Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


John Roberts Williams
"Bobol lleol a phwylfol"
 real 28k

Ned Thomas, Mercator
"Gwneud dim pres wrth wneud papur ar y we"
 real 28k

Dydd Mercher, 28 Tachwedd, 2001, 11:51 GMT
Ymchwil i'r galw am bapur dyddiol Cymraeg
Papurau newydd Saesneg Prydain
Mae amrywiaeth o ddewis o bapurau dyddiol Saesneg ar gael
Wrth i chi fwyta'ch brecwast pa iaith ydy'r papur newydd sydd wrth eich ochr?

Saesneg fydd iaith y papur hwnnw mae'n sïwr, achos does 'na'r un papur dyddiol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dim ond ar y we ar dudalennau'r BBC y cewch chi newyddion dyddiol ysgrifenedig yn Gymraeg.

Papur tudalen y we BBC Cymru'r Byd
Mae modd darllen y newyddion bob dydd yn Gymraeg ar y we
Wel tybed allai hynny newid?

Achos mae 'na waith ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd i geisio darganfod os fydde 'na ddiddordeb gan bobol Cymru mewn prynu papur dyddiol Cymraeg.

Mae'r Western Mail yn gwerthu bron i 70,000 o gopïau o'r papur bob dydd yn y de, a'r Daily Post yn gwerthu 46,000 yn ardal y gogledd.

Gyda grant oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd o £60,000, dros y flwyddyn nesaf, fe fydd cwmni Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn gwneud gwaith ymchwil i geisio darganfod a fyddai pobol yn barod i danysgrifio i bapur o'r fath.

Holiaduron

Fel rhan o'r ymchwil, mae holiaduron wedi cael eu dosbarthu ar bapur ac ar y we i bob cwr o Gymru.

Yn ôl Ned Thomas o gwmni Mercator, mae'r canlyniadau hyd yn hyn yn galanogol, ond rhai atebion yn wahanol i'r disgwyl.

Mae John Roberts Williams, cyn-olygydd papur newydd Y Cymro, ac un sy'n frwd dros gael papur newydd dyddiol Cymraeg, o'r farn nad ydy'r papurau dyddiol presennol yn cynrychioli'r Cymry Cymraeg yn iawn.

Wrth siarad gyda nifer o bobol sydd â diddordeb yn y cynllun yma, un syniad sy'n cael ei gynnig dro ar oll tro ydy cynnal papur newydd dyddiol ar y we.

Ond dydy Mr Thomas ddim yn credu y byddai'r fenter honno'n llwyddo.

"Dwi'n gweld sawl budd i'r we ond dydy o ddim yn ffordd o wneud incwm wrth gyhoeddi papur ar y we."

Bydd y gwaith o gasglu'r holiaduron yn dod i ben fis Awst nesaf.

Bwriad cwmni Mercator ydy sefydlu cwmni cydweithredol i weithio ar gynllun busnes, allai yn y pen draw wireddu breuddwyd nifer o weld papur dyddiol Cymraeg ar y bwrdd brecwast bob bore.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.