| Dyma safle: Newyddion | ||||||||
|
Dydd Sul, 16 Medi, 2001, 10:25 GMT
Dadorchuddio cofeb i ferch Glyndwr
Caiff cofeb ferch Owain Glyndwr, Catrin, ei dadorchuddio yn Llundain
Mae Siân Phillips, yr actores enwog o Gymru, wedi dadorchuddio cofeb i Catrin Glyndwr, merch Owain Glyndwr, ynghanol Llundain ddydd Sul.
Mae'r gofeb, yng ngerddi Canon Street, yn dwyn i gof sefyllfa erchyll alltudiaeth a marwolaeth Catrin.
Cipiwyd Catrin Glyndwr a'i phlant, dwy ferch a bachgen, o Gastell Harlech ym 1409 yn ystod gwrthryfel Glyndwr dros annibyniaeth Cymru. Aethpwyd â Catrin a'i phlant i Dwr Llundain yn wystlon. Er nad oes tystiolaeth sut y buon nhw farw, credir fod Mynwent San Swithin lle'u claddwyd nhw o dan erddi Canon Street. Cymdeithas Gymraeg Llundain sy'n cyflwyno'r gofeb. Teulu Monnington Mae nifer fawr yng Nghymru a Chymry Llundain, gan gynnwys Cymry blaenllaw'r y Ddinas, o blaid y gofeb. Cydlynir y cynllun gan Isabel Monnington-Taylor, sy'n hanu o deulu Monnington, Swydd Henffordd. Priododd merch arall Owain Glyndwr aelod o deulu Monnington oedd yn gysylltiedig â'r gwrthryfel. Mae sôn fod Owain Glyndwr wedi ei gladdu yn Llys Monnigton, Swydd Henffordd. Dywedodd Ms Monnigton-Taylor: "Yn dilyn dathliadau coffau 600 mlynedd ers gwrthryfel Owain Glyndwr yng Nghymru llynedd, fe benderfynon ni godi cofeb yn Llundain i goffáu Catrin Glyndwr. Carreg las "Dyma gyfle i ni yn Llundain i gofio Catrin a'i phlant, a'u dioddefaint yn ystod y cyfnod cythryblus yma yn hanes Cymru." Cafodd y gofeb ei chynllunio gan Nic Stradlyn Jones, dylunydd ac artist o Bontypridd, ac fe'i cerfir o garreg las Gelli Gaer. Mae'r cynllun ar ffurf naturiolaidd, luniaidd. Mae'r llinell lefn o waelod y garreg i'r blaen pres yn awgrymu dau ffigwr: mam yn gwarchod ei phlentyn. Mae'r cerflun yn cynrychioli dioddefaint menywod a phlant mewn rhyfel yn ogystal ag ysbryd oesol Cymru. Richard Renshaw o Gwmdu ger Crughywel sydd wedi gweithio'r garreg. Mae'n saer maen dawnus ac mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd ledled Prydain. Ysgrif mewn dwy iaith Mae dwy arysgrif ar y garreg wedi eu cyfansoddi gan Menna Elfyn - un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg. Bydd plant o Ysgol Ardudwy Harlech ac aelodau Côr Meibion Cymry Llundain yn cymryd rhan yn y seremoni dadorchuddio hefyd. Mae'r prif gymdeithasau Cymreig Llundain sy'n gysylltiedig â'r seremoni yn cynnwys Cymdeithas y Cymrodorion, SWS, Clwb Rygbi Cymry Llundain a'r Ysgol Gymraeg. Bydd enwau unrhyw gyfranwyr tuag at y gofeb yn cael eu cynnwys mewn rholyn goffâd mewn capsiwl amser o dan y garreg goffa.
|
|||||||