Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Dyfodol yr Iaith
Rhan 2 o'r rhaglen drafod arbennig
 real 56k

Dyfodol yr Iaith
Rhan 1 o'r rhaglen drafod arbennig
 real 56k

Dyfodol yr Iaith
Rhan 3 o'r rhaglen drafod arbennig
 real 56k

Dyfodol yr Iaith
Rhan 4 o'r rhaglen drafod arbennig
 real 56k

Dyfodol yr Iaith
Rhan 5 o'r rhaglen drafod arbennig
 real 56k

Dydd Llun, 18 Chwefror, 2002, 11:03 GMT
Tynged yr Iaith - 40 mlynedd wedyn
Dyma gyfle ichi leisio'ch barn ar un o bynciau llosg y dydd - dyfodol yr iaith Gymraeg.

Yr ydym yn chwilio am eich ymateb i ddadl yr iaith yn sgil rhaglen arbennig a fu'n trafod y mater ar 13 Chwefror - 40 mlynedd yn union ers darlith 'Tynged yr iaith' saunders Lewis.

Os hoffech gyfrannu at y ddadl, danfonwch e-bost at newyddionarlein@bbc.co.uk

Ddeugain mlynedd wedi araith "Tynged yr Iaith" Saunders Lewis fe gomisiynodd y BBC arolwg arbennig yn gofyn am farn Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg ledled Cymru am yr iaith.

Ac mewn rhaglen arbennig o'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne ar 13 Chwefror, fe ofynwyd rhai cwestiynau treiddgar i gynulleidfa arbennig o 80 o bobl.

Gallwch wylio recordiad o'r rhaglen lawn yn y blychau fideo ar y chwith.

Ac isod, fe gewch gyfle i ystyried rhai o'r cwestiynau a fu'n corddi'r gynulleidfa yn Llanarthne, a chyfle hefyd i roi eich barn chi.

  • Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd?

  • A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder?

  • Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi?

  • Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith?

  • Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol?

    Bydd y rhaglen hefyd yn trafod addysg Gymraeg.

    Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn?

    Pa mor effeithiol ydi Mentrau Iaith a'r Cynulliad?

    A pha mor bwysig ydi technoleg?

    Ond beth ydych chi'n feddwl - be' sydd angen ei wneud i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg?

    Ai gwneud dim a gobeithio am y gorau ydyn ni fel Cymry?

    Os hoffech gyfrannu at y ddadl, danfonwch e-bost at newyddionarlein@bbc.co.uk

    Bydd eich sylwadau yn ymddangos isod:


    Dydd Iau, Chwefror 7

    Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn deugain mlynedd? Dydy'r argoelion ddim yn dda. Mae safon yr iaith yn gostwng a mwy a mwy o ymadroddion Saesneg yn cael eu defnyddio. (Enghraifft drychinebus ffasiynol ar hyn o bryd: dweud "fel" ar ddiwedd brawddeg, "Be' ti lan i, fel?")

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder? O ran statws, ydy. Mae'r drafodaeth gyhoeddus amdani a'r cynlluniau i'w harbed yn help. Ond mae'n amheus gen i a ydy hi'n cryfhau.

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi?
    1. Y Cymry Cymraeg: rhaid i ni gefnogi'n sefydliadau a cheisio arbed yr iaith.
    2. Y Cynulliad: gallai ei pholisiau ar weinyddu'r cyllid ar gyfer cefnogi'r iaith, ar ddatblygiad economaidd ac ar reoli mewnfudwyr roi strwythur mwy sefydlog i'r cadarnleoedd.

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg - oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith? Rhaid deddfu, fel y gwnaed yn Sir Benfro. Rhaid meithrin yr ymwybyddiaeth fod yr iaith, fel yr amgylchfyd, yn drysor a thrwy hynny greu cadarnleoedd i'r iaith. Rhaid sicrhau fod polisiau economaidd yn cefnogi'r strategaeth hon, fel bod y cymunedau hyn yn ffynnu. Rydw i'n cytuno, e.e., y dylai S4C symud ei phencadlys i ardal Gymraeg. Dylai rhai o adrannau gweinyddol y Cynulliad wneud yr un fath. Ni all y Gymraeg ffynnu drwy bolisi o ddwyieithrwydd ymhobman drwy'r wlad.

    Rhaid creu polisi mwy rhanbarthol. Dyma'r sialens fwyaf, gan nad ydy'r Cynulliad, hyd y gwelaf fi, wir o blaid yr iaith yn yr ystyr fod yr oblygiadau gwleidyddol yn rhy anodd iddi. Fedr neb gael ei orfodi i ddysgu iaith. Rhaid gosod telerau ffafriol fydd yn annog pobl i'w dysgu, os ydynt am fod yn rhan o fywyd cymunedol y broydd Cymraeg. Ar yr un pryd, rhaid addysgu pobl na fyddai hi ddim yn normal mewn gwledydd eraill fod grwp o 5 neu 6 o Gymry Cymraeg yn troi i'r Saesneg ar gyfer un person di-Gymraeg.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol? Wnaiff deddfu hawliau ddim newid y patrwm cymdeithasol. Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yna yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn? Na. Ac felly mae eu hiaith yn prysur ddirywio.

    Pa mor effeithiol ydi Mentrau Iaith a'r Cynulliad? Mentrau Iaith. Does gen i ddim barn. Y Cynulliad: yn anffodus, mae yna ormod o bwyslais ar hiliaeth, yn lle cael meddwl digon agored i ddeall problemau ieithyddol ac i drafod polisiau yn gall yn sgil hynny. Rhaid i ninnau, Gymry Cymraeg, lynu at neges ieithyddol, gan son am siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, a byth am Saeson.

    A pha mor bwysig ydi technoleg? Gall technoleg helpu i weithredu polisi, neu i uno barn a threfnu ymgyrchoedd, ond fedrwn ni ddim dibynnu arno i ail-drefnu cymdeithas drostom ni.

    Oddi wrth: Di-enw


    Dydd Iau, 7 Chwefror

    Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd? Mi fydd yn fyw, ond mae'n boenus i feddwl am ba faint o fywyd fydd ar l ynddi. Er gwaetha pob arwydd o gynnydd, mae'n amlwg iawn nad yw'n iach o gwbl. Ond mi allai fod, ac mae gennym gyfle gwych i sicrhau ei pharhad.

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder? O ran statws swyddogol, efallai ei bod hi. Mae hynny'n gwestiwn y gellid ei ateb yn wrthrychol yn ddigon rhwydd. Ond o ran statws cymdeithasol, dyw hi ddim.

    Y Saesneg sydd ar y brig ym mhob rhan o Gymru o hyd, a dyma beth sy'n tanseilio unrhyw gryfder y gallai ei gael. Mae'r un peth yn wir am statws diwylliannol, er gwaetha'r ffaith fod y cynnyrch diwylliannol Cymraeg yn wych iawn mewn sawl maes (yn wych, ond yn anweledig, braidd).

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn swr ei bod yn goroesi? Pawb yng Nghymru. Ond i ddechrau, bob tro, y siaradwyr Cymraeg. Ni sydd 'r ymwybyddiaeth a'r gallu i osod yr agenda gymdeithasol a'r agenda ddiwylliannol yn ein brydd.

    Ni sy'n dewis p'un ai i siarad Cymraeg neu i droi at y Saesneg. Ni sydd 'r cyfrifoldeb dros wneud yn swr ei bod hi'n iaith glywadwy a hefyd yn weladwy, ym mhobman.

    Ni sy'n penderfynu p'un ai i gwyno pan fod yr iaith yn derbyn cam neu i dderbyn sefyllfa lle mae'r Saesneg yn tra-arglwyddiaethu. Mae'n gyfrifoldeb moesol ar fewnfudwyr i ddysgu'r iaith ac i gefnogi'r diwylliant brodorol, wrth gwrs, ond ein cyfrifoldeb ni (y rhai sy'n siarad Cymraeg) yw eu hannog i wneud hynny ac i'w cynorthwyo yn y gwaith: rhaid inni greu'r fath o awyrgylch a chyd-destun lle mae'r iaith yn ganolog ac yn hanfodol, gymaint ag y mae'r Saesneg yn Lloegr.

    Yn hyn o beth, mae eisiau inni addysgu'n hunain: os yw 'gwersi dinasyddiaeth' yn gallu bod, dylai'r rhai Cymraeg sn am sut i ymddwyn mewn sefyllfa hanesyddol lle mae angen achub iaith.

    Gwersi 'dinasyddiaeth' neu beidio, dylai ystyriaethau sosio-ieithyddol - gymaint ag Addysg Iechyd neu Wybodaeth Dechnoleg - fod ar gwricwlwm pob ysgol yng Nghymru os nad ym Mhrydain i gyd. At hynny, rhaid cael polisau gwleidyddol doeth a phellgyrhaeddol i'n cefnogi yn y gwaith o adfer statws y Gymraeg.

    Rhaid gwneud iaith a diwylliant yn bwnc sydd mor gyfarwydd materion 'gwyrdd'. Yr un yw'r ddadl yn y bn: mae'r amgylchedd yn bwysig, yn amgylchedd naturiol neu'n amgylchedd diwylliannol.

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i frydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith? Dylid deddfu, a dilyn enghreifftiau Denmarc, Ynysoedd yr Aland, y Gaeltachtai ac yn y blaen. Dylid deddfu mewn ffordd briodol i Gymru. Ni ellid gorfodi pobl i ddysgu ieithoedd, ond gellid disgwyl iddynt wneud, ac mae disgwyliadau cymdeithasol yn gallu bod yn rymus iawn.

    Dylid edrych i gyfeiriad gwledydd eraill, a sylweddoli nad oes raid cael y Saesneg yn ein bywydau bob eiliad o'r dydd! Mae digon o genhedloedd ledled y byd sy'n parchu eu hieithoedd heb ildio i iaith eu cymdogion, a gall Cymru hefyd: rhaid inni godi o'n cwsg trefedigaethol a dechrau ymddwyn fel Cymry go iawn yn lle fel hanner-Saeson.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol? Ydy: mae'n anffodus, ond mae'n wir. Rhaid i'r iaith gael chwarae teg llawn ym mhob ffordd, ac ers canrifoedd dyw hynny ddim wedi bod yn digwydd, am nifer o wahanol resymau. Dylid derbyn nad yw parhad yr iaith yn rhywbeth y gellid ei drin fel opsiwn, a gadael i ffasiwn a mympwy'r farchnad bennu ei thynged. Mae'n hanfodol, a dylid ei gwneud yn hanfod, fel purdeb awyr a lluosogedd y rhywogaethau.

    Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn? Nac ydyn, a dyma wendid mawr, a'n gwendid mawr ni'r Cymry Cymraeg.

    Mae tipyn o ffordd i fynd nes ein bod ni ein hunain, hyd yn oed, yn derbyn fel egwyddor sylfaenol y dylid defnyddio'r Gymraeg ym mhob achlysur, yn gyntaf ac yn wastad. Mae'r syniad o 'ddwyieithrwydd' yn gallu gwneud mwy o niwed nac o les: rhaid dychwelyd i sefyllfa lle mai'r Gymraeg yw prif iaith, os nad unig iaith, gweithgareddau cymdeithasol dros ran helaeth o diriogaeth Cymru.

    Dylid siarad Cymraeg phob plentyn: rydym yn gwybod yn iawn fod pob un yn cael gwersi yn yr ysgolion, ac annheg iawn (ac annoeth iawn o sefyllfa'r iaith) yw peidio rhoi'r cyfle iddynt ymarfer. Rhaid hybu'r diwylliant i raddau helaethach, hefyd, fel bod y plant yn gallu gweld y Gymraeg yn iaith fyw, go iawn.

    Oddi wrth: Dafydd Bach


    Dydd Gwener, 8 Chwefror

    Safon yr iaith: Dw i wedi cael llond bol o bobl sy'n cwyno am safon yr iaith. Y peth pwysig nawr yw calonogi pawb ddefnyddio Cymraeg, beth bynnag eu safon. Mae gormod o bobl sy beidio siarad yr iaith oherwydd mae ofn arnyn nhw am siarad Cymraeg slic. Mae well 'da fi clywed Cymraeg crap na Saesneg slic unrhyw dydd!

    Mewnfudwyr: Dylai mewnfudwyr i'r Fro Gymraeg gytuno ddysgu 'Cymraeg bob dydd' o leia.

    Addysg: Hoffwn ofyn Cyngor Sir Penfro pam maen nhw'n cau ysgolion bach Cymraeg yng Ngogledd y Sir. Mae angen mwy o addysg Gymraeg yn y Sir, dim lai.

    Oddi wrth: Dafydd Williams .


    Dydd Gwener, 8 Chwefror

    Safon yr Iaith: Safon iaith yw'r iaith y mae'r fwyafrif yn derbyn fel Iaith Gorau. Mae'n bwysig i'w hybu ond pwysicach i ganiatau pawb i siarad ein hiaith yn naturiol - dyna'r unig modd i'w harbed fel iaith gymunedol.

    Addysg: Nid oes digon o gyfle i'r rheiny heb rieni/teulu Cymraeg i ddefnyddio'r iaith. Mae rhaid inni normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg gyda phawb sy'n medru'r Cymraeg. Y mae gormod o bobl sy'n medru'r Gymraeg ond siarad Saesneg gyda'i gilydd oherwydd diffyg hyder am 'safon' eu hiaith, neu dafodiaith, neu jyst beth sy'n arferol - sef siarad Cymraeg gyda'ch tylwyth a ffrindiau yn unig, a Saesneg phawb arall i'r eithaf eu gallu. Mae siarad Saesneg yn digwydd pan mae'r rhieni yn nl eu plant o'r ysgol hyd yn oed, Esiampl ofnadw yw hyn i'r plant. Nid beirniadaeth llym yw hyn ond sylwadaeth drist.

    Gorfodi dysgwyr: Sdim modd i'w wneud hyn yn ymarferol - mae rhaid ichi moyn siarad iaith i'w dysgu. Ond dylen ni ddweud bod mater o anghwrteisi a threfedigaeatholdeb yw wrthod siarad iaith y wlad yr ydych yn byw ynddi. Pwyso ar bobl heb orfodi yw'r ateb.

    Rheoli mewnfudiad/allfudiad:Mewn trefi Cymraeg eu hiaith mae'n hollol iawn i ddweud ddylai pobl ifanc yn cael siawns o swyddi a tai gyda chyflogau a phrisiau teg. Mae'n iawn hefyd i ddweud bod "cymeriad arbennig" y trefi Cymraeg yw'r ffaith eu bod nhw'n Gymraeg o ran iaith, a felly y gallen ni reoli pwy sy'n byw ynddynt. Cofiwch does neb yn beirniadu Cumbria am rheoli eu marchnad tai i amddiffyn "cymeriad arbennig" yr ardal (Sef gwyn, Seisnig a Saesneg os ti'n derbyn beirniadaeth o Cymuned a Chymdeithas yr Iaith gan sawl). Mater o warchodaeth yw hyn nid hiliaeth.

    Mesurau fel Mentrau Iaith/CYD ?: Dim ond y Cymry Cymraeg a allai sicrhau eu llwyddiant. Ar hyn o bryd y mae gwaith datblygu y Gymraeg yn cael ei wneud gan pobl a gafodd eu magu yn ddi-Gymraeg.

    Fydd yr Iaith yn Bodoli mewn 40 mlynedd?: Ydy yn bendant - fel iaith addysg, gelfyddydol, ac yn y cyfryngau. Ond fel iaith gymunedol - Trwy dulliau chwyldroadol yn unig. Dulliau chwyldroadol gwleidyddol, Dulliau chwyldroadl cymunedol, a dulliau chwyldroadol personol.

    Oddi wrth Chris Castle


    Dydd Gwener, 8 Chwefror

    Rwyf i fel sawl un arall yn hynod o bryderus am yr iaith Gymraeg, yn enwedig yn y Fro Gymraeg. Rhaid atal y mewnlifiad o Saeson i gymunedau Cymraeg, rhaid cael deddf i wneud siwr fod pobl leol yn cael blaenoriaeth yn y farchnad dai. Rhaid hefyd ceisio cymathu rhai sydd yn symud i'r ardaloedd yn y Gymraeg. Mae angen i'r Cynulliad hefyd atal y llif o Gymry sydd yn symud o gefn gwlad i Gaerdydd er mwyn swyddi. Rwyf yn cefnogi barn 'Cymuned' fod angen lleoli S4C yng Ngogledd Cymru er mwyn atal y llif. Credaf mai un o'r prif broblemau yw apathi a mae di-faterwch rhai pobl yn enwedig Cymry y dyfodol tuag at yr iaith yn fy mhoeni i yn fawr. Os na allwn ddatrys y problemau hyn, yna mae ar ben ar yr iaith Gymraeg fel iaith fyw.

    Oddi wrth: Dylan Evans (Myfyriwr) o Garnfadryn ym Mhenrhyn Llyn.


    Dydd Sadwrn, 9 Chwefror

    Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd?

    Mae'n dibynnu beth yw ystyr "iaith fyw". Mae'n weddol siwr y bydd yna unigolion sy'n rhugl, neu a fu'n rhugl, yn yr iaith, rhai ohonyn nhw'n gwneud ymdrech i wneud pethau drwy gyfrwng yr iaith, ond mae'n amheus y bydd y Gymraeg yn iaith normal yng Nghymru oni bai fod yna newidiadau mawr iawn.

    Mae'r Lladin yn iaith fyw o fath yn y Vatican - mae'n cael ei defnyddio at nifer o ddibenion - ond ydy'r Pab yn dweud jocs mewn Lladin? Ac yn Nova Scotia, mae dal hen bobl sy'n siarad rhywfaint o Aeleg, a phobl ifanc brwd sydd wedi dysgu, yn dod at ei gilydd bob hyn a hyn i ganu'r hen ganeuon traddodiadol, felly y mae'n bosibl y gellid agor un o'r tai yn Sain Ffagan i fyny fel rhyw fath o arddangosfa o'r Gymraeg gyda hen bobl yn murmur yr heniaith er difyrrwch yr ymwelwyr.

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder?

    Mae'r Gymraeg yn fwy amlwg yn y sector cyhoeddus nag a fu - mae mwy o arwyddion dwyieithog i'w gweld, mwy o daflenni dwyieithog ar gael (o safon amrywiol!), mwy o gyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, mwy o Gymraeg yn y system addysg, mwy o Gymraeg ar y teledu a hyd yn oed peth Cymraeg yn y sector preifat a'r sector gwirfoddol, nag a fu ers y '60au.

    Pan sefydlwyd y Cynulliad, y nod oedd y byddai'n gweithredu'n ddwyieithog, ac yn wir, mae cryn dipyn o ddefnydd o'r iaith yn fanno. OND, tameidiog o hyd yw'r ddarpariaeth, am nad oes datganiad cyfreithiol diagmsyniol fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

    Mae'r ddarpariaeth bresennol yn ad hoc ac nid yw'n digwydd o fewn fframwaith cyfreithiol cadarn. Nid yw Deddf yr Iaith 1993 e.e. ond yn cyffwrdd rhan o'r sector cyhoeddus - cwbl wirfoddol yw unrhyw ddefnydd o'r iaith gan adrannau'r llywodraeth, cyrff y Goron, y sector gwirfoddol a'r sector preifat, a chan ei bod yn wirfoddol, er gwaethaf ambell enghraift wiw, prin iawn yw'r cyrff hynny sy'n cynnig gwasanaeth yn yr iaith yn hollol gydradd 'r gwasanaeth yn Saesneg.

    Ar y cyfan, tocenistiaeth a geir, lle mae addurniadau Cymraeg yn addurno'r gacen Saesneg. Canlyniad hyn yw bod y Gymraeg yn cael ei chyfyngu i un pau ieithyddol yn unig, sef gweinyddiaeth gyhoeddus, fel yr oedd y Gymraeg yn iaith crefydd yn ystod y 19g., ac wrth i'r pau hwnnw grebachu, fel y gwelwn yn digwydd wrth i breifateiddio gynyddu drwy amryfal ffyrdd, felly y bydd defnydd o'r iaith yn lleihau.

    Ydy'r iaith yn gryfach nag a fu? Nac ydy. Y gwir yw bod nifer y siaradwyr cynhennid yn disgyn gyda phob cyfrifiad. Mae'n wir bod twf yn nifer y 'siaradwyr newydd' (plant ysgol at ei gilydd), ac wrth gwrs ei bod yn braf gweld y Gymraeg yn adennill tir a gollodd ganrifoedd yn l, ond gwyr pawb nad yw rhan fwyaf y siaradwyr newydd hyn yn defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

    Mae'n amlwg bod y Cynulliad wedi rhoi pwys mawr ar gynyddu nifer siaradwyr yr iaith fel prif nod ei 'bolisi' ar y Gymraeg, gan fod y system addysg wedi sicrhau y bydd hyn yn digwydd, ar bapur beth bynnag, yn otomatig. Ond nid yw fawr help os cawn filoedd ar filoedd o bobl sy'n gallu siarad yr iaith ond nad ydynt byth yn gwneud hynny - man a man iddynt ddysgu Sansgrit.

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi?

    Ewyllys. Rhaid i'r Cymry sylweddoli taw eu cyfrifoldeb nhw yw'r Gymraeg, ac os na allan nhw godi o'u trwmgwsg hunanfodlon i wneud rhywbeth, bydd wedi mynd am byth. Difrawder a difaterwch y siaradwyr Cymraeg eu hunain yw'r gelyn pennaf.

    Mae plant y chwedegau eisoes wedi 'gwneud eu bit dros yr iaith' ac mae eu plant nhw - cenhedlaeth X - wedi tyfu i fyny i feddwl bod protest yn rhywbeth bach cweint ac ychydig yn embarassing oedd mam a dad yn arfer gwneud, fel gwisgo dillad blodueog doniol.

    Wedi dod o hyd i'r ewyllys i fyw, mynnu lle i'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd - yr hen slogan "gwnewch bopeth yn Gymraeg" - dyna sy'n bwysig - lle nad yw'n bosibl, brwydro nes y bydd yn bosibl - bod yn styfnig, bod yn boen, bod yn gadarn (gan beidio ag anghofio cael hwyl hefyd!!!)

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith?

    Oes. Mae angen deddfu. Does angen bod ag ofn hyn. Mae pob gwlad yn deddfu i ddiogelu'r hyn sy'n bwysig. Yn y cyd-destun hwn, mae rhannau eraill o'r DU wedi deddfu, ac mae gwledydd fel Denmarc wedi gwneud. Mae Cymdeithas yr Iaith yn reit gall wrth alw am ddeddf eiddo sydd yn diogelu hawliau pobl leol, lle bynnag y bon nhw, yn y broydd Cymraeg neu yn Butetown.

    Mae'n amhosibl gorfodi pobl i feistroli iaith, ond mae modd creu amgylchiadau sy'n ei gwneud yn atyniadol neu yn angenrheidiol iddynt ddysgu. Wrth gwrs, fe ddylai'r Gymraeg aros yn pwnc gorfodol yn yr ysgol a dylid mynd ati fel yng Ngwlad y Basg i droi'r rhan fwyaf o'm hysgolion yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

    Dylid buddosddi ar lefel llawer iawn uwch yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion a dysgu Cymraeg yn effeithiol fel ail iaith yn ein hysgolion. Dylid hyfforddi byddin o diwtoriaid a sefydlu canolfanu iaith drwy'r wlad sy'n cynnig cyrisau dwys ac effeithiol ar bob lefel i bawb.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol?

    Ydy. Hollol angenrheidiol. Os na chaiff pobl ddefnydio'r iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau, does dim dyfodol i'r iaith. Os llwyddwn i gadw siardwyr Cymraeg yn eu cymunedau beth maen nhw'n mynd i wneud yno?

    Ar hyn o bryd does hawl i weithio drwy'r Gymraeg - mae llawer yn gorfod gadael y Gymraeg wrth y fynedfa. Dim hawl i gael gwasnaethau yn Gymraeg. Dim hawl i gael rheithgor Cymraeg. Ac ymlaen....

    Dyw'r Gymraeg ddim yn iaith normal yng Nghymru - eithriad neu beth ychwanegol yw'r Gymraeg. Mae angen deddfwriaeth fframwaith i ddatgan fod yr iaith Gymraeg yn briod iaith y wlad ac yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae angen corffori hawliau siaradwyr a chymunedau Cymraeg mewn deddfwriaeth fel bod y sefyllfa bresennol o gynnig gwasanaeth Cymraeg fel ffafr ychwanegol - byddwch yn ddiolchgar! - yn newid yn sefyllfa lle mae'r Gymraeg fel papur wal ieithyddol.

    Dylai deddf iaith newydd osod allan hawliau sylfaenol ym mhob maes a darparu mesurau penodol i sicrhau bod hyn yn digwydd. Byth oddi ar y ddeddf iaith gyntaf, fesul consesiwn mae siaradwyr Cymraeg wedi ennill pethau - mae'n hen bryd i hyn stopio.

    Mae'r byd wedi newid yn ddirfawr hyd yn oed oddi ar 1993 - mae'r sector cyhoeddus yn crebachu - mae'r chwyldro TG a globaleiddio yn trawsnewid ein bywydau - wrth gwrs bod eisiau deddfu! - sut arall ydyn ni'n mynd i weld newid? Drwy ysgrifennu llythyr bach neis at Nike neu Bill Gates? Yn wyneb grym y corfforaethau mawrion, dim ond deddf gwlad fedr wrthsefyll y lli - a lleihau mae'r grym hwnnw.

    Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn?

    Nac ydyn am wn i. Mae'r holl balnt yn mynd drwy'r system addysg dwyieithog yn y De-ddwyrain ond mae cyflogwyr sydd eisiau siaradwyr Cymraeg yn cyflogi pobl o'r Gorllewin (y cyfryngau a'r Cynulliad) - beth sy'n digwydd i'r plant dwyieithog yn yr ardal?

    Un peth nad yw'n mynd i weithio yw pobl ganol oed yn trefnu "disgo Gymraeg" a phethau cyffelyb ar gyfer plant - beth mae plant yn lico gwneud? Sdim syniad gyda fi, ond os oes rhywun yn gwybod, yna, darpared hynny yn Gymraeg.

    Pa mor effeithiol ydi Mentrau Iaith a'r Cynulliad?

    Beth yw nod Mentrau Iaith? Dw i ddim yn siwr. Dw i ddim yn ymwybodol bod Menter Iaith Caerdydd yn gwneud rhyw lawer.

    Y tebyg yw eu bod yn derbyn ychydig o geiniogau gan y Bwrdd Iaith a chael ordors i wneud rhywbeth. Dw i'n siwr bod pawb yn gweithio'n galed iawn ar ddim cyllid o gwbl, ond y gwir yw na allaf i enwi un peth mae'r Fenter wedi ei wneud yn fy ardal i.

    Joc wael yw'r Cynulliad. Ddim y syniad lleiaf gan y gwleidyddion na'r gweision sifil. Y gwir yw nad oes taten o ddiddrodeb gan y rhan fwyaf o'r aelodau yn yr iaith - does fawr o ddiddordeb ganddyn nhw mewn unrhywbeth ond hawlio eu treuliau am wneud dim drwy'r dydd.

    Rhodri Morgan wedi dodi'r Gymraeg mewn hysbyseb Hovis lliw sepia; Jenny Randerson yn gysglyd yn darllen areithiau eu gweision sifil air am air fel petai'n darllen y Yellow Pages; a'r Pwyllgor Diwylliant yn llawn o'r dyffers nad oedd yn ffit i fynd ar bwyllgor pwysig.

    Bydd y Pwyllgor yn cwblhau ei arolwg a gwneud argymhellion - sef awgrymiadau bach ar sut y gellir sifftio'r gyllideb bresennol o gwmpas ychydig er mwyn edrych fel petai rhywbeth newydd yn digwydd, ac yna bydd Jenny yn dweud ei bod yn croesawu'r adroddiad a dewis un neu ddau o'r awgrymiadau rhataf a lleiaf trafferthus i'w gweithredu.

    A pha mor bwysig ydi technoleg?

    Pwysig iawn.

    Oddi wrth Dave


    Dydd Sul, 10 Chwefror. Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd?

    Rwy'n amheus iawn os fydd y Gymraeg yn fyw mewn deugain mlynedd. Pocedi bychain fydd ar l oni bai bod mesurau chwyldroadol yn cael eu mabwysiadu nawr. Rydym yn genedl sy'n dioddef o'n creadigaeth ein hunain. Rhaid edrych ar seici'r Cymry: rydym wrth ein boddau yn gweld pobl yn aflwyddiannus - mae hynny'n fl ar fysedd llawer, ond tydan ni ddim yn hoffi gweld pobl yn llwyddo. Pam bod llawer wedi gadael Gwalia wen ar hyn y blynyddoedd ac wedi llwyddo mewn bywyd? Yn y cyd-destun yma, Cymry Cymraeg yw llawer o'r bobl sy'n helpu dirywiad yr iaith yn ei chadarnleoedd ac mae llawer ohonynt yn falch o hynny. Cymrwch stadau cyngor Penparcau, Aberystwyth, Maesgeirchen, Bangor neu Morfa Garreg, Pwllheli - dyma'r bobl sy'n cofleidio'r byd Eingl-Americanaidd ac yn magu eu plant yn Saesneg rhonc a gwrth-Gymreig. Mae gwrth Gymreictod yn fyw ac yn iach yn yr ardaloedd traddodiadol ers blynyddoedd - does neb wedi gwneud dim byd am y peth tan i Seimon Glyn fynegi pryderon llawer o'r werin bobl di-rym a thlawd. Rydym yn genedl ranedig o ran iaith, diwydiant, diwylliant, daearyddiaeth, daliadau a difaterwch (i enwi rhai!). Rydym hefyd yn genedl llywaeth a naf ac yn hynod o gul. Rhaid i ni fod yn fwy gonest am y sefyllfa - mae'r iaith wedi marw'n barod mewn cymunedau a ysyriwyd yn Gymraeg. Cymrwch barthau o Sir Feirionnydd megis Harlech a'r Bermo neu rannau o Fon, Borth y Gest neu Abersoch. Mae'r prisiau tai yn y llefydd yma hefyd yn artiffisal iawn - pwy goblyn sy'n gallu fforddio ty 200, 000 ar gyflog pitw yng Ngwynedd? Rhown anghenion y mewnfudwyr o flaen ein anghenion ein hunain, yn wir! Sic. Ac mewn rhannau eraill o Gymru - dyw'r cannoedd o blant sy'n mynd trwy'r system addysg Gymraeg ddim yn defnyddio'r iaith ar ol gadael ysgol. Dyw hi ddim yn iaith gyffredin yn eu cymunedau.

    Dwyieithrwydd:

    Mae dwyieithrwydd yn gweithio mewn ardaloedd Seisnig fel Caerdydd ond mae'n lladd y Gymraeg yn yr ardaloedd traddiodiadol. Mae'r arwyddion dwyieithog yn gwneud y mewnfudwyr yn ddiog ac yn cyflwyno'r neges nad oes raid iddynt ddysgu Cymraeg - mae'r Saesneg yno ar eu plt yn ddyddiol. Dydi'r strwythur presennol ddim ddigon cryf: dyma pham dan ni mewn cymaint o dwll.

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder?

    Ddim mewn gwirionedd. Yn ddiweddar, llythyrais 'r Cynulliad yn ddwyieithog. Cefais ymateb uniaith Saesneg. Mae'r un peth yn wir gyda'r Ganolfan Waith - doedd eu gohebiaeth ddim yn rhoi statws cyfartal i'r iaith. Yn fynych, byddaf yn clywed am-hwn-a-hwn sydd wedi gorfod ildio i'r Saesneg. Dydi ei statws chwaith ddim yn cael ei gynnal yn y fro Gymraeg: Mae'r Bala a Chaernarfon yn eithriadau ond ewch i lefydd fel Porthmadog ac mae'r dirywiad yn amlwg iawn.

    Dylai'r Gymraeg fod ar gan becd-bins i ffn ar y ln - achos gall fwydo statws iach ac effeithio ar wahanol bobol mewn sefyllfaoedd gwahanol. Ond dydio ddim. Mae angen deddf sy'n gwahaniaethu ar sail anghenion e.e. dylid rhoi mwy o gefnogaeth i 'r broydd Cymraeg achos maent mewn cymaint o argyfwng. Yng Ngwynedd a Mn e.e. bu mewnlifiad eithriadol yn yr 80au - effaith hynny heddiw yw mai Saesneg yw prif iaith gymdeithasol nifer fawr o'r plant yn y sector cynradd a'r uwchradd. Ac mae'r mewnlifiad ar gynnydd eto....ta ta i'r Gymraeg felly?....

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi?

    Does neb bwysaicaf na'i gilydd yng Nghymru i achub yr iaith. Mae'n ddyletswydd ar BAWB sy'n gallu'r iaith i'w defnyddio ac i annog pobl di-Gymraeg i'w dysgu hefyd. Ond mae angen atgoffa pobl o hyn. Y drwg ydi, dydi'r Cymry Cymraeg ddim yn gwybod sut i wneud hyn. Mae'r ffaith bod cymaint o Gymry Cymraeg dosbarth canol sydd wedi symud i Gaerdydd yn cadarnhau hyn. Yn hytrach na Chymreigio Caerdydd yr hyn a wnant, yw cadw efo'i gilydd mewn byd hollol ffug a diogel. Mae cymaint ohonynt yn dwed "Does na'm llawer o bwynt i mi ofyn am rywbeth yn Gymraeg yn unlle." Tra pery'r feddylfryd yma, yna ni fyddwn yn annog eraill i ddysgu'n hiaith - ond mae yna ddegau o bobl ifainc sy'n gweithio mewn llefydd yn y ddinas sy'n gallu'r iaith ond byth yn cael cyfle i'w defnyddio. Dydi'r Cymry Cymraeg ddim yn nabod y rhai di-Gymraeg, na'r rhai di-Gymraeg yn deall problemau'r Cymry Cymraeg. Dydi dysgwr profiadol o Gaerdydd sy'n credu mewn bratiaith e.e. ddim yn deall pam bod unigolion o'r fro Gymraeg isio cynnal a chadw iaith safonol sy'n ymddangos yn eu papurau bro neu o fewn dosbarth ysgol neu Brifysgol. Rhaid i ni ddod i nabod a pharchu ein gilydd yn well - neu fyddwn ni ddim yn cyrraedd nunlle. Mae llawer o bobl o'r cymoedd a Chaerdydd erioed wedi cael neb i osod esiampl iddynt ac esbonio beth yw Eisteddfod neu ddawnsio gwerin. Ffaith i chi! Eironi arall - wrth i'r fro Gymraeg ddirywio - bydd gwaith nifer o bobl ifainc Caerdydd sy'n byw ar y Gymraeg yn y fantol, achos fydd yna ddim galw gan bobl fydd angen gwasanaethau Cymraeg.

    Mae'r un peth yn wir yn y fro Gymraeg: mae degau o bobl yn troi i'r Saesneg ac felly mae'n nhw'n cyfrannu'n llwyddiannus tuag at ladd yr iaith yn ara bach. Rhaid i ni fod yn fwy styfnig a hunanol os ydan ni am achub yr iaith sydd ar ei gwely angau yn barod. Rhaid ei chyflwyno i'r di-Gymraeg, o ba le bynnag maen nhw'n hanu. Gellid ennill mwy o barch yn y bn, achos maen nhw'n dod i ddeall sut dan ni'n teimlo. Does dim digon o arweinad yn dod chwaith o du'r Bwrdd Iaith.

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith?

    Wrth gwrs mae angen deddfu. Ein bai ni ydio fel Cymry nad yw hyn wedi digwydd ugain mlynedd yn l. Mae'n amser i ni aeddfedu a phennu ein tynged ein hunain yn hytrach na beio eraill. Rydym wedi mynd yn genedl ddi-niwed iawn. Rhaid i ni roi anghenion ein hunain fel cenedl o flaen popeth arall ac ADDYSGU'R rhai sydd ddim yn gwybod am ein problemau.

    Ni ddylid defnyddio term negyddol fel "gorfodi" yng nghyd destun cael pobl i ddysgu Cymraeg. Yn hytrach, dylid annog a datgan beth yw'r manteision o ddysgu'r iaith. Os ydi'r Cynulliad am roi arian i'r byd meithrin, mae angen cynllunio hefyd i ddarparu cyrsiau ac adnoddau i'r rhieni i ddysgu'r iaith. Gellid marchnata'r iaith iddynt fel dolen gyswllt bwysig i hybu addysg plentyn, ac o ganlyniad byddai hyn yn denu mwy o bobol at ddysgu'r iaith.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol?

    Mae arna i ofn am ein bod wedi cael Deddf Iaith mor wan yn 93, rydym bellach yn gweld nad oedd hi'n ddeddf gwerth ei chael yn y lle cyntaf. Bydd yn rhaid iddi gael ei diwygio. Rhaid i ni hefyd edrych ar weledydd fel Gwlad y Basg, Canada a Denmarc i weld beth sydd wedi ei gyflawni yn y glwedydd hyn o safbwynt dwyieithrwydd a rheolau cynllunio.

    Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn?

    Mae angen cynllunio ar gyfer yr hanner can mlynedd nesaf. Rhaid llunio strategaeth gymunedol gyda'r cynghorau i gyflenwi'r ddarpariaeth. Mae angen hybu gwyliau cenedlaethol yn ogystal rhanbarthol. Dyw'r ffaith nad ydan ni ddim yn dathlu Dydd Gwyl Dewi ddim yn helpu. Dan ni'n wlad ymylol a chwit-chwat ym mhob ystyr y gair!

    Pa mor effeithiol ydi Mentrau Iaith a'r Cynulliad?

    Mae rhai Mentrau Iaith fel Menter Mn wedi llwyddo i ddenu sylw'r wasg. Dydi Menter Iaith Gwynedd er enghraifft ddim yn cyrraedd y bobl. Dyw llawer o bobl yng Ngwynedd ddim yn gwybod pwy yw'r swyddog heb son am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Dydi llawer ohonynt ddim yn marchnata eu hunain yn effeithiol - gwendid mawr y Gymru Gymraeg.

    Bwrdd yr Iaith: cnt eu cysylltu erbyn hyn fel bwrdd sy'n cynhyrchu sticeri a bathodynnau neis iawn; a Bwrdd nawddoglyd sy'n ceisio cyfiawnhau eu swyddi breision yng Nghaerdydd bell.

    Y Cynulliad: Dylai'r corff yma osod nod iddynt eu hunain, i fod yn gwbl Gymraeg ym mhen deng mlynedd. Byddai wedyn yn gosod esiampl i weddill Cymru. A cheisio cael miloedd yn rhagor i fod yn rhugl o fewn 20 mlynedd - fel sy'n digwydd yng Ngwlad y Basg. Rhaid disodli'r Saesneg os yw'r Gymraeg i fyw - yn ei chadarnleoedd beth bynnag. Byddai dewis un brif iaith yn creu mwy o sefydlogrwydd - a'r Gymraeg ddylai honno fod. Gallai goblygiadau marchnata Cymru a'r iaith i'r byd fod yn ffactor bwysig i fwydo'r syniad yma i'r bobl. Ar hyn o bryd caiff yr iaith ei defnyddio i farchnata Cymru, ond pan mae'r twristiaid yn dod yma, maen nhw'n cael eu siomi achos does fawr neb i weld yn arddel yr iaith (oes mae eithiradau fel y Sesiwn Fawr, y steddfodau neu dafarndai yma-ac-acw). Ffaith ichi - o bedwar ban byd!

    A pha mor bwysig ydi technoleg?

    Gall technoleg fod yn rhan o'r broses ond ni ddylai technoleg gymryd drosodd. Rhaid defnyddio technoleg er mwyn cynorthwyo yn y broses o hybu datblygiad "geiriol" yr iaith. Mae'r ddadl o blaid iaith fratiog yn gwbl ddi-sail a thila. Wrth gwrs, mae pob iaith yn newid; ond ar draws y byd, iaith safonol gaiff ei defnyddio ar y cyfryngau. A does yna ddim byd gwell pan fod rhywun yn dweud "Ew mae hwn-a-hwn wedi dysgu ein hiaith yn dda". Dyw dweud bod pobl ddim gyda'r hyder i siarad yr iaith am nad ydyn nhw'n siarad iaith o safon yn dal dwr. Os ydi'r awydd yna i arddel yr iaith, ac i wella eu defnyddioldeb ohoni, yna mae posib cyrraedd y lan. Mae'n well gen i dafell bach o dorth flasus na thorth cyfan blasus wedi llwydo.

    Cymry Cymraeg - camwch yn ol a byddwch yn fwy gwrthrychol ac agorwch eich llygadau i realiti bywyd! Yn arbennig felly benaethiaid rhai o'n sefydliadau ac aelodau'r Cynulliad, a cheisiwch ddod i nabod eich Cymru a'i phobl yn well!! A'u gwasnaethu yn well! DEFFRWCH!!

    Oddi wrth, Gwerinwr.


    Dydd Mawrth, 12 Chwefror.

    Iaith fyw mewn 40 mlynedd?: Bydd, ond ofnaf bydd hi wedi troi at iaith lenyddol, iaith barddoniaeth a hen ganeuon 'cweint', yn lle iaith ymarferol y gymuned. Yn hollol ganolog i'r ddadl hon mae rheoli poblogaeth y Fro Gymraeg. Mae cadarnleoedd yn bwysig iawn, hanfodol, i unrhyw ieithoedd lleiafrifol. 'Does dim dyfodol am y Gymraeg os ydy ei siaradwyr yn cael eu chwalu ymhlith mor o Saesneg. Byddan nhw'n cael eu boddi. Ond fel paladr o obaith, 'dwy'n gallu gweld yn fy nheulu i, er enghraifft, y genhedlaeth yn eu canol oed yn dysgu'r iaith na chafwyd ei throsglwyddo gan eu rhieni. Maen nhw'n magu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg wrth yr aelwyd a maen nhw'n eu hanfon i ysgolion Cymraeg.

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder? Mae statws swyddogol yn bwysig er mwyn ein balchder fel siaradwyr a'n hawliau dynol sylfaenol. Sut bynnag, mae'r buddugoliaeth yn geuol am y rhan fwyaf. 'Dydy poblogaeth y Fro Gymraeg ddim yn dueddol i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg. 'Dwi'n credu pe bai'n bosibl basai rhan fawr o siaradwyr yn cyfnewid statws swyddogol am gymunedau cryfion hollol Gymraeg. Mae'r statws swyddogol yn fwy symbolig nag ymarferol.

    Pwy sydd bwysicaf? Yn bendant y Cymry. Y Cymry Cymraeg er mwyn defnyddio'r iaith a gwrthod rhoi'r gorau iddi. Y Cymry di-Gymraeg er mwyn ymddwyn gyda goddefgarwch a dangos cydymdeimlad at ein pryderon. Dylai'r Cynulliad ddim ofni'r cyhuddiadau o hiliaeth. Nid hiliaeth yw e. Basai mewnfudwyr o Gymry di-Gymraeg i'r ardaloedd Cymraeg yn gymaint o broblem 'r Saeson ond 'dydi'r sefyllfa hon ddim yn digwydd. Mae'r mewnlifiad Saesneg ei iaith yn gyfystyr 'r Saeson. Ond nawdd ieithyddol yw e, dim byd rhagor.

    Galwad Cymuned dros reoli mewnfudwyr? Yn bendant, y broblem hon ydy'r bygythiad gwaethaf i'r iaith Gymraeg erioed. Ie, gwaeth na'r Ddeddf Uno a Deddf Ysgolion 1870. Dwi'n siwr bod pawb yn adnabod y sefyllfa isod. Ymhlith criw o bobl mewn tafarn bydd un siaradwr di-Gymraeg yn peri i'r lleill droi at Saesneg. Wedyn, dyna lai a llai o sefyllfaoedd lle mae'r Cymraeg yn gallu cael ei defnyddio. Mae hi'n cael ei hatal os ydi perchnogion y dafarn leol, y siopiau neu swyddfa bost yn ddi-Gymraeg. Yr unig ateb yw deddf eiddo newydd fel a ddefnyddir mewn sawl gwlad arall.

    Oddi wrth, James Lewis.


    Dydd Mercher, 13 Chwefror.

    Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd? Bydd. Ond dyn a wyr sut sip fydd arni ' mae hynny yn dibynnu ar y rhai o dan 25 oed heddiw.

    Ond mae'n rhaid gweld sefyllfa'r Gymraeg mewn cyd-destun eang, a gofyn hefyd 'A fydd yr iaith Aeleg a'r iaith Wyddeleg fyw mewn 40 mlynedd? A'r iaith Gatalaneg a'r Fasgeg?'

    Rhaid gweld tynged yr iaith Gymraeg yn ei chyd-destun. Mae tuedd i feddwl ein bod ni ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth, mai dim ond yng Nghymru y mae perygl o golli iaith. Ond mae sawl gwlad o dan bwysau i ildio hunaniaeth a iaith, yn gweld yr iaith gynhenid yn cilio, yn gorfod byw yn l arwyddair eu gormeswyr mai 'trechaf treisied, gwannaf gwaedded'. (Yr wyf yn ysgrifennu o'r Gwledydd Catalaneg (Catalonia, Falensia, a'r Ynysoedd Balearig) ac er bod dros wyth miliwn o bobl yn gyfarwydd 'r iaith Gatalaneg mae'r un cwestiwn yn cael ei ofn yma hefd: 'a fydd fw ein hiaith erbyn canol y ganrif hon? Nid w pethau yn argoeli yn dda ar gyfer dyfodol y Gatalaneg - yn anad dim yn sgil mewnlifiad anferth dros y deugain mlynedd diwethaf o rai o wledydd Castileg ('Sbaeneg') eu hiaith. Mae plant y mewnfudwyr yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng yr iaith Gatalaneg, ond yn gwrthod ei harddel wedyn, ac yn dylanwadu ar ymddygiad ieithyddol plant y brodorion. Mae sawl achos o fewnfudwyr yn ymgymathu, ond ar y cyfan y duedd yw peidio ag ymdoddi i'r gymdeithas frodorol. Ac mae llywodraeth Madrid yn gwneud ei gorau glas i hyrwyddu'r Gastileg ar draul y Gatalaneg yn y tiriogaethau Catalaneg eu hiaith, sdd yn gwneud y sefyllfa yn anos fyth).

    Rhaid magu neu gryfhu cysylltiadau 'r Llydawiaid, Y Ffrisiaid, y Slofeniaid, y Basgiaid, y Cataloniaid, y Latfiaid, y Norwyaid, Cenhedloedd Brodorol yr Unol Daleithiau a Chanada a lleoedd eraill yng Ngogledd a De Amrica. Mae'r Rhyngrwyd yn burion peth ar gyfer hyn. Dylai fod hefyd ymweliadau lu ar lefel leol, gyda chynrychiolwyr y pobloedd hyn yn dod i Gymru, a Chymry yn mynd atynt hwy. Rhaid dangos i bobl Cymru nad problem fach leol sydd gyda ni.

    Dylid gwneud yn hysbys i bawb paham y mae'r Gymraeg mewn cyflwr mor fregus erbyn heddiw. Mae'n syndod faint o bobl sydd ddim yn gwybod hyn. Nid 'prosesau cymdeithasol' sydd wedi gyrru'r Gymraeg i fargod y glogwn ond plisi fwriadol gwladwriaeth Lloegr dros y canrifoedd i ddinistrio'r cenhedloedd eraill ar y ddwy yns o boptu i'r Mr Celtaidd a gwaredu'r diwylliannau a'r ieithoedd.

    Mae rhaid wrth gynllun iaith nodau clir. Rhaid esbonio'r beth yw'r Gymraeg i bawb sydd yn byw yng Nghymru, ei bod yn iaith sydd wedi bodoli yn y cwr hwn o'r ynys ers 2,500 o flynyddoedd, nad yw tranc yr iaith wedi ei ragordeinio, nad yw ei cholli yn anochel. Pam na allwn ni ddweud yn blwmp ac yn blaen, yn lle sn am ryw 'ddwyieithrwydd' anelwig, y dylai'r Gymraeg fod yn brif iaith Cymru unwaith eto o fewn hanner canrif?

    Camau ymarferol: Pam nad yw pleidiau'r Cynulliad er enghraifft yn datgan y byddant yn gwneud 50% o'u haraethiau yn iaith y genedl a'r 50% arall yn yr iaith fain? Efallai nad oes modd gwneud hyn ar hyn o bryd. Ond o fewn deng mlynedd, pam lai? A wedi hynny, blaenoriaeth gynyddol i'r Gymraeg yn eu trafodion?

    Pob unigoln i ddysgu Cymraeg i rywun neu rywrai sydd yn awyddus i feistrioli'r iaith. Yr wyf yn dilyn fy mregeth fy hunan yn hyn o beth. Mae'r canlyniadau yn galonogol dros ben. Yr wyf yn gwybod bod sawl un yn gwneud yr un peth. Ond peti pawb yn bwrw iddi i'w wneud...

    Pam nad oes ymgyrch i roi arwyddion mewn siopau 'Mae croeso i chwi siarad Cymraeg ni?' Mae llawer o siopau ag arwyddion Cymraeg (a llawer ohynynt yn hynod o wallus fel yr ym i gyd wedi gweld o dro i dro!) ond yr wyf yn teimlo yn wastad bod y rheolwyr wedi eu gosod o'u hanfodd, rhag colli cwsmeriaid mwy pleidiol i'r iaith, ond nid yw'r staff yn hidio dim am ddefnyddio'r iaith. Yn sicr bydd y busnesau sydd yn rhoi croeso amlwg i'r Cymry Cymraeg ac yn amlygu ei staff Cymraeg yn ffynnu o ryw drefn felly.

    Neu beth am fathodyn ar gyfer y rhai sydd yn barod i siarad Cymraeg, fel y Finne (modrwy) yn Iwerddon?

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder? O ran statws y mae ar gynnydd. Mae wedi cael troedle yng ngweinyddiaeth ein gwlad. Rhaid manteisio ar hyn trwy fynnu ddefnyddio'r Gymraeg ar bob achlysur, Mae llawer yn gwneud, wrth gwrs. Ond mae arnaf fi ofn nad yw'r Cymry yn cymryd mantais o'r gwasanaethau Cymraeg sydd erbyn hyn yn bodoli. Rhaid achwyn hefyd bob tro y mae ein hawliau ieithyddol eu cael eu sarnu.

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi?Does neb yn bwysicach na'i gilydd. Ond efallai fod rhagor o gyfrifoldeb ar y to sy'n codi. Rhaid eu hargyhoeddi o'u rhan allweddol fel gwarchodwyr yr iaith. Ni fyddant yn ein siomi. Rhaid rhoi'r Gymraeg mewn cyd-destun synhwyrol, o safbwynt Cymraeg. Nid oes modd mynd yn l i Gymru uniaith Gymraeg, ac nid oes angen. Ond rhaid mynnu taw'r Gymraeg yw'r brif iaith. Fe ddylai addysg Cymru fod o fudd i'r Cymry, nid rhyw efelychiad llipa o addysg y Saeson. Rhaid meddwl yn wahanol i'r Saeson sydd yn brysur bwrw ieithoedd o faes llafur yr ysgolion. Dysgu ieithoedd eraill fel y bydd y Cymry yn hyddysg mewn pedair iaith - Y Gymraeg yn anad dim, ac ieithoedd atodol - y Saesneg, a dewis o iaith fawr arall (Almaeneg, Ffrangeg, Japaneg, Arabeg, Tshineieg) a iaith gwlad fach arall (Basgeg, Latfieg, Norweg, Berber, Wolof, ayyb.) Yn y modd hwn bydd Cymry yn ymagor i'r byd yn ieithyddol, ac hefyd yn cynnal breichiau ieithoedd eraill dan ormes.

    Cydnabyddir Cymru yn fel arloeswr ym mater adfer a chynnal iaith. Mae mudiadau cynnal yr Aeleg a'r Llydaweg wedi dysgu llawer gennym. Rhaid inni ddal i fod yn arloeswyr. A phwy a wyr - gall 'adfer iaith' fod yn un o ddiwydiannau mawr y ganrif hon. Mae'n gwbl bosibl y bydd Cymru yn wlad allweddol yn y dyfodol yn y frwydr i gynnal ac adfer iaith, yn dangos i weddill y byd sut y'i gwneir.

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith? Dylai pob cyngor fod 'r gallu i reoli faint o bobl sydd yn symud i mewn. Dylai'r iaith fod yn ffactor pwysig wrth benderfynu datblygiad economaidd ardal. Mae enghreifftiau o sut mae amddiffyn cymunedau bregus i'w gweld yng ngweddil gwladwriaeth Lloegr, ac yn ardaloedd yr Undeb Ewropeaidd yr ydym yn aelod ohono. Nid oes modd gorfodi'r di-Gymraeg i siarad Cymraeg drwy ddeddf, ond fel pob iaith mae modd eu gorfodi yn gymdeithasol. Wedi'r cwbl, mae'r Cymry sydd yn mynd i wlad arall yn siarad iaith y wlad honno am nad yw'r brodorion yn fodlon siarad Cymraeg neu Saesneg hwy! Dylid dynodi 'Bro Gymraeg' lle y mae'r iaith yn brif iaith y gymuned a'r weinyddiaeth. Dylai'r rhai nad yndynt yn fodlon dysgu'r iaith neu ddefnyddio'r iaith fod o dan anfantais. Dylid troi'r fantol yn erbyn y di-Gymraeg mewn ardal felly, a ffafrio'r rhai Cymraeg eu hiaith.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol?Mae deddf iaith newydd yn gwbl angenrheidiol. Mae pob gwladwriaeth yn hybu ei hiaith swyddogol trwy ystod eang o ddeddfau a gorfodaethau. Hynny yw, mae deddfwriaeth yn rhan gynhenid o bolisi iaith. Ar hyn o bryd yr ydym yn dibynnu ar ddeddf iaith sydd wedi hen chwythu ei phlwc, ac ar 'ewyllys dda' tuag at yr iaith. Nid yw yn werth dim yn y pen-draw. Er bod 'ewyllys dda' tuag at yr iaith wedi bodoli yn gyffredinol er enghraifft yn yr hen Sir Faesyfed a Sir Fynwy ers rhai cenhedloedd bellach, oddi ar iddynt golli'r Gymraeg, nid oedd hyn yn ddigon i ddechrau ail-Gymreigio'r parthau hyn. O achos deddfwriaeth yn unig y gwelir arwyddion Cymraeg yn y parthau hynny heddiw, a bod yno gyfle i defnyddio'r iaith yn weinyddol.

    Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn?Nid yw'r plant yn cael digon o gyfle wedyn. Ond rhaid edrych ar sut mae gwledydd bach eraill yn delio'r 'r broblem. Rhaid pwyslesio eto nad rhyw ffenomen fach unigol Gymreig yw 'colli iaith' neu 'adfer iaith'.

    Pa mor effeithiol ydi Mentrau Iaith a'r Cynulliad? Mae Mentrau Iaith yn cyfrannu yn sylweddol, ond dylai fod mentrau iaith ym mhobman! Rhaid astudio'n fanwl sut mae gwerin Gwlad y Basg yn hybu'r Fasgeg drwy eu 'mentrau' hwythau.

    A pha mor bwysig ydi technoleg? Rhaid cynnal y cymunedau Cymraeg eu hiaith yn anad dim. Ond y mae hefyd 'Cymru rithiol' yn bodoli. (Ac mae 'Cymru'r Byd' yn chwarae rhan allweddol yn y Gymru hon!). Mae'r Gymru rithiol yn gallu cynnal iaith yr alltudion a dod 'r iaith i ddisgynyddion y Cymry mewn gwledydd eraill. (Ni ddylid anwybyddu'r Cymry oddicartref - mae'r bobl hyn yn gallu cyfrannu yn sylweddol at economi'r Gymru Gymraeg trwy archebu llyfrau, drwy ymweld 'r Fro Gymraeg, ayyb.). Ond nid oes digon o ddefnydd er enghraifft ar y Rhyngrwyd. Ar y cyfan mae pleidiau gwleidyddol Cymru yn anwybyddu'r Gymraeg, a'r cyrff cyhoeddus, a busnesau Cymru (ac i osgoi beirniadaeth, mae rhyw dudalen weithiau 'We are preparing a Welsh version' na ddaw byth.)

    Fe ddylai fod ar y Rhyngrwyd bob math o wybodaeth am yr iaith a phob math o ddeunydd yn yr iaith. Bydd hyn yn gwasanaethu'r Cymry gartref a thramor, ac yn dod 'n hiaith a diwylliant i sylw gweddill y byd. (Yr wyf yn gweithio yma yn Barcelona ar hyn o bryd - mae rhai yn gwybod rhywfaint am Gymru - ond fel arfer nid yw'n mynd ymhellach na'r 'Prince of Wales' (!!!) a 'rygbi' a 'Mark Hughes' oedd yn chwarae i dm Barcelona am gwpwl o fisoedd. Mae'r rhai sydd wedi clywed am yr iaith Gymraeg yn meddwl ei fod yn rhyw dafodiaith o'r Saesneg. Mae gennyf wefan dinod yn Gymraeg ac yn Gatalaneg, ac yr wyf yn gwybod ei bod yn cael rhywfaint o ddylanwad - mae cyfeiriadau ato weithiau yn y wasg. Mae pob tipyn yn help!) http://www.estelnet.com/catalunyacymru) ! Mae cymaint o ddiddordeb yn yr iaith gan y di-Gymraeg, a disgynyddion y Cymry, ond mae'n anodd dod o hyd i wybodaeth safonol.

    Mae'r Rhyngrwyd yn gallu cynnal yr iaith y tu faes i diriogaeth y cymunedau o siaradwyr, ac yn gallu creu siaradwyr newydd. Goleuo cannwyll a'i dodi dan lestr yw peidio a rhoi swmp o'n treftadaeth ieithyddol ar y Rhyngrwyd. Dylai fod pob math o wybodaeth am yr iaith i'w gael ar y Rhyngrwyd. Ble mae'r geiriaduron yn rhad ac am ddim ar y Rhyngrwyd? Ble mae'r gwefannau yn sn am yr iaith mewn sawl iaith dramor? Beth am ragor o wefannau yn yr iaith Gymraeg? Mae sawl un o waith Cymry Cymraeg yn yr iaith fain yn unig. Ond beth ydych chi'n feddwl - be' sydd angen ei wneud i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg? Rhaid rhoi'r iaith ar waith ar bob achlysur. A ddaw popeth yn sgil y ffaith seml hon.

    Yn ddiweddar mae rhywrai yn honni nad oes rhaid siarad Cymraeg graenus. Dwli yw hyn. Mae i bob iaith rychwant o gyweiriau, ac mae bratiaith neu'r iaith lafar (nid yr un peth, wrth gwrs) yn hollol dderbyniol yn y cyd-destun iawn. Mae'r rhai sydd yn mynnu mai hawl gan bawb i siarad yn wallus ar bob achlysur ac ym mhob cyd-destun yn gwneud anghywmynas 'r iaith. Nid wyf yn credu ei bod yn 'beryglus' mynnu bod y dysgwyr yn siarad Cymraeg o safon, am fod hyn yn eu troi oddiwrth yr iaith. Nid da lle gellir gwell, a mae pawb yn derbyn hyn. Ond rhaid paratoi swmp o ddeunydd hawdd ei gyrchu (ar y Rhyngrwyd, er enghraifft) yn gosod allan ffurfiau gwallus, yn esbonio pam y maent yn wallus, ac yn rhoi ffurfiau mwy cymeradwyol. Rhaid rhoi cyfle i'r rhai nad ydynt yn hollol sicr eu Cymraeg i ddod yn gyfarwydd 'r iaith yn ei chyfanrwydd

    Ai gwneud dim a gobeithio am y gorau ydyn ni fel Cymry? Llaesu dwylo yw'r rhan fwyaf, gwaetha'r modd. Ond mae cnewyllyn bach yn weithredol, fel ym mhob oes, ac y maent yn gwneud gwyrthiau (a rhaid cydnabod rhan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.). Rhaid bod yn opitimistaidd ac yn ddyfeisgar, rhaid ysbrydoli eraill i ymuno yn y dasg o amddiffyn ein hiaith, ein cymunedau a'n cenedl; a chael hwyl wrth wneud.

    Oddi wrth, Ianto Glan Tawe.


    Dydd Mercher, 13 Chwefror

    Os ydi'r Gymraeg am gael ei hachub, ac mae'n OS fawr, yna bydd yn rhaid defnyddio seicoleg i bigo cydywbod pobl. Bellach, allwn ni ddim cymryd dim yn ganiataol a gobeithio'r gorau - ac mae'n amser i aelodau'r Cynulliad weithredu ar fyrder. Os na wnant, bydd yn cadarhnau ein bod yn genedl sy'n dioddef o'n creadigaeth ein hunain. Y Cymry yw gelyn penna'r iaith - fel y dengys canlyniadau arolwg y BBC. A fydd yna dim bai neb dim ond ein hunain.

    Oddi wrth Gwerinwr.


    Credaf ei bod yn hanfodol bod y Cymry Cymraeg yn gwneud defnydd o'r iaith Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Dyliem hefyd gael y cyfle i wneud defnydd o'n iaith pob dydd - buasai hyn yn fwy tebygol o ddigwydd os cawn Ddeddf Iaith newydd!

    Credaf hefyd bod angen rheoli y nifer o fewn-fudwyr sydd bellach yn bla yng Nghymru a thrio eu hannog i ddysgu'r Gymraeg. Cefnogaf fudiadau megis Cymuned a Chymdeithas Yr Iaith.

    Oddi wrth Awel Fflur Dafis.


    'Rwyf yn Saesnes sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Llanwnda ger Caernarfon. Yn wyneb y rhaglenni anweddus ddarlledir ar S4C, y llygredd yn eich cynghorau o ran penodiadau i swyddi, ayyb, fe garwn wneud cyfraniad i'ch rhaglen heno drwy dynnu'ch sylw at adnod yn yr Hen Destament sef: "If My people who are called by My name, shall humble themselves, and pray, and seek My face, and turn from their wicked ways; then will I hear from Heaven, and will forgive their sin, and will heal their land." II Chronicles; 7:14.

    Oddi wrth, Frances Summerbee.


    Dydd Iau, 14 Chwefror.

    Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd? Bydd, oherwydd bod plant mewn rhai ardaloedd yn y Fro Gymraeg yn dal i gael eu magu'n Gymry naturiol, sef rhieni'r genhedlaeth nesaf.

    Ond cwestiwn mwy perthnasol efallai yw holi a fydd cymunedau Cymraeg o gwbl yn bodoli erbyn 2040. Rhaid diffinio beth a olygir gan y term yma. Efallai mai'r diffiniad symlaf yw cymuned sydd 'r Gymraeg yn iaith gyffredin buarth yr ysgol. A dengys astudiaethau bod perthynas glos rhwng y lingua franca a chanran y boblogaeth gynhenid mewn unrhyw gymuned draddodiadol Gymraeg. Unwaith yr eir islaw trothwy penodol o 65-80% yn y cyswllt hwn, mae'r iaith gyffredin yn tueddu i newid i Saesneg. Felly, y cwestiwn hollbwysig yw:- a fydd unrhyw gymuned ar l yn y Fro Gymraeg ymhen 40 mlynedd 'r boblogaeth gynhenid yn dal i fod mewn mwyafrif o ddau i un neu fwy. Ac eithrio efallai nifer fechan o getoau/cadarnleoedd (dewiswch) megis ystadau tai llywodraeth leol yn rhai o'r trefi yng Ngwynedd, na fydd.

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder? Mae peth cynnydd wedi bod yn ei statws, yn amlwg. Ond rhaid peidio gorbwysleisio pwysigrwydd hyn, nid yn unig oherwydd natur anwastad y ddarpariaeth, ond hefyd gan fod yr iaith, er efallai'n weledol fwy amlwg, yn brysur gilio - neu'n hytrach yn cael ei boddi gan y don Seisnig - ar ein strydoedd. Yr hyn a glywir - nid yr hyn a welir - yw'r dylanwad pennaf ar ddewisiadau ieithyddol unigolion. Bu Gwynedd yn uniaith Gymraeg am ganrifoedd er anghyfreithloni'r iaith yn ddeddfwriaethol/swyddogol. Ond y mae statws yn anuniongyrchol bwysig, gan fod teimlad o israddoldeb wyneb yn wyneb iaith y wladwriaeth yn un o'r prif gymhellion i beidio ag arddel iaith leiafrifol. Pe byddai Cymraeg 'r un statws Saesneg, byddai'r trothwy ieithyddol a grybwyllwyd uchod tua 50%, a byddai llawer mwy o'n cymunedau yn parhau i arfer yr iaith.

    Er yr holl heip/hunan-dwyll gan ffigurau sefydliadol megis Rhodri Williams (Bwrdd yr Iaith) a Dafydd Elis Thomas, profiad beunyddiol rhywun yn byw hyd yn oed yng Ngwynedd Gymraeg yw anawsterau a styfnigrwydd dybryd wrth geisio gwasanaeth Cymraeg hyd yn oed gan y cyrff gwladwriaethol megis y Ganolfan Waith. Ac y mae BT yn awr yn anfon biliau uniaith Saesneg eto - dau gam yn l am bob un ymlaen ydi hi, fwy neu lai.

    O ran cynnydd yn y Gymraeg. Hwyrach y gwelir cynnydd yn niferoedd y rhai yn honni medru'r iaith, ond y defnydd a wneir ohoni sy'n bwysig. Nid yw gallu ieithyddol o unrhyw werth ynddo'i hun - cymh. y sefyllfa yn Iwerddon. Yno, y ffigur pwysig yw nifer y siaradwyr yn y Gaeltachtai (y Broydd Gweddeleg) - nid y niferoedd sy'n honni medru'r iaith yn y cyfrifiad dengmlynyddol, ond sydd byth yn ei defnyddio, nac ychwaith yn cael cyfle i'w hymarfer. Dal i grebachu mae'r 'parthau cymdeithasol' lle y gellir siarad Cymraeg heb ystyried y peth, boed yn siopio, ffonio tacsi, prynu peint.

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi? Mae gormod o bwyslais yn cael ei roi ar feio unigolion am newid ieithyddol, a rhy ychydig ar y prosesau mecanyddol cymdeithasol sydd yn esgor ar y patrymau hyn. Nid oes y fath beth genynnau ieithyddol. Ffwlbri fyddai i unrhyw un awgrymu bod y dirywiad cynyddol a welir yn Nyfed o'i chymharu Gwynedd (lle - yn l ystadegau'r ymchwil beth bynnag - mae rhieni Cymraeg yn llawer mwy tebygol o drosglwyddo'r iaith i'w plant) yn dangos rhyw anwadalwch penodol ymysg y boblogaeth. Prosesau ar raddfa eang sydd yn peri newidiadau ieithyddol cymunedol, ac o'r herwydd, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol y dylid gweithredu i ddechrau er mwyn eu gwrthweithio, neu beth bynnag sefydlu fframwaith er mwyn datrys y broblem. O'r haen uchaf i lawr; sef y Cynulliad, llywodraeth leol ayb.

    O ran llywodraeth leol, ceir cynghorwyr amlwg o Wynedd yn brolio polisi iaith goleuedig y sir. Un o feysydd pwysicaf gweithredu yn y frwydr i atal y dirywiad ieithyddol yw cynllunio, ac yn benodol datblygu tai. Gellir crybwyll Llandudno, Trearddur, Y Benllech, Aberdyfi ayb. fel enghreifftiau o gymunedau a Seisnigwyd yn llwyr oherwydd gor-ddarpariaeth dai pan nad oedd galw lleol amdanynt. Dyma un o'r prif ffactorau y tu l i ddirywiad y Gymraeg. Ond y mae arweiniad polisi pendant yn caniatau ers tro i gynghorau ystyried effaith ieithyddol wrth drafod ceisiadau cynllunio. Am a welaf fi, nid yw'n cael ei ddefnyddio.

    Lle oedd aelodau adnabyddus y cyngor presennol pan drafododd cyngor Arfon gynlluniau i adeiladu beth fyddai'n geto Saesneg o gannoedd o dai drudion ar gei'r Felinheli, un o bentrefi Cymreiciaf Gwynedd? Yn cefnogi'r cais cynllunio, fyddai'n tanseilio unrhyw bolisau cadarnhaol o eiddo'r cyngor, ac yn chwalu ymdrechion gwiw unigolion lu megis athrawon i hyrwyddo'r iaith yn lleol.

    Yn fy ardal fy hun, eto, cefnogodd gynghorwyr y Blaid gynlluniau i adeiladu cannoedd o dai ar dir glas yn un o ardaloedd Cymreiciaf Bangor, lle mae'r iaith yn cael ei harddel gan y Cymry lleol (er presenoldeb canran sylweddol o newydd-ddyfodiaid). Oll er mwyn manteisio'n ariannol ar werthiant tir o eiddo'r cyngor. Mae rhan gyntaf y datblygiad wedi mynd rhagddi, a'r ardal yn atseinio o swn plant yn chwarae yn Saesneg.

    Mae ar bolisau tai llywodraeth leol, ac arweiniad llywodraeth ganolog, lawer o'r bai am sefyllfa argyfyngus y Gymraeg o fewn ei chadarnleoedd, waeth o dan ba blaid.

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith? Rhaid cael deddfwriaeth yn gefndir i weithredu eang er mwyn nid yn unig atal y dirywiad ieithyddol, ond hefyd normaleiddio'r iaith ledled Cymru. Mae hyn yn golygu poblogaeth yr un mor rhugl yn y ddwy iaith, gan nad yw creu cymunedau uniaith Gymraeg yn ymarferol bellach, yn y dyfodol agos beth bynnag. A rhaid gwireddu'r amcan o eangu tiriogaeth y Gymraeg, nes ei bod yn lingua franca dros ran helaethaf Cymru, gan nad yw rhuglder yn yr iaith leiafrifol ynddo'i hyn, fel y crybwyllwyd, ddim o lawer o werth os na cheir cyfle i'w hymarfer yn ddyddiol o fewn eich cymuned. Dwyieithrwydd ffug a geir yn bresennol, gydag un gymdeithas ieithyddol yn unig yn medru'r ddwy iaith. Ond ar lefel bersonol, rwyf yn gweld ymysg fy nghydnabod Saesneg a Chymraeg (carbwl) ail iaith rhai arwyddion gobeithiol - canran sylweddol ohonynt yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf yn teimlo dyletswydd/rheidrwydd i ddysgu neu loywi Cymraeg, a hynny o ddifrif. Efallai bod hyn yn argoel o symudiad bychan ond eang ymysg y di-Gymraeg, wedi'i ysgogi gan nifer o wahanol ffactorau mae'n siwr. Ond mae'n flodyn bregus iawn allasai'n hawdd wywo yn wyneb oerwynt mewnfudiad sylweddol arall, sydd fe ymddengys yn mynd rhagddi yn awr.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol? Yn sicr y mae angen rhagor o ddeddfwriaeth i sicrhau y perchir hawliau dynol sylfaenol y Cymry Cymraeg. Mae'n gwbl warthus ac annerbyniol nad all rhieni sydd yn dymuno, gael darpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer eu plant, a bod cynghorau'n cael llusgo'u traed am flynyddoedd ac anwybyddu'r galw cynyddol am ddarpariaeth o'r fath, er enghraifft. Yn ogystal a deddf iaith, mae angen bwrdd iaith gweithredol (nid cwango) digon o gyllid (cannoedd o filiynau, fel yng Ngwlad y Basg) ac asgwrn cefn i arolygu pob agwedd ar y Gymraeg, boed yn ddarpariaeth wirioneddol cyrff a busnesi sydd mewn cysylltiad 'r cyhoedd, polisau cynghorau lleol, sefyllfa'r iaith ar lefel gymunedol a llunio strategaethau penodol i'w chefnogi yno, y farchnad dai, y gallu diymwad i roi feto ar gynlluniau datblygu niweidiol, ayb.

    Mae angen hefyd cynyddu gwariant er mwyn cynhyrchu swmp o ddeunydd darllen poblogaidd a rhad yn y Gymraeg. Mater o gyllid digonol eto. Mae cyhoeddiadau Cymraeg yn warthus o ddrud, ac yn ansylweddol. Dim ond y dosbarth canol Cymraeg all fforddio darllen Cymraeg bellach - llyfrau print bras, tua chan tudalen, a ddarllenir mewn tair neu bedair awr, yn costio 6 neu fwy. Mae pob gwlad arall y tu allan i'r byd Saesneg yn cyfieithu canran uchel o'u cyhoeddiadau. Dyma ffynhonnell ddihysbydd o ddeunydd darllen safonol, atyniadol o'u cyfieithu'n fedrus.

    Oddi wrth, Maredudd, Bangor.


    Dydd Gwener, 15 Chwefror.

    Fydd y Gymraeg yn iaith fyw mewn 40 mlynedd? Na fydd, yn y sefyllfa presennol.

    A ydi hi ar gynnydd o ran statws a chryfder? Nac ydy.

    Pwy sydd bwysicaf yng Nghymru o ran achub yr iaith a gwneud yn siwr ei bod yn goroesi? Y gyfraith, a'r Cymry Cymraeg cyffredin.

    Mae Cymuned yn galw am reoli mwy ar nifer y mewnfudwyr sy'n symud i froydd Cymraeg. Oes angen deddfu ac a ddylid gorfodi'r di-Gymraeg i ddysgu'r iaith? Oes mae angen, a mi ddylid trefnu bywyd swyddogol yng Nghymru fel bo'r iaith yn ran hanfodol o ddydd i ddydd mewn broydd Cymraeg.

    Galw am ddeddf iaith newydd mae Cymdeithas yr Iaith - ond a ydi hynny'n angenrheidiol? Ydy.

    Mae mwy o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant at ysgolion cyfrwng Cymraeg ond a ydi'r plant yn cael digon o gyfle i ddefnyddio'r iaith wedyn? Nac ydy, ddim o gwbl.

    Pa mor effeithiol ydi Mentrau Iaith a'r Cynulliad? Dim yn agos at fod yn ddigon.

    A pha mor bwysig ydi technoleg? Hanfodol - mae'r diwylliant fyd-eang Saesneg-Americanaidd yn dibynnu yn hollol ar dechnoleg i'w anablu i ddenu pobl ar draws y byd tuag ato, ac oddiwrth eu diwylliant eu hunain.

    Ond beth ydych chi'n feddwl - be' sydd angen ei wneud i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg? Mae'n rhaid i bobl Cymraeg yng Nghymru beidio a defnyddio Saesneg, a mynnu ar Gymraeg.

    Ai gwneud dim a gobeithio am y gorau ydyn ni fel Cymry? Disgrifiad teg iawn o agwedd y rhan fwyaf o Gymry.

    Oddi wrth, Ifan Morgan, Lloegr.


    Dydd Sul, 17 Chwefror.

    Ar ol yr holl gythrwfwl pan fu Seimon Glyn mor gall a dewr a nodi bod angen deddfwriaeth i achub yr iaith o fewn y cymunedau Cymraeg - a phwy na all anghofio dialedd cegog y Fonesig Glenys Kinnock. Rhyfeddod o bob rhyfeddod -dyma ddatganiad gan Yr Ysg. Cartref (San. Steffan) yn datgan bod yn rhaid i fewfudwyr gael gwybodaeth sylfaenol o'r iaith Saesneg - cwbwl resymol - ond yn fwy na hynny bod rheidrwydd arnynt hefyd i wybod a chydymdeimlo gwerthoedd a thraddodiadau y wlad. Edrychaf ymlaen at glywed yr un datganiad gan y Cynulliad yng Nghaerdydd. Os oes angen amddiffyn iaith gryfaf y byd - beth am y Gymraeg? Faint o ddewrder sydd yng Nghaerdydd?

    O.N. Diddorol fydd darllen ymddiheuriad Y Fns Kinnock.

    Oddi wrth John Japheth.