![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||
![]() | |||||||||
![]() | |||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||
|
![]() |
Dydd Llun, 1 Hydref, 2001, 10:34 GMT
AS yn beirniadu agwedd Llafur at y Gymraeg
![]() Paul Flynn: Galw am gymorth i'r cymunedau Cymraeg
Mae Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Casnewydd wedi honni fod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn anwybyddu buddiannau'r Gymraeg er hunan-les etholiadol.
Mewn erthygl a gyhoeddir yn y cylchgrawn cyfredol o Barn, mae Paul Flynn hefyd yn condemnio ei gyd-wleidyddion Llafur sydd "er cywilydd iddyn nhw" wedi ymuno â "witchhunt" yn erbyn y Gymraeg "yn y gred bod budd etholiadol yn mynd i ddeillio o hynny." Mae Mr Flynn hefyd yn galw am "gyfyngiadau ar breswyl" yn yr ardaloedd Cymraeg yn debyg i'r rhai a argymhellwyd yn ddiweddar gan Barc Cenedlaethol Exmoor. "Er cywilydd iddyn nhw mae rhai cynrychiolwyr Llafur wedi ymuno â witchhunt y Mirror yn y gred bod budd etholiadol yn mynd i ddeillio o hynny." Gwarchod iaith Aeth Mr Flynn yn ei flaen i leisio ei farn ynglyn â'r diffyg gan wleidyddion a swyddogion i gadw'r iaith yn yr ardaloedd Cymraeg. "Os bydd carreg wedi gorwedd ar garreg arall am fil o flynyddoedd, mae llywodraethau yng Nghymru ac yn Llundain fel un yn eu sêl dros eu gwarchod.
Yn yr erthygl fe sonnir am symudiad o fewn y Blaid Lafur Gymreig sy'n egino er coffadwriaeth i'r Arglwydd Cledwyn. "Ond, yn drist iawn, mae'n well gan y rhan fwyaf o'r arweinwyr sefyll i'r naill ochr ac elwa'n etholiadol ar raniadau Plaid Cymru," ychwanegodd Mr Flynn. Dim dyma'r tro cyntaf i Mr Flynn feirniadu'r Blaid Lafur Gymreig. Yn ei lyfr a gyhoeddwyd yn 1999, Dragons and Poodles, mae'r AS yn dadansoddi'r frwydr chwerw rhwng Alun Michael a Rhodri Morgan. Fe ddaw sylwadau Mr Flynn wrth i ddadl ynglyn â'r iaith barhau. Sylwadau Fe sbardwynwyd y ffrae ym mis Ionawr pan wnaeth Seimon Glyn, Gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, sylwadau ynglyn â mewnfudwyr o Loegr. Yn ystod y misoedd diwethaf mae sawl ffigwr amlwg o fewn Plaid Cymru a ffugyrau amlwg yng Nghymru wedi gwneud sylwadau. Dros yr haf fe feirniadodd Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y mudiadau iaith o fethu â chynnig atebion i'r problemau.
"Gwneud cam â'r Gymraeg fyddai hynny. "Soniodd Rhodri Morgan unwaith am y posibilrwydd mai iaith i raddedigion prifysgol yn unig fyddai'r Gymraeg. "Gellir osgoi'r dynged honno trwy adeiladu ar y defnydd presennol o'r iaith fel iaith y werin." "Dylai pob plaid dalu sylw i'r bygythiad i'r Gymraeg. "Mae'r Gwyddelod yn edifar iawn na weithredwyd i gefnogi'r Wyddeleg tan ei bod hi'n rhy agos i'r dibyn. "Gwnaeth hynny'r dasg yn anodd ac yn ddrud. "Mae'r Gymraeg yn dal yn iaith fyw naturiol i lawer o gymunedau, ond dim ond gweithredu pendant all ddiogelu ei pharhad. "Bydd yn rhaid i'r gweithredu hynny gynnwys cyfyngiadau ar breswyl yn debyg i'r rhai a argymhellwyd ar gyfer Exmoor."
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |