|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | ||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 15 Chwefror, 2002, 10:25 GMT
Môn: Awyren yn cwympo i'r ddaear
Mae awyren Hawk o Ganolfan Awyrlu Y Fali wedi disgyn i'r ddaear ger pentre Caergeiliog ar Ynys Môn.
Digwyddodd tua 0730 GMT fore Gwener. Fe lwyddodd y peilot i ddianc o'r awyren cyn iddi ddisgyn, ac fe aed ag ef i ysbyty Gwynedd ym Mangor yn diodde o anafiadau i'w gefn. Dywedodd yr awyrlu eu bod nhw'n meddwl mai aderyn yn hedfan i injan berodd y ddamwain. Maen nhw'n dweud fod y peilot wedi trio glanio, ond fe ddaeth hi'n fwyfwy amlwg iddo fod yr Hawk yn colli pwer felly fe benderfynodd ymdaflu ei hyn o'r awyren.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân y Gogledd fod dau o'u cerbydau wedi eu hanfon i'r safle. Glaniodd yr awyren mewn cae 50 llath o ffordd annosbarthedig yng Nghaergeiliog. Yn ôl llygad-dystion fe allai'r awyren yn hawdd fod wedi taro adeiladau. Fflamau a mwg Roedd Frank Roberts rhyw filltir o safle'r ddamwain: "Roeddwn i wrthi'n wyno - mewn efo'r defaid, ac mi glywson ni goblyn o fang enfawr a wedyn bang llai arall ar ei ôl. "Es i draw at fy ffrind a dweud wrtho bod rhywbeth wedi digwydd ac fe ethon ni allan i gael gweld ac fe welon ni fod na fflamau a mwg mawr - ac mi roedd hyn tua milltir - milltir a hanner oddi wrthon ni. "Welson ni ddim son o'r peilot er inni fynd allan yn reit sydyn wedi'r digwyddiad. "Mi gyrhaeddodd y gwasanaethau brys o fewn munudau i'r digwyddiad. "Roedd yna lawer o fflamau a mwg mawr ond fe lwyddodd y gwasanaethau brys ddiffodd y tân o fewn rhyw 5 munud - ac erbyn hyn, mwg gwyn sydd i'w weld yn unig."
|
|||||||||||||