Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


Gareth Glyn yn holi Cynghorydd Keith O'Brian
"Mi fydd yr adeilad yn cynnwys canolfan dreftadaeth..."
 real 28k

Adroddiad Llyr Edwards, BBC Cymru
"Ychydig iawn sy'n gwybod am John Roberts yng Nghymru..."
 real 56k

Dydd Gwener, 12 Hydref, 2001, 12:31 GMT
Cynllun i godi cerflun yn Traws i'w sant
Sant John Roberts
Mae llun o'r Sant John Roberts i'w weld yn Eglwys y Groes Sanctaidd, Gellilydan ger Trawsfynydd
Fe fydd 'na gyfarfod cyhoeddus yng Nhrawsfynydd nos Wener i drafod y syniad o gael cerflun yn y pentre yn coffau'r Sant John Roberts.

Yn enedigol o Drawsfynydd, cafodd ei grogi a'i chwarteru yn 1601 oherwydd ei fod yn Babydd.

Yn ogystal â chofio un o bobol yr ardal, mae'r rhai sy'n gyfrifol am y cynllun yn gobeithio hefyd y gallai cael cerflun yn Traws fod o fudd economaidd i'r cylch.

Cafodd John Roberts ei wneud yn Sant yn 1970 gan y Pâb Pawl VI.

Dienyddio

Roedd yn cael ei gyfri'n ferthyr oherwydd iddo gael ei ddienyddio am sefyll dros ei grefydd.

Cafodd ei eni yn Rhiw Goch, ger Trawsfynydd yn 1577 ac fe drodd at Babyddiaeth yn Eglwys Gadeiriol Notre Dame ym Mharis.

Eglwys y Groes Sanctaidd, Gellilydan
Eglwys y Groes Sanctaidd, Gellilydan
Mae llun o John Roberts i'w weld yn Eglwys y Groes Sanctaidd yn Gellilydan ger Trawsfynydd ac mae rhan o'i fys yn cael ei gadw yno.

Ychydig iawn mae pobol Cymru yn gwybod am un o'i seintiau ond mae'n amlwg ei fod yn ffigwr bwysig drwy weddill y byd.

Yn ôl y Canon Mike Tompkins, mae ganddo le pwysig yn hanes Pabyddiaeth.

"Roedd o'n un a fu'n cynorthwyo i ail sefydlu bywyd y mynach ym Mhrydain yn ystod y diwygiad.

"Mae pob mynach ym Mhrydain rwan yn dibynnu ar alwad John Roberts o Traws i fod yn offeiriad y mynach.

"Dwi'n meddwl bod John Roberts yn bwysig i bwysleisio gwir ystyr y merthyron a bod bob un yn dilyn eu cydwybod ac yn parchu cydwybod eraill.

"Ac roedd y merthyron yn gweddïo am faddeuant dros y rhai oedd yn eu lladd."

Canolfan Dreftadaeth

Gobaith bobol Trawsfynydd ydy cael cerflun yn y pentre i gofio'r sant.

Mae adeilad yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd yn y pentref a fydd yn Ganolfan Dreftadaeth sy'n olrhain hanes y Sant John Roberts yn ogystal â'r bardd Hedd Wyn, un arall o feibion enwog Trawsfynydd.

Trawsfynydd
Y gobaith ydy denu mwy o ymwelwyr i Drawsfynydd
Ond mae angen £40,000 i gael cerflun o'r Sant John Roberts yn y pentre.

Dywed Keith O'Brian, aelod o gyngor Cymuned Trawsfynydd bod hi'n bwysig ein bod yn codio am John Roberts.

"Mae'n bwysig cofio amdano gan ei fod wedi cael ei anghofio i bob pwrpas yn lleol ac yng Nghymru.

"Roedd o'n un o saint pwysica Cymru ac yn cael ei gydnabod trwy'r byd gan filiynnau o Gatholigion."

Roedd John Roberts yn un o'r 40 merthyr Cymru a Lloegr.

Cafodd ei ganonyddio yn 1970 gan y Pawb Pawl VI.

Pererindod

"Mae'n andros o bwysig, ac yn bwysig ein bod ni yn y pentra, yn cofio amdano ac yn codi ymwybyddiaeth amdano ac yn codi cofeb er mwyn ei goffau," meddai Mr O'Brian.

Yn ôl Isgoed Williams, Cynghorydd Sir Trawsfynydd fe fydd hyn yn denu mwy o ymwlwyr i'r pentre.

"Fe fydd bobol yn heidio i weld y cerflun ac i glywed am ei hanes.

"Fe fydd hyn yn gymorth mawr, wrth i filoedd o bobol basio drwy'r pentra ar bererindod.

"Ac yn sicr ddigon bydd twristiaieth ar gynydd ac yn rhoi Traws ar y map yn fwy nag ydy o'n barod."

Mae cofeb yn barod yn y pentra i gofio Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, y bardd a fu farw yn y rhyfel mawr ac sy'n symbol o'r miloedd o Gymru ifanc a drengodd yn y rhyfel mawr.

Mae'n bosib y bydd yna gerflun arall yno yn y dyfodol i John Roberts, un arall o hogia Traws a wnaeth yr aberth pennaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.