![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||
![]() | |||||||||
![]() | |||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Mercher, 16 Ionawr, 2002, 16:01 GMT
Ewrop: Cynnal ymchwiliad i glwy'r traed a genau
![]() Fe fydd Senedd Ewrop yn trafo effaith clwy'r traed a genau
Yn ôl y disgwyl mae Senedd Ewrop wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol i glwy'r traed a'r genau.
Fe fydd y pwyllgor yn edrych ar sut y gwnaeth gwahanol lywodraethau ymdrin â'r clwy a sut y gellid osgoi argyfwng tebyg eto. Daw'r penderfyniad wrth i'r pwysau gynyddu ar lywodraeth Prydain hwythau i gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Mae'r alwad yma wedi cael ei gwrthod hyd yma. Dim grym cyfreithiol Fe fydd pwyllgor dros dro yn cael ei sefydlu i weld sut y gwnaeth Prydain ymateb i'r clwy. Fe bleidleisiodd Senedd Ewrop ddydd Mercher o blaid cynnal ymchwiliad ac felly fe fydd pwyllgor o 30 o aelodau o bob plaid yn ystyried y dystiolaeth dros gyfnod o tua 12 mis. Yr hyn sydd yn allweddol ydy na fydd gan y pwyllgor unrhyw rym cyfreithiol. Fydd dim modd iddyn nhw felly orfodi neb i roi tystiolaeth. Fe fydd 'na gwestiynau yn cael eu gofyn a fydd llywodraeth Prydain, drwy'r adran materion gwledig, Defra, yn fodlon rhoi tystiolaeth ger bron y pwyllgor. Eisoes mae dau ymchwiliad wedi cael eu cynnal ym Mhrydain, yn Nyfnaint a Northumberland. Hyd yma mae Defra wedi gwrthod rhoi tystiolaeth i'r ddau ymchwiliad yma. Rhydd o'r clwy O safbwynt Ewropeaidd, fe fydd y pwyllgor yn edrych, nid yn unig ar y modd y gwnaeth y llywodraeth ym Mhrydain ymdrin a'r clwy yn y wlad ond hefyd yr hyn a ddigwyddodd yng ngweddill Ewrop. Ac yn amlwg fe fydd y syniad o frechu yn cael ei drafod. Am bron i flwyddyn fe fu clwy'r traed a'r genau yn ergyd i'r diwydiant amaeth ym Mhrydain. Yng Nghymru, fe gafodd 118 o achosion eu cadarnhau, a bron i 350,000 eu difa. Ddydd Mawrth, cafwyd cadarnhad fod yr ardal heintiedig olaf ym Mhrydain, Northumberland, bellach yn rhydd o'r clwy.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |