![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||
![]() | |||||||||
![]() | |||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Llun, 5 Tachwedd, 2001, 15:53 GMT
Ymchwil i honiadau am gamdrin merlod
![]() Mae miloedd o ferlod yn gadael Prydain bob blwyddyn ar y ffordd i Ewrop
Mae mudiad atal creulondeb i anifeiliaid yn ymchwilio i honiadau am gamdrin merlod yn rhaglen materion cyfoes BBC Cymru, Taro Naw.
Cyhoeddodd yr RSPCA y bydden nhw'n ymchwilio i honiadau fod merlod Cymreig wedi eu camdrin cyn cael eu difa. Mewn marchnad yn Llanybydder, gorllewin Cymru, honnodd y rhaglen fod ceffylau wedi eu gadael drwy'r nos heb fwyd na dwr. Serch hynny, gwadodd yr arwerthwyr a'r cwmni cludo fod hyn wedi digwydd. Miloedd Mae miloedd o ferlod yn gadael Prydain bob blwyddyn ar y ffordd i Ewrop wrth i'r galw am gig ceffyl gynyddu. Mae cannoedd o'r merlod hyn yn mynd o Gymru ac ym mlwyddyn canmlwyddiant Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig, mae rhaglen materion cyfoes BBC Cymru, Taro Naw, yn gofyn a yw'n bryd atal y gorfridio. Wrth baratoi y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ymwelodd ymchwilwyr Taro Naw â nifer o farchnadoedd ledled Cymru, gan weld cannoedd o ferlod oedd yn cael eu gwerthu, rhai am gyn lleied â phunt, ac yn gorffen eu bywydau mewn lladd-dy. "Mae angen gwell reolaeth ar y fasnach," meddai llefarydd ar ran y rhaglen. Trin yn greulon Y llynedd dangosodd ymchwil y mudiad Compassion in World Farming fod merlod yn cael eu "trin yn greulon ac yn anghyfreithlon" cyn cael eu difa a'u hallforio i'r cyfandir. A dangosodd adroddiad y Comisiwn Ewropeaidd fod angen rheolau cyson oedd y cyfeirio at gludo anifeiliaid. Mae amcangyfri fod bwyta cig ceffyl wedi codi o leia 240% yng Ngwlad Belg ers i achosion cynta ffurf ddynol clefyd y gwartheg gwallgof ddod i'r amlwg ar y cyfandir. Yn 1995 cafodd 7,000 o geffylau eu hallforio o wledydd Prydain. Yn 2000 y cyfanswm oedd 12,000. Taro Naw, nos Lun, ar S4C am 9pm,
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |