed yr ymchwil y byddai rhedeg cyhoeddiad llwyddiannus ar gost o £2m y flwyddyn yn bosibilrwydd. Ar hyn o bryd mae 'na 40m o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop. Mae gan y gymuned sy'n siarad Swedeg yn Y Ffindir, tua 300,000 ohonyn nhw, 10 cyhoeddiad dyddiol gyda pob ty yn prynu o leiaf un. Ac yn Catalonia, Sbaen, mae pum papur dyddiol gwahanol i siaradwyr yr iaith Catalan. Mae tua 560,000 o bobol Catalonia yn darllen papur dyddiol gyda 17,000 copi yn cael eu dosbarthu'n ddyddiol. Yng Nghymru mae gan Golwg, y cylchgrawn materion cyfoes wythnosol gylchrediad o 3,500 tra bod yr unig bapur newydd wythnosol, Y Cymro, yn gwerthu tua 5,000 copi'r wythnos.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||||||