![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||||
![]() | ||||||||||
![]() | ||||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Sadwrn, 1 Medi, 2001, 16:18 GMT
Cymru'n colli cyfle
![]() Giggs yn gapten Cymru, ond yn methu ysbrydoli'r tîm
Cymru 0 - Armenia 0
Yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ddydd Sadwrn cafodd Gymru gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Armenia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Ac mae'r gobaith bychan a oedd ganddyn nhw o fynd i Siapan a De Corea bellach ar ben.
Roedd amddiffyn Armenia'n gadarn. Methodd nifer o chwaraewyr Cymru gyfleon gan gynnwys Iwan Roberts a Ryan Giggs. Methodd Roberts â phenio i'r rhwyd yn yr ail hanner, un o'r cyfleon gorau y gallai Cymru fod wedi ei gael. "Dwi'n siomedig, roedd o'n gyfle gwych i Gymru fynd yn ar y blaen i ennill y gêm," meddai. "Bob tro dwi'n gwisgo crys Norwich mae'r bêl yn mynd mewn, bob tro dwi'n gwisgo crys Cymru dydyn nhw ddim. "Wnaethon ni ddim cymryd y cyfleon oedd yna i ni. 'Adeiladu'r tîm' "Roedd lot o'r tîm yn ifanc, yno mae'r dyfodol, a rhaid eu canmol. "Er na allwn ni fynd ymlaen i'r gystadleuaeth rwan, fe fyddwn ni'n adeiladu'r tîm ar gyfer y dyfodol efo'r bois ifanc 'ma," ychwanegodd. Roberts gafodd ei enwi fel chwaraewyr y gêm. Doedd yr un o'r pedwar chwaraewr, Gary Spead, John Hartson, Mark Pembridge a Nathan Blake, sydd wedi sgori'r goliau yn y bencampwriaeth hyd yma, yn chwarae ddydd Sadwrn. Fe fydd Cymru yn wynebu Norwy yn yr un gystadleuaeth yn Oslo nos Fercher.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |