![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||
![]() | ||||||||
![]() | ||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||
|
![]() |
Dydd Sul, 11 Tachwedd, 2001, 13:05 GMT
Coffau'r rhai fu farw mewn rhyfel
![]() Y Frenhines: Arweiniodd y seremoni yn Llundain
Ledled Cymru mae pobol wedi bod yn coffau'r rhai fu farw mewn rhyfel.
Yng Nghaerdydd ar Sul y Cofio gorymdeithiodd milwyr, bandiau, a chynfilwyr o adeiladau'r Cynulliad ynghanol y ddinas i Gofeb y Rhyfel ym Mharc Cathays. Ypres Roedd yr Arglwydd Faer Russell Goodway yn bresennol tra roedd Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, mewn gwasanaeth coffa yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Roedd gwasanaethau coffa mewn nifer o drefi a phentrefi, gan gynnwys Bangor, Porth Tywyn, Cwmbran, Pontypwl a Blaenafon. Yn Ypres, Gwlad Belg, mae Cymro o Orllewin Cymru'n cael ei goffau. Penderfynodd y pwyllgor lleol ddarllen bob dydd enw milwr fu farw mewn rhyfel.
Dydd Sul enw Elwyn Davies o Narberth, Sir Benfro, sy'n cael ei ddarllen. Bu farw Preifat Davies 84 blynedd yn ôl, pan oedd yn 22 oed. Yn Llundain Y Frenhines arweiniodd y gwasanaeth coffa. Am y tro cynta roedd Llysgennad America yn Llundain, William Farrish, yn bresennol. A gorymdeithiodd Pennaeth Brigad Dân Efrog Newydd, Joe Callan, oroesodd drychineb Canolfan Masnach y Byd, i'r Senotaff gyda dynion tân o Brydain. Yn ogystal ag aelodau o'r Teulu Brenhinol, roedd y Prif Weinidog, Tony Blair, ei wraig, Cherie, a'i dad, Leo Blair, yn gwylio 10,000 o gynfilwyr yn gorymdeithio. Ers diwedd y Rhyfel Mawr, mae milwyr Prydain wedi marw mewn 70 o ryfeloedd ac ymgyrchoedd-cadw-heddwch drwy'r byd.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |