BBC Cymru'r Byd sy'n olrhain y digwyddiadau erchyll a achosodd arswyd yn America.
Hwn yw'r dyddiadur trychineb, y digwyddiadau allweddol.
0845 amser lleol (1245GMT) Taith 11 American Airlines yn taro twr gogleddol Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd. Roedd yr awyren wedi gadael Boston ac ar ei ffordd i Los Angeles. Roedd 92 o bobol ar ei bwrdd.
0903 amser lleol Taith 175 United Airlines Flight yn taro twr deheuol y Ganolfan, gan achosi ffrwydriad anferth. Roedd yr awyren wedi gadael Boston ac ar ei ffordd i Los Angeles ac ar ei bwrdd roedd 65 o deithwyr ac aelodau criw.
0910 amser lleol Yn Florida pan yw'r Arlywydd Bush yn darllen i blant mewn stafell ddosbarth daw ei bennaeth staff, Andrew Card, i sibrwd y newyddion.
0920 amser lleol Yr FBI yn ymchwilio i adroddiadau fod awyrennau wedi eu cipio.
0929 amser lleol Adroddiadau cynta fod pobol wedi marw ac wedi eu hanafu. Yn y Ganolfan mae mwy na 50,000 o bobol yn gweithio.
0930 amser lleol Arlywydd George Bush yn datgan: "Mae hon yn drychineb genedlaethol."
0940 amser lleol Taith 77 American Airlines gyda 64 ar ei bwrdd o Washington i Los Angeles yn taro'r Pentagon yn Washington. Wedi ffrwydriad mae rhan o un ochor yr adeilad yn dymchwel.
0943 amser lleol Dywedodd llefarydd Teledu Abu Dhabi fod Ffrynt Ddemocrataidd er Rhyddhau Palesteina wedi hawlio cyfrifoldeb.
Yn ddiweddarach, gwadodd prif swyddogion y Ffrynt eu bod yn gyfrifol amm y cyrch.
0945 amser lleol Staff yn gadael y Ty Gwyn a'r Capitol yng nghanol mwy o fygythiadau.
0950 amser lleol Pob maes awyr yn yr Unol Daleithiau'n cau.
0958 amser lleol Negesydd yn Pennsylvania yn derbyn galwad oddi wrth deithiwr ar Daith 93 United Airlines sy'n dweud: "Maen nhw yn ein herwgipio ni! Maen nhw yn ein herwgipio ni!"
1000 amser lleol Awyren Taith 93 United Airlines yn cwympo 80 milltir i'r de-ddwyrain o Pittsburgh.
Roedd ar ei ffordd i San Francisco o Newark, New Jersey.
0950 amser lleol Twr deheuol Canolfan Masnach y Byd yn dymchwel.
1012 amser lleol Y Prif Weinidog Tony Blair yn dweud fod yr holl beth yn "ofnadwy ac yn ysgytwol".
1025 amser lleol Adroddiadau fod bom car wedi ffrwydro tu allan i'r Adran Wladol yn Washington.
1029 amser lleol Twr gogleddol Canolfan Masnach y Byd yn dymchwel.
1239 amser lleol Bush yn addo y bydd yn chwilio am y rhai oedd yn gyfrifol ac yn eu cosbi.
1320 amser lleol Bush yn gadael Canolfan Awyrlu Barksdale yn Louisiana ac yn hedfan i Ganolfan Awyrlu Omutt yn Nebraska.
1344 amser lleol Dywedodd y Pentagon y byddai saith llong ar hyd arfordir y dwyrain i amddiffyn Efrog Newydd a Washington.
1350 amser lleol Maer Washington Anthony Williams yn cyhoeddi stad o argyfwng.
1400 amser lleol Mae pob marchnad stoc yn yr Unol Daleithiau'n cau.
1448 amser lleol Cyhoeddodd Maer Efrog Newydd Rudy Giuliani y byddai nifer y meirw'n "anhygoel".
1625 amser lleol Cyfnewidfa America, y Nasdaq, a Chyfnewidfa Stoc Efrog Newydd yn cyhoeddi y byddan nhw ar gau yn ystod dydd Mercher.
1630 amser lleol Arlywydd Bush yn gadael Canolfan Awyrlu Omutt ar ei ffordd i Washington.
1720 amser lleol Adeilad 47-llawr yn dymchwel ger Canolfan Masnach y Byd.
2030 amser lleol Bush yn darlledu i bobol America. Mae'n awgrymu y bydd ymateb America'n gryf.